ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

Nid yw y rhan nesaf yn llawn cystal. Y mae Milton yn peri i'r darllenydd deimlo fod y cwbl yn ysgwyd, trwy fod y gair "shook" ar ddiwedd y llinell; ond y mae hyn wedi ei golli yn y cyfieithiad.

Drachefn:

[merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Mae y geiriau unsill yn Milton yn dangos yr anhawsderau yr oedd Satan yn myned drwyddynt ar ei daith o uffern; ac y mae hyny wedi ei gadw yn y cyfieithiad mor berffaith ag yr oedd yr iaith yn caniatäu. Nodwn un anghraifft arall, yn llyfr ii. llin. 993 :

[merged small][ocr errors][merged small]

Na ddyweder mwy fod yr iaith Gymraeg yn annigonol i osod allan holl syniadau a theimladau y meddwl dynol.

Ymddangosodd cyfieithiad arall o'r llyfr cyntaf o " Goll Gwynfa" yn y seithfed cyflyfr o'r "Gwyliedydd," wedi ei wneyd yn fanwl a medrus. Gan ei fod yn cadw yn nes at yr iaith gyffredin na Dr. Pughe, y mae yn dueddol i ni ei bleidio ef yn hytrach. Ond wrth gymharu y ddau a'u gilydd y mae rhagoriaeth Dr. Pughe yn rhy amlwg i'w wadu. Cymerwn llyfr i. Ilin. 44

"Him the Almighty Power

Hurled headlong flaming from th'ethereal sky,
With hideous ruin and combustion, down
To bottomless perdition; there to dwell

In adamantine chains and penal fire,
Who durst defy the Omnipotent to arms."
PUGHE: tudal. 3.

"Ef lluchiai yr Hollalluawg fel fflam dân
Yn swrth o entyrch nwyfre der, gan ruthr
Dinystriad hyll a llachar losg i lawr
I aphwys coll, i drigaw yno mewn
Cadwynau o faen cellt a thân o gosb,
A feiddiai wrthryn arf trwy hewiad drud
I Ner holl nerthoedd."

[blocks in formation]

A fwriai 'r Hollalluog Dduw i lawr
I waelod distryw, yno i drigo byth
Mewn cadwyn anattodadwy, ac mewn tân
Penydol, am anturio codi arf

Yn erbyn mawredd y Goruchaf Dduw."

66

[ocr errors]

Mae cyfieithiad Dr. Pughe yn y fan yma, fel mewn miloedd o fanau eraill, bron yn berffaith. Mae yr un yn y "Gwyliedydd" hefyd yn dda; ond trwy wanhau pob gair wrth ei drosglwyddo i'r Gymraeg, y mae wedi colli llawer o rym y meddylddrych. Y mae "lluchiai" yn well na "bwriai,” "o entyrch nwyfre der" yn well na "o'r entrych fry," a cadwynau o faen cellt" yn well na "cadwyn anattodol." Y mae 'gan ruthr dinystriad hyll a llachar losg" yn rhagorol fel cyfieithiad o "hideous ruin and combustion;" ond y mae wedi ei adael allan yn y “Gwyliedydd." Cawn yma hefyd brawf mor anhawdd yw newid sefyllfa un gair yn Milton heb niweidio yr ystyr. Ganddo ef, a chan Dr. Pughe ar ei ol, rhoddir y weithred yn gyntaf, sef lluchio Satan, ac yna yr olwg oedd arno pan yn cael ei luchio, sef yn fflamio. Ond prin y medrwn weled fod "fal fflam dán," gan Dr. Pughe, yn ateb i "flaming." Nid fel fflam dân yr oedd Satan yn disgyn pan luchiwyd ef gan yr Hollalluog o entyrch nwyfre, ond fel comet neu haul, yn fflamio wrth ruthro, ac yn gadael llwybr tanllyd o'i ol.

Ond ar y cyfan, nis gwyddom am un cyfieithiad mwy gorchestol na "Coll Gwynfa," gan Dr. Pughe. Gellid meddwl mai yn lled debyg i hyn, er nad yn hollol yr un fath, y buasai y gwaith yn dyfod o law Milton ei hun pe buasai yn ei ysgrifenu yn yr iaith Gymraeg. Nid yw bywyd a grym y gwaith gwreiddiol wedi eu colli wrth ei drawsblanu. Yn y cyffredin y mae y meddwl wedi ei roddi yn hynod o gywir; ac i fedru gwneyd hyn yr oedd mwy na gwybodaeth drwyadl o'r iaith Saesneg yn anghenrheidiol. Ond y mae yn ymddangos i ni fod y cyfieithydd mewn rhai manau wedi camsynied yr ystyr, a chymerwn genad i roddi ychydig anghreifftiau ger bron y darllenydd. Dichon mai ni sydd yn camgymeryd; pa fodd bynag, mae y peth yn werth ymchwiliad. Nid ydym yn dwyn yr anghreifftiau hyn ger bron er mwyn diraddio Dr. Pughe; ond am ei bod o bwys i ni wybod beth yw meddwl Milton yn mhob brawddeg, ac am y dymunem gynhyrfu pawb i farnu trostynt eu hunain, a mynu ei ddeall. Rhoddir Ꭹ rhanau ammheüus o'r cyfieithiad mewn llythyrenau Italaidd ; ac os bydd achos, rhoddir y llinellau rhagflaenol er mwyn gweled y cysylltiad. Cynghorem yr efrydydd ieuanc i wneyd cais ei hun ar y testun gwreiddiol cyn darllen cyfieithiad Dr. Pughe, na'r un rhyddieithol sydd yn ei ganlyn.

Llyfr i. llin. 690.

"Let none admire

That riches grow in hell."

PUGHE: tudal. 26.
"Na hoffed neb

Yn uffern dyfu golud."

Arall mewn iaith rydd, yn cael ei gynnyg fel gwelliant :

"Na ryfedded neb fod golud yn cael ei gynnyrchu yn uffern.”

Pa beth oedd Dr. Pughe yn feddwl wrth hoffi fod golud yn tyfu yn uffern nis gwyddom. Troisom i'w Eirlyfr i edrych am oleuni ar y mater; ond yr unig eglurhad a rydd efe ar y gair hoffi ydyw, "To delight in, or to love."

59

Arall:

Llyfr ii. lin. 220.

"This horror will grow mild, this darkness light,
Besides what hope the never-ending flight

Of future days may bring, what chance, what change
Worth waiting, since our present lot appears
For happy though but ill, for ill not worst,
If we procure not to ourselves more woe."

PUGHE: tudal. 37.

"Yr hylldra hyn

A hyn dywyllwch dudew ysgafnâant,
Ynghyd â pha ryw obaith deg a ddaw
O ddyddiau didranc drafn, pa chwaen, pa dro
A dâl ei araws, can y tardd i ffawd

Ein rhan gynwyddawl er mai sal, o sal
Nid salaf, os na cheisiwn ragor gwae."

"Gan fod ein rhan bresennol yn ymddangos, o un ddedwydd er yn sal, eto o un sal nid y salaf."

Y meddwl ydyw, Er fod ein rhan yn ymddangos mewn cymhariaeth i un ddedwydd yn wael; eto wrth ei golygu fel un wael, nid hi yw y waelaf, oblegid dichon iddi fod yn waeth.

Arall:

Llyfr ii. llin. 556.

"In discourse more sweet

(For eloquence the soul, song charms the sense)
Others apart sat on a hill retired."

PUGHE: tudal. 48.

"Mwynach mewn pwyllaad

(Ffraethineb enaid synwyr yw, ei swyn

Yu can) ar gil eisteddent ereill rai."

"Canys ffraethineb a swyna yr enaid, cân a swyna y synwyr."

Dyben Milton oedd dangos fod ffraethineb yn rhagori ar gerddoriaeth, gan fod y naill yn effeithio ar yr enaid, a'r llall yn unig ar y synwyr. Mae yn amlwg fod y perwyddiad "charms" i'w ddeall ar ol y gair "eloquence," ac y dylid cymeryd "soul" mewn cyflwr gwrthddrychol; fel pe dywedasid, "For eloquence charms the soul, song charms the sense."

Llyfr ii. llin. 968.

"Ye powers

And spirits of this nethermost abyss,
Chaos and ancient night, I come no spy,
With purpose to explore or to disturb

The secrets of your realm, but by constraint

Wandering this darksome desert, as my way

Lies through your spacious empire up to light,

Alone, and without guide, half lost, I seek

What readiest path leads where your gloomy bounds
Confine with Heaven; or if some other place
From your dominion won, th' ethereal king
Possesses lately, thither to arrive

I travel this profound; direct my course;
Directed no mean recompense it brings
To your behoof, if I that region lost,
All usurpation thence expelled, reduce

Arall:

To her original darkness and your sway
(Which is my present journey), and once more
Erect the standard there of ancient night,
Yours be the advantage all, mine the revenge.”
PUGHE: tudal. 63.

Chwi

Alluoedd ac Ysbrydion y fan hon
Yr aphwys isaf, Tryblith a hen Nos,
Nis doaf i chwilota na chyffroi
Cyfrinion eich llywodraeth, ond o raid
Yn crwydraw y diffeithwch cethin hwn,
Gan fod fy ffordd ar draws eich eang wlad
I wawl, ar goll, yn unig, heb rwyddâad
I chwiliaw rwyddaf llwybr hyd wrth y Nef
Y minia cudd fargodion hwn eich byd;
Neu os rhyw arall fan, oddiwrthych chwi
O drais y sydd yn meddiant brenin gwawl,
Er cyrchu yno yr eangder hwn

A deithiaf; rhwyddwch ar fy hynt; ac o
Gyfrwyddaw ni bydd salw y dal yn ol
I chwi, y dalaeth hono os collais, pob
Trawsfeddiant ynddi wedi cael ei roi

I lawr, idd ei chysefin wyll ac idd eich rhwysg
Adferwch hi (hyn weithion yw fy nhaith)
A derchwch eto yno faniar Nos;

Y fudd doed oll i chwi, y dial i mi.”

"O gyfrwyddaw ni bydd salw y dâl yn ol i chwi, os y dalaeth golledig hono (pob trawsfeddiant ynddi wedi cael ei roi i lawr) a adferaf idd ei chysefin wyll ac idd eich rhwysg (yr hyn yw fy nhaith yn awr), ac os derchafaf yno unwaith eto faniar Nos." Mae y rhan flaenaf o'r dyfyniad hwn wedi ei gyfieithu yn ardderchog, mewn iaith ystwyth, Gymreigaidd: ond tua'r diwedd mae yr ystyr wedi ei newid yn hollol. Satan sydd yn llefaru: ond nid efe oedd wedi colli y dalaeth newydd, oblegid nid oedd erioed eto wedi ei meddiannu. Oddiar Dryblith a hen Nos yr oedd Brenin gwawl wedi ei chymeryd, fel y dywed Satan wrthynt yn y llinellau o'r blaen. Ond Satan ei hun oedd yn bwriadu ei hadferu, a dyrchafu yno faniar nos. Yn yr ymadrodd, "if I that region lost," y mae "I" yn weithredydd, neu fel y geilw rhai ef, yn enwedigaethydd, i'r perwyddiad "reduce;" y mae "region" yn wrthddrych i'r un perwyddiad ; a lost" yn ansoddair; a'r cwbl i'w ddeall fel hyn, "If I reduce that lost region, and erect there the standard of ancient night.”

Arall:

66

[blocks in formation]

Mae yn hysbys i bawb sydd yn gwybod dim am Saesneg fod y gair "affect" yn dra mynych yn arwyddo uchelgeisio. Gellid tybied fod Dr. Pughe yn y fan yma wedi ymddiried y gwaith i ofal rhyw un oedd yn affectio pethau mawrion, er ei fod mor anghymhwys ag oedd swyddogion Cymdeithas y Biblau mewn un man, y rhai a ddywedent yn eu hadroddiad eu bod wedi anfon swm penodol i " Gymdeithas y Rhieni," sef i'r Parent Society.

Llyfr iii. lin. 290.

[blocks in formation]

Nid ydym yn benderfynol yn collfarnu y cyfieithiad hwn fel un anghywir; oblegid nid yw yn iawn cyhuddo neb o anghywirdeb nes deall pa beth oedd efe ei hun yn feddwl wrth y geiriau a ddefnyddid ganddo. Dichon fod Dr. Pughe yn cymeryd "ammodedig" yn yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair cyfrifedig." Yn ei Eirlyfr y mae yn ei gyfieithu covenanted. Ond yr ydym yn galw sylw ato fel geiriad anarferol ac ammheüus.

66

Arall:

Llyfr vi. lin. 150.

"Ill for thee, but in wish'd hour

Of my revenge, first sought for thou return'st

From flight."

PUGHE: tudal. 167.

"I ti gwaeth, ond ar awr

Fy nial, cyntaf ceisid: canys ti

O ffo dychweli."

"Ti yr hwn a geisid yn gyntaf wyt yn dychwelyd o ffo."

Mae Dr. Pughe wedi gosod yr attalnodau yn wahanol: ond mwy tebyg fod "for" yn perthyn i "sought" nag i "return'st;" gan nas gellir gweled pa fodd yr oedd gwaith Abdiel yn dychwelyd o ffo yn rheswm dros yr hyn a ddywedir o'r blaen.

Arall:

Llyfr vi. llin. 162.

"This pause between

(Unanswered lest thou boast) to let thee know."

PUGHE: tudal. 168

"Hyn o osteg rhwng (na bod

Atebiad rhag dy ffrost) er dy bwyllau.”

"" 'Rhag, os heb atebiad, i ti ymffrostio."

Y mae meddwl y cyfieithydd yn y fan yma eto yn aneglur: ond nid oes un ammheuaeth nad yr ystyr gwreiddiol yw, Lest thou boast, if unanswered. Llyfr x. llin. 999.

"Then both ourselves and seed at once to free

From what we fear for both let us make short,

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »