ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

mewn dull o ofyniad—“Pa fodd y safai yr Eglwys gyda pherffaith oddefiad:" o'n rhan ni, buasem yn dyweyd "perffaith ryddid;" ond ni a'i gadawn fel y cawsom ef-" perffaith oddefiad." Y mae yn sylwi; "Tybiwch fod eglwys yn rhoddi y flaenoriaeth benderfynol i lywodraeth esgobawl, heb ei hystyried yn anhebgorol hanfodol i'w bodolaeth, ond yn tueddu yn well i'w lleshad; nid fel peth gwir anghenrheidiol, ond cyfaddas; a hyn yn benaf gyda golwg ar ei lleshad ei hun, heb benderfyniad dieithriad o berthynas i eglwysi eraill; y mae yn agos yn anmhosibl i flaenoriaeth wyliadwrus fel yna achlysuro ymryson na digter. Ond os taera fod y cyfryw lywodraeth-drefn o ddwyfol awdurdod, a dadleu ei hawl i ddyddymu sacramentau a gweinyddiadau pob eglwysi eraill, rhaid iddi ddysgwyl cyfarfod â chilgwthiad. Ac ar y llaw arall, pe byddai i eglwys, ar gyfrif cystadleddiaeth (parity) ei gweinidogion, ddyrchafu ei hun goruwch eglwysi eraill, ac edrych ar yr urdd esgobaidd, yn ei sefydliad gwreiddiol, fel rhywbeth Pabaidd ac anghristionogol, nis gallai lai, trwy y fath afrad, nac iselu ei hun yn ngolwg pob meddwl ystyriol a diragfarn."1 Dyna, yn nghyfrif yr ysgrifenydd, yw gwir Brotestaniaeth, ac yn hanfodol i ryddid crefyddol, a chydnabyddiaeth eglur ac ysgrythyrol o hawliau cydwybod dyn i farnu drosto ei hun, yn sylfaenedig ar yr athrawiaeth ysgrythyrol o gyfrifoldeb dyn i Dduw. A chan y rhaid iddo "roddi cyfrif drosto ei hun i Dduw," dylid caniatäu iddo ddefnyddio gwirioneddau dwyfol am ei iachawdwriaeth, a ffurfio ei farn ei hunan. Y mae Pabyddiaeth a gwŷr yr olyniant yn gwadu hyn, trwy fynu yr hawl i feddwl trosom, a'r holl awdurdod i weinyddu y gair a'r sacramentau. Yn hyn y mae y gwir wahaniaeth rhwng y ddwy gyfundrefn-dyma yw y gagendor mawr; a chan fod gan bob un ei safle ei hun-un y tu yma, a'r llall y tu acw-nis gallant gydgymysgu y maent yn wrthdroedolion i'w gilydd; a phawb sy'n dadleu dros ddwyfol hawl, ac, fel o ganlyniad, unig hawl i weinyddu y gair a'r sacramentau, a thros gymundeb â hwy mewn trefn i feddiannu iachawdwriaeth trwy ba enwad bynag y gallant gael eu gwahaniaethu gan ddynion, neu yn mha le bynag y gallant fod yn trigiannu, ydynt wrth-brotestanaidd.

Y mae yr athrawiaethau Pabaidd hyn, pa le bynag y ceir hwynt, yn profi o ba le y daethant trwy yr effeithiau y maent yn eu cynnyrchu, ac yn dangos nad ydynt yn ol duwioldeb. Y mae yn amlwg beth oedd ac ydyw eu heffeithiau yn y cyfundeb Pabaidd y balchder, y gorthrymder, yr erlidigaeth, y creulondeb, y trais, a'r tywallt gwaed, a hynododd yr eglwys hono erioed, a ellir ei olrhain, yn uniongyrchol neu yn gasgliadol, i'r hollol awdurdod a fynir ganddi i feddwl tros, ac i lywodraethu cydwybodau dynion. Y mae yr un opiniwnau yn amlwg yn dwyn yr un ffrwythau yn hollol yn arwain i'r un canlyniadau naturiol-cybelled ag y mae amgylchiadau gwahanol y pleidiau yn caniatäu, yn Eglwys Loegr. Edrycher, er esiampl, ar eu tueddiad rhwygol, eu cymeriad gwrthodedig, a'u tueddiadau Antinomaidd. Iaith eu hymddygiad ydyw

[ocr errors][merged small]

Ac os nad ydyw eu cefnogwyr yn dywedyd wrth weinidogion eraill, "Sefwch draw! canys sancteiddiach ydym ni na chwi," y maent yn dywedyd,

1" Bates' Christian Politics" tudal. 240, 241.

"Y mae genym ni awdurdod nad oes genych chwi-ffug-ordeiniad yn unig a gawsoch chwi ymwthwyr ydych i'r swydd offeiriadol-nis gallwn ni ddal cymundeb â chwi; oblegid nid ydych yn canlyn gyda ni." Pwy bellach yw y sismaticiaid? Yn ddïos, y rhai sy'n gwrthod dal cymundeb a'r rhai sy'n bwrw allan gythreuliaid, a'r rhai y mae Duw yn arddel eu llafur, er nad ydynt yn canlyn gyda hwy.

Y mae gweithrediadau allanol yr athrawiaethau hyn i'w gweled yn eu gwaith yn nacäu hawl beddrod i'r rhai hyny sydd weinidogion cyfundebau eraill; ac y mae amgylchiadau felly yn dygwydd yn fynych mewn amryw barthau o'r deyrnas. Ond y maent hwy yn myned tuhwnt i Rufain ei hun, canys y mae y Pabyddion yn caniatau gwirioneddolrwydd bedydd llëygol. Y mae Pabyddiaeth yn ystyried bedydd yn anhebgorol i iachawdwriaeth; ac am hyny yn caniatäu i unrhyw ddyn neu ddynes, mewn achos o berygl, i'w weinyddu; eithr ein hapostolion ni a daerant dros anghenrheidrwydd bedydd er iachawdwriaeth, ac er hyny ni chaniatânt i neb ei weinyddu ond hwy eu hunain. Pwy a all ddarllen heb ofid lythyrau Ficer Gedney at weinidog cyfrifol yn y cyfundeb Wesleyaidd, yn y rhai y gwelodd y gwr boneddig hwnw yn briodol, heb roddi iddo y cyffroad Hleiaf, alw yr holl weinidogion, ond rhai yr Eglwys Wladol, yn "weinidogion uffern, a mountebanks ymneillduedig," &c.: a'r hyn sydd yn hynotach fyth, ymddangosai fod ei esgob yn cyfiawnhau ei ymddygiad a'i eiriau, yn hytrach na'u cilgwthio-yr iaith wrthun uchod yn cael ei cheryddu yn debyg fel y ceryddodd Eli ei feibion !

Y mae y tybiau eithafol hyn yn arwain eu hamddiffynwyr i ddyryswch sydd weithiau yn boenus, a phryd arall yn warthus. Gwnai gwrthod hawliau claddedigaeth, oddieithr rhai a fedyddiwyd yn esgobaethol, gau allan Archesgob Secker o gladdedigaeth Gristionogol; canys gan un o'r rhai a alwyd gan Ficer Gyn "mountebanks ymneillduedig" y bedyddiwyd ef. Pe buasai yr archesgob yn cael ei ddwyn i'w gladdu at Mr. Ebuasai raid iddo wrthod darllen gwasanaeth y claddedigaeth uwchben prif esgob holl Loegr. Drachefn, sylwai Syr John Nicholls, yn ei ddyfarniad ar achos "Hemp yn erbyn Wicks," offeiriad, "y buasai y rhybric, yr hon a ddadleuir gan rai offeiriaid fel sail nacäu claddu plant na fedyddiwyd yn esgobyddawl, yn cau allan Iago I. a'i blant oddiwrth gladdedigaeth Gristionogol, yn ol trefn Eglwys Loegr." Ac y mae yn awr lawer o offeiriaid, y rhai sy'n feibion i Ymneilldüwyr, Methodistiaid Calfinaidd, a Wesleyaid, y rhai na fedyddiwyd erioed yn esgobyddawl, y rhai, er y gadewir iddynt weinidogaethu yn yr Eglwys; a rhai o honynt mor'ddwfn yn y dyb am eu holyniant, ac yn siarad mor ymffrostgar am awdurdod eu "heglwys apostolaidd " a Dr. Hook ei hun, neu y mwyaf Puseyaidd a semi-pabaidd o'r lot; er hyny nid oes ganddynt hawl i gladdedigaeth Gristionogol, cybelled ag y mae gwasanaeth a threfn yr Eglwys Sefydledig yn cyfansoddi hyny yn gywir yn ol eu hegwyddorion hwy eu hunain. Y fath ganlyniadau gwrthun a dirmygus sy'n tarddu o ddwyn allan i'w gweithrediadau naturiol eu hunain y tybiau-nid semi, ond ultra-pabaidd hyn! Yn wir, y maent mor wrthun fel nas gellir eu gweithio allan, pa mor olygus bynag y gall rhai dynion ymresymu ar hawl ddwyfol esgobyddiaeth, a gwendid ac afreoleidd-dra gweithrediadau gweinidogaethol pawb eraill, pa mor olygus bynag y gall ymddangos ar bapyr, nis gellir ei gario allan i weithrediad -ni weithia-y mae yn anmhosibl ei effeithio yn drwyadl. Canys pwy

offeiriad a fuasai yn meddu y fath galedwch a nacäu claddu Iago I., neu ei fab Siarl y Merthyr (fel y geilw yr Eglwyswyr Siarl 1.), neu Archesgob Secker y ddau gyntaf yn benau gwladol, a'r olaf yn ben crefyddol Eglwys Loegr. "Os dywed neb wrthych," meddai y Dr. A. Clarke, "nad ydyw eich bedydd yn ddigonol neu gyfreithlawn, argyhoeddwch ef o’i gamgymeriad, os gellwch, trwy ddangos iddo nad yw ei haeriad yn iawn. Y mae eich bedydd chwi mor gyfreithlawn ac mor effeithiol i bob dyben Cristionogol a gwladol, ag ydyw yr eiddo Archesgob Caergaint. Dyma oedd ystyr ein cyfraith erioed mewn cyfeiriad at fedyddiadau yr Ymneilldüwyr; ond nid eglurwyd y meddwl hwnw yn llawn hyd o fewn ychydig flyneddau yn ol. Mi a wrandewais yr ymresymiadau yn Llys y Penadur (Court of Arches), ger gŵydd Syr John Nichol, yn achos Kemp v. Wickes, offeiriad, yr hwn a ballasai ganiatäu claddedigaeth Gristionogol i blentyn y cyntaf, yr hwn oedd Ymneilldüwr; oblegid y mynai na chafodd fedydd Cristionogol, am ei fedyddio gan weinidog Ymneillduedig. Ond y barnwr dysgedig, gan chwilio arferiad ac athrawiaeth yr eglwys Gristionogol, o'r apostolion hyd yr ailbrawfiad diweddaf o'r Litani, a brofodd fod yn mhob achos lle yr oedd dwfr yn cael ei ddefnyddio fel yr elfen, a'r enw sanctaidd Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn cael galw arno yn y weithred o daenellu, neu drochi, fod yno fedydd wedi ei weinyddu i bob dyben a bwriad Cristionogol, heb ddim cyfeiriad neillduol at y person oedd yn gweinyddu; -fod yr eglwys bob amser yn casäu ailwneuthuriad neu fynychiad o fedydd, hyd yn nod lle yr oedd personau yn gweini a gyfrifid yn hereticiaid, pan y profwyd yn llawn mai dwfr a ddefnyddiwyd, a bod y person wedi ei daenellu, neu ei drochi, yn enw y Drindod byth-fendigaid. Yna efe a'i rhoddodd fel barn y llŷs, fod y cyfryw fedydd, wedi ei weinyddu gan weinidog Ymneillduedig, neu berson mewn ordeiniad sanctaidd, neu a gymerid fod mewn ordeiniad sanctaidd, yn fedydd effeithiol a chyfreithiol i bob bwriadau Cristionogol a gwladol. Dyma, gan hyny, yw athrawiaeth yr eglwys a'r wladwriaeth ar y pen hwn; a dyma oedd athrawiaeth y ddau erioed cyn yr ardystiad hwn; canys nid yw cyfreithiau Mr. James W—, na Rubric y brenin Iago, yn y "Llyfr Gweddi Cyffredin," yn ddim awdurdod gyfreithiol, ac o ganlyniad, yn deilwng o ddim parch, gyda golwg ar y pwnc mewn dadl. Y mae y gwrthwyneb yn athrawiaeth beryglus a gau, cyflawn annheilwng o ysbryd cariadus ac urddasol Cristionogaeth. Y mae yn beryglus, am y gall ddyrysu un o'r dadleuon gwladwriaethol pwysicaf a all ddyfod o flaen y cyffredin Brutanaidd.

"Mr. Thomas Secker, yr hwn a fu wedi hyny yn Archesgob Caergaint, ond yn fab i weinidog Ymneillduedig, a anwyd yn 1693, a fedyddiwyd yn ol dull yr eglwys hòno, ac a fu yn efrydu mewn tair o ysgolion Ymneillduedig yn olynol, hyd nes oedd yn bedair ar bymtheg oed, pan yr aeth i Brifysgol Rhydychain, ac wedi hyny a ymunodd â chymundeb Eglwys Loegr. Yn 1732, efe a enwyd yn un o gapelwyr y brenin; yn 1733, efe apwyntiwyd yn berson Sant Iago; Ionawr 5ed, 1734, efe a ddyrchafwyd i esgobaeth Caerodor; i Rydychain yn 1737; yn 1750, efe a newidiodd gorhawl (prebend) Durham a phersoniaeth Sant Iago, am ddeoniaeth Sant Paul; ac yn 1758, efe a enwyd ac a sefydlwyd i archesgobaeth Caergaint. Efe a weinyddodd yn nghladdedigaeth y brenin Sior II., ac yn nghyhoeddiad y brenin Sior III., yr hwn a fedyddiodd efe pan oedd yn berson Sant Iago, a'r hwn, gyda'i frenines, a briododd, ac a goronodd, Medi 8fed, 1761;

ac ar yr 8fed o Fedi, 1762, efe a fedyddiodd Dywysog Cymru, ac amryw o blant eu Mawrhydi wedi hyny. Nid ydym yn clywed dim iddo erioed gael ei ailfedyddio. Os nad oedd ei fedydd yn Gristionogol, effeithiol, a chyfreithlawn, o ganlyniad nis gallasai fedyddio nac ordeinio; ond efe a wnaeth bob un o'r ddau. Yn awr, pe caniataem yr athrawiaeth anghristionogol a pheryglus nad oes un bedydd yn effeithiol neu gyfreithlawn, ond yr hwn a roddwyd gan offeiriad Pabaidd, neu offeiriad o Eglwys Loegr, yna canlynai yr anghenfileidd-dra a'r ffieidd-dra hyn :-nad oedd y brenin Sior III. yn gristion, canys efe a fedyddiwyd gan ddyn yr hwn na fedyddiwyd erioed ei hun; ac nid oedd yn frenin cyfreithlawn, canys efe a gysegrwyd gan ddyn nad oedd yn gristion! A chwaneger at hyn oll, y mae y gwir ddilyniad yn yr Eglwys yn cael ei rwystro a'i dori, canys yr oedd holl fedyddiadau ac ordeiniadau Archesgob Secker, nid yn unig pan oedd yn llywyddu archesgobaeth Caergaint, ond hefyd pan oedd yn offeiriad gwledig, ac yn ddilynol Esgob Caerodor, ac yn Esgob Rhydychain, yn ofer ac anghristionogol; ac y mae yr holl urddasau uchel-eglwysig a ddisgynodd trwy y llinell hòno yn ffugiol; ac y mae holl sefyllfa yr Eglwys Sefydledig yn ansafadwy a llygredig! Gwareded Duw ni rhag y fath athrawiaeth anghristionogol, ansanctaidd, ac anghyfreithlawn."

Ond y rhan fwyaf gwrthwynebus o'r athrawiaeth hon yw ei thuedd Antinomaidd. Y mae yr ysgrifenwyr Pabaidd yn gwneyd gwahaniaeth rhwng sancteiddrwydd personol ac awdurdod weinidogaethol. Y mae yn osodiad ganddynt, "pa bryd bynag yr apwyntir dyn yn gyfreithlawn yn weinidog, na all heresi nac anfoesoldeb wneyd ei weinidogaeth yn ofer." Y mae yr ysgrifenwyr Pabaidd eu hunain yn galw Stephan vi. y dyn mwyaf drygionus, a'i fod yn cael ei gyfrif yn rhif y pabau, rhag gadael bwlch yn y rhif-rhag colli dolen o'r gadwen. Dywedant iddo chwanegu pechod ar bechod, trwy gyfiawnhau ei ddrygioni mewn cymanfa—y melldithiai hyd yn nod y ceryg ef, ac y buasai yn well pe llabyddiasid ef â meini, na bod i Eglwys Rhufain gael ei hiselu trwy y fath warth; ddarfod i brif balas y pabau, yn y Lateran, syrthio i'r llawr, fel yn analluog i sefyll pan y siglwyd ei gonglau gan y fath erchyllwaith dychrynllyd, sef ei waith yn codi corff Formosus. 3 "Ond eto," chwanegant, "er fod y Pab Stephan yn ddyn mor ddrygionus, ni ddylai yr hereticiaid ein diystyru ni yn erbyn addewidion Crist, a wnaed trwy Sant Pedr i'w eglwys; canys nid oedd yr oll a ddywedodd neu a wnaeth Stephan yn erbyn Formosus ond gweithredoedd o wallgofrwydd neu ynfydrwydd yn unig. Ond gan ei fod wedi ei wisgo yn gyfreithlawn â'r awdurdod Babyddol, nas gallasai gyfeiliorni yn erbyn ffydd na moesau da."4

Yr oedd Ioan XII. yn gawrfil mewn drygioni. Ni ddifwynwn ein papyr â darluniad o'i gymeriad; "ond er gwaethed oedd ei ddrygau ef," meddai awdur Pabaidd, "nis gallent niweidio na gwarthruddo y ffydd Babaidd ; canys yr ydym ni oll yn cydnabod St. Pedr, a gall ei olynwyr, wedi iddynt dderbyn yr addewid, gyfeiliorni mewn moesau, ond nid mewn ffydd.”

Pa fodd y mae yr Uchel-eglwyswyr-gwŷr yr olyniant-yn ymdebygoli i

1" Dr. Adam Clarke's Letter to a Preacher."

2 Efe oedd y pedwerydd pab ar ddeg ar ol y cant-dolen pedwerydd ar ddeg ar ol y cant, yn ol cyfrifiaeth y Pabyddion, trwy ddechreu yn Pedr yr apostol.

3" Cook's History of the Apostolical Succession." tudal. 44.

4" Howell's View of the Pontificate:" tudal. 178, 179.

Babyddiaeth yn hyn, a ellir ei weled trwy ddosraniad o bregeth a bregethwyd ar gysegriad eglwys newydd, gan urddasolwr o'r Eglwys Wladol, yn y flwyddyn 1809:-"I'r swydd apostolaidd y gwnaed yr addewid fawr hon (Math. xxviii. 18, 19). Hon, gan hyny, yw y swydd i'r hon y gwnaed addewid ein Harglwydd, y byddai efe gyda hi bob amser hyd ddiwedd y byd; gyda HI, hyny yw, nid felly, fel ag i ffurfio y personau a wisgir â hi yn arbenigol, ond fel ag i wneyd y swydd ei hun yn effeithiol i'r amcan mawr i'r hwn y cafodd ei sefydlu. Gall y gweinidogion fod yn anghymeradwy, ac er hyny fod yn offerynau anrhydeddus yn llaw Duw i gyfleu gwybodaeth achubol o'i wirionedd i filoedd. Nid sancteiddrwydd personol-nid hyd yn nod zel tros ogoniant Duw ac iachawdwriaeth dynion, a all wneyd unrhyw wasanaeth gweinidogaethol y budd lleiaf." Y mae Esgob Beveridge, yn ei bregeth ar y testun uchod, yn cymhwyso yr addewid at y swydd apostolaidd; ac ar y tir hwnw yn amddiffyn gweinyddiadau gweinidogion drygionus.1 Y mae Blunt hefyd yn ei "History of the Reformation," yn cyhuddo Wickliffe, "seren foreu y diwygiad," o gyfeiliornad, oblegid ei fod yn dal fod "drygioni yr offeiriaid Pabaidd yn halogi eu gweinidogaeth," yn dyfynu 1 Sam. ii. 17. i'w brofi-un o'r dyfyniadau mwyaf anmherthynasol a allesid fyth ei wneyd; canys y mae yn chwalu ei athrawiaeth, wreiddyn a changen. Canys am ddrygioni meibion Eli y digiodd Duw mor fawr, fel y torodd hwynt ymaith, ac y tystiolaethodd fod ei anrhydedd ef a'i achos yn gysylltiedig anwahanol âg ymddygiadau da ei weinidogion; "Canys," meddai efe, "fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir;" 1 Sam. ii. 30. Hynod fod neb yn cymeryd achos meibion Eli i brofi fod Duw yn arddel gweinyddiadau dynion drygionus!

ac

Y mae yn eglur fod y diwygwyr o dyb wahanol i Babyddion a phleidwyr yr olyniant-oddiwrth y canon sy'n gofyn tystiolaethau o ymddygiad da yr ymgeisydd cyn iddo gymeryd urddau, ac y mae Erthygl xxvi. yn edrych yr un ffordd; canys, er ei bod yn dysgu "nad yw effaith ordinhad Crist yn cael ei thynu ymaith trwy ddrygioni y gweinidogion oddiwrth y rhai, trwy wir ffydd, sy'n derbyn yr unrhyw," eto, ymddengys mai at y rhai sy'n euog o ryw bechodau dirgelaidd y mae hyn yn gymhwysiadol, canys y mae yr erthygl yn gofyn "bod i weinidogion drwg gael eu cyhuddo gan y rhai a fo'n gwybod am eu troseddau; ac yn ddiweddaf, wedi eu cael yn euog, trwy farn gyfiawn, gael eu diswyddo." Y mae y rhan ddiweddaf o'r erthygl yn sicrhau yr ystyr y mae y rhan gyntaf i'w ddeall; ac yn wir, y mae y rhan gyntaf yn caniatäu fod drygioni y gweinidog yn guddiedig, canys prin y gellir meddwl y gall fod gan neb, â Bibl Duw yn ei law, ffydd yn ngweinyddiadau dyn drwg: canys dywed Duw am y drygionus, "Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfammod yn dy enau? gan dy fod yn casäu addysg ac yn taflu fy ngeiriau i'th ol;" Salm 1. 16-23. A thrachefn, dywed Duw, "A mi heb eu gyru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hyny ni wnant ddim lles i'r bobl hyn;" Jer. xxiii. 32. Ac y mae yn eu rhybuddio i "ochelyd gau-brophwydi;" a'r safon wrth ba un y maent i gael eu profi yw, nid wrth ddolenau yr olyniant, ond "wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt." Yn awr, â'r geiriau hyn o'n blaen, nis gallwn braidd ddysgwyl neu gredu y bendithia Duw

[blocks in formation]
« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »