ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

weinyddiadau dyn adnabyddus ddrygionus nid oes grym i arferyd ffydd; ond os bydd gweinidog yn ddrygionus anadnabyddus i'w gynnulleidfa, a hwy yn credu ei fod yn gywir, gallant yn hyderus ddysgwyl bendith Duw ar ei weinyddiadau, a chael budd ysbrydol trwyddynt. Yn y golygiad yna y mae cysondeb rhwng dwy ran yr erthygl a'u gilydd y cwbl yn eglur; ond nid ar un tir arall.

Y mae rhai dyledswyddau yn perthynu i'r weinidogaeth Gristionogol nad yw yn bosibl i ddyn drygionus neu annychweledig eu cyflawni. Sieryd yr apostol am ddyddanu y bobl "â'r dyddanwch y dyddanwyd ef ei hun gan Dduw." Yn awr, gellir meddwl nad oes gan y gweinidogion drygionus hyn ddim dyddanwch oddiwrth Dduw, na chymdeithas âg ef; canys "yr hwn sy'n gwneyd pechod, o ddiafol y mae." Swyddogol yw yr hyn oll sydd rhwng Duw a gweinidogion drygionus, yn sylfaenedig ar eu bod yn ddolenau yn nghadwen yr olyniant; canys Bellarmine, yn nghyflwyniad ei waith i Sixtus V., tra yr haera "ei fod yn wir bab, ac yn ficer Crist ar y ddaear,” a addef wedi iddo farw ei fod wedi myned at ddiafol.1 Pa fodd y gall y cyfryw weinidogion fod mewn gofid esgor ar bechaduriaid edifeiriol, "hyd oni ffurfier Crist ynddynt ?" neu pa fodd y gallant hwy gydymdeimlo â'r credadyn yn ei orthrymder, a chysuro pobl Dduw ? neu fod" "yn addfwyn yn eu plith, fel mamaeth yn magu ei phlant." Dynion, y rhai mae eu calonau digyfnewid yn elyniaeth yn erbyn Duw-gweinyddiadau y rhai sydd oll o wneyd crefftwriaethol yn troi dynion trwy weinyddiad y sacramentau―ailenedigaeth y rhai yw bedydd, a'r cymun yn drwydded i'r nefoedd! Y mae y tybiau hyn yn myned dan wraidd crefydd brofiadol, ac yn gwneyd "teyrnas nefoedd yn fwyd a diod," yn ddefodau ac arferiadau, yn lle "cyfiawnder, tangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glan."

y

Drachefn, y mae y tybiau hyn mor wrthwynebol i reswm a phob cyffelybiaeth ag ydyw i'r ysgrythyr. Canys i beth y sefydlwyd y weinidogaeth Gristionogol? Wel, "i droi dynion o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw"-i ddeisyf ar wrthryfelwyr gymmodi â Duw, ac i ymwrthod â'r traws-lywodraethwr sydd yn gormesu arnynt. A glywyd erioed am un brenin daearol yn defnyddio gelynion-gwrthryfelwyr a'u calonau yn llawn gelyniaeth tuag ato-deiliaid llywodraeth arall yn negeseuwyr drosto, i wneyd cytundeb yn ei enw â'i ddeiliaid gwrthryfelgar, a'u perswadio i gymmodi â'u penadur cyfreithlawn? O'r holl bethau ynfyd y bu breninoedd ynfyd neu ddrygionus, neu eu gweinidogion, erioed yn euog o hono, gallwn anturio dyweyd na buont erioed yn euog o'r fath anfad ynfydrwydd a gwallgofrwydd a hyn-y mae y dybiaeth yn rhy wrthun i'w hanwesu am fynyd. A ddarfu i'r pab ei hun roi hereticiaid ar waith i droi Protestaniaid? A ddarfu i wŷr "Traethodau Rhydychain," roi y rhai a anghredent eu hathrawiaethau i'w lledanu, ac i ennill dynion drosodd i'w ffydd? Nid ydys yn credu iddynt erioed wneyd y fath beth, ac ni a feiddiwn ddyweyd na wnant y fath beth byth ychwaith: ac eto arddangosir yr anfeidrol ddoeth Dduw fel pe mabwysiadai y dull hwn-fel pe cymerai ddeiliaid teyrnas y diafol yn negeseuwyr drosto, a'u hanfon allan yn ei enw i ddeiyf ar eu cyd-ddeiliaid i gymmodi â Duw. Byddwn mor hyf a dyweyd fod hyn yn anmhosibl. Gan hyny, nid oedd Wickliffe a'r diwygwyr yn cyfeiliorni, eithr yn cyhoeddi y gwirionedd pwysicaf, pan ddysgent fod

1" Cook's History of the Apostolical Succession:" tudal. 97.

"drygioni personol y gweinidog yn difuddio ei weinyddiadau ;” ac yr oeddynt yn gweithredu yn berffaith gyson â gofyniadau yr ysgrythyrau sanctaidd, pan y cydnabyddent hawl Brenin Sïon i "anfon gweithwyr i'w winllan;" a chan hyny yn gofyn fod i bob ymgeisydd broffesu "ei fod yn credu ei fod yn cael ei gynhyrfu gan yr Ysbryd Glan i gymeryd arno swydd y weinidogaeth Gristionogol."

Y mae yn gwestiwn pwysig yn wir, pa un a all Eglwys Loegr, wedi cydnabod hawl Pen yr eglwys i alw gweithwyr i'w winllan, gyfiawnhau ei hymddygiad yn neillduo dynion i'r weinidogaeth o'u mebyd, cyn y gall mewn un modd feddu sail i gasglu fod y Meistr mawr wedi, neu y gwna eu cynhyrfu yn fewnol i'r gwaith. Yn annedwydd iddi hi a'i gweinidogion, y mae ei hathrawiaeth a'i harferiad yn gwrthwynebu eu gilydd. Os yw athrawiaeth gwasanaeth yr ordeiniad yn iawn, y mae yr arferiad yn gyfeiliornus. Y mae eglwysi eraill yn y wlad hon, sy'n dal yr un athrawiaeth ysgrythyrol-yn gofyn fod yr ymgeisyddion wedi eu dychwelyd at Dduw, ac yn proffesu eu bod yn meddu galwad ddwyfol, cyn y derbynir hwynt i'w colegau, i'w dwyn i fyny i waith y weinidogaeth. Dyma bwne sy'n perthynu yn bwysig i bob eglwys. Gwneler y weinidogaeth mor ddysgedig ac athrylithgar ag y gellir ei gwneyd, ond na thrawswyrer hi-na rodder dysgeidiaeth neu athrylith yn gyntaf, heb gymeriad ac heb dduwioldeb ; ond bydded i dduwioldeb gael ei wneyd yn beth-yn gymhwysder anhebgorol; canys ni all Pen mawr yr eglwys fyth alw gwrthryfelwyr yn genadau drosto; ni ddarfu iddo erioed, ac ni wna byth, ddefnyddio gelynion i bregethu cymmod; ond ei offerynau, ei lestri etholedig a anrhydedda efe felly.

[ocr errors]

Yn olaf, gallwn sylwi, fod yr athrawiaeth hon yn symud, yn dystrywio yr hen gloddiau terfynau. "Gochelwch gau-brophwydi," meddai ein Harglwydd. Ond pa fodd yr ydym i'w gwahaniaethu ? "Wrth eu ffrwythau," meddai yr un awdurdod uchel-wrth "arwyddion apostol"wrth fod "yn foddlawn mewn gwendid, mewn anmharch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist" (2 Cor. xii. 10); wrth fywyd sanctaidd, wrth fod "yn esiampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb (1 Tim. iv. 12); trwy lwyddiant yn eu llafur, trwy droi dynion o dywyllwch i oleuni; canys nid yw yr Arglwydd byth yn anfon gweinidog i ryfel ar ei draul ei hun; y mae yn adnabod ei lafurwyr, ac yn rhoddi iddynt sel i'w gweinidogaeth, ac eneidiau am eu llafur. Pan ammheuwyd awdurdod apostol y cenedloedd i bregethu yr efengyl, efe a bwysodd ar y gefnogaeth a dderbyniodd ei weinidogaeth gan ei Feistr mawr: "Chwychwi yw ein hepistol ni, a adnabyddir ac a ddarllenir gan bob dyn." Ond cyfeiliornad oedd hyn oll, os yw yr olynwyr yn iawn; canys ymddengys nad ydym yn awr i farnu gweinidogion wrth eu ffrwythau, ond wrth eu bod yn ddolen yn nghydiad cadwen yr olyniant oddiwrth yr apostolion, yr hon gadwen nas gellir olrhain ei dolenau yn ddifylchau; ac yn wir, y mae braidd yn ormod hefyd i'w ofyn i ni roddi heibio "air sicrach y prophwydi," mewn pwnc mor annhraethol fawr ag yw dewisiad arweinydd i'n heneidiau, ac ymostwng i ddim ond ipsi dixit rhyw wŷr fel Dr. Hook, ac eraill.

Dywed y doctor uchod "nad yw pob dyn sy'n gymhwys trwy ddysg, dawn, ac athrylith, yn meddu yr awdurdod i gymeryd arno y weinidogaeth Gristionogol y gall llawer o ddynion fod yn gystal cyfreithwyr a'r

[ocr errors]

arglwydd ganghellwr, ond na allant weithredu fel y cyfryw heb eu hapwyntio gan eu penadur ; ac wrth fyned trwy wlad dramor, y gallem fod yn gymhwys i weithredu dros frenines Lloegr, ond na wnai rhyw ymherawdwr tramor ein derbyn fel y cyfryw oni allem ddangos ein tyst-lythyrau (credentials). Ac felly pa hawl sydd gan ddyn i weithredu fel cenadwr tros Dduw oddieithr i Dduw roi commisiwn iddo i weithredu felly?" Y mae hyn yna oll yn bur wir; yr ydym oll yn cytuno ar y pen hwn; ond y ddadl sydd am natur y tyst-lythyrau. Nid ydym yn dadleu pa un a oes gan ryw ddyn hawl i weithredu fel cenadwr tros Dduw heb iddo roi commisiwn iddo-yr ydym yn cytuno âg Eglwys Loegr yma-nad oes gan un dyn hawl i weithredu fel gweinidog tros Dduw, nes iddo gael ei fewnol gynhyrfu gan yr Ysbryd Glan i wneyd felly; ond dywed y doctor nad yw hyn oll yn ddigon, y rhaid iddo heblaw hyn, brofi ei awdurdod trwy ddangos list-dolenau cydiol, yn gwneyd un gadwen fawr ddifwlch o'r holl gommisiwnau a roddwyd o'r blaen-yr oll yn y cyfwng rhyngddo ef a Christ. Hyn yr ydym yn ei wadu, yn ei wadu in toto, oblegid ei fod yn wrthbrotestanaidd, yn dinystrio yr osodedigaeth Brotestanaidd mai y Bibl yn unig yw crefydd y Protestaniaid. Ac y mae chweched erthygl Eglwys Lloegr yn dysgu nad ydys yn gofyn bod i neb gredu "beth bynag ni ddarllenir ynddi (yr ysgrythyr lân) neu ni ellir ei brofi wrthi, megys Articl o'r Ffydd,' na'i fod yn anghenrheidiol i iachawdwriaeth." Yn awr, yr ydym yn sicr nad yw y Bibl yn gofyn gan weinidog i brofi ei awdurdod yn y ffordd hono gwyddom nas gall neb ei wneyd. Yr unig ffordd i'r gwŷr hyn brofi eu haeriad, mai hwynthwy yn unig sy'n hòni eu hawl a'u commisiwn trwy y sianel hon ydynt genadau Duw y nefoedd at bechaduriaid, yw profi yn eglur ddiammheuol mai y rhai sy'n hòni eu bod yn y gadwen yw yr unig rai ag y mae Duw yn ei gydnabod fel ei genadau, ac yn cymmodi â gwrthryfelwyr trwy eu gwasanaeth gweinidogaethol, yna ni bydd eu dull hwy o gael allan eu galwad ddim gwell nag eraill sy'n sicrhau eu hawdurdod trwy foddion mwy uniongyrchol ac ysgrythyrol. Tybier, er esiampl, fod rhyw ddynion mewn gwlad dramor yn haeru eu bod wedi eu hawdurdodi fel negeseuwyr gan frenines Lloegr, a bod i rywrai eraill wadu eu hawdurdod oblegid na ddeilliai eu hawdurdod mewn llinell o ddolenau didor trwy yr holl negeseuwyr, neu y cenadau a benodwyd o'r blaen er sylfaeniad y freniniaeth, tra yr haerai y cenadau eraill nad yw y list y cyfeirir ati yn werth dim, mai cruglwyth o ffugysgrifau anghyson yw y cwbl, mai os gellid eu gwneyd allanna throsglwyddai ddim awdurdod, oblegid fod llawer o'r cenadau wedi eu hapwyntio yn anghyfreithlawn-pa fodd y penderfynwn y ddadl rhwng yr ymrysonwyr hyn am awdurdod eu negeswriaeth? Wel, trwy chwilio eu gweithrediadau swyddogol, bid siwr. Os cawn allan eu bod yn ymohebu â'r llys gartref, a bod y rhai hyny a broffesai eu bod wedi derbyn eu hawdurdod oddiwrth y frenines a'r llys yn gydnabyddedig fel y cyfrywsicrhäai hyny y pwnc ar unwaith. Gallai y rhai hyny a hònent fod ganddynt list o'r apwyntiadau er sylfaeniad yr ymherodraeth gredu ynddynt eu hunain, eu huchafiaeth, a'u hawdurdod ar eraill; ond gan y cyflawnid negeswriaeth yr anfoniad mor llwyddiannus trwy eraill, chwarddai y bobl am eu hynfydrwydd; a thra y byddai yr ymohebiaeth â'r llys gartref yn cael ei dwyn ymlaen yn gystal trwy y naill a'r llall, gadawent hwy i derfynu y ddadl am olyniant yn eu plith eu hunain, yr hyn a welent nad effeithiai ar eu hawdurdod. Yn awr, os na all "pobl y ffordd hon" brofi fod Duw y

nefoedd yn cyflawni ei arfaeth rasol trwy genadau yr olyniant, a thrwyddynt hwy yn unig, nid yw eu cadwen o ddolenau, hyd yn nod pe gellid eu casglu at eu gilydd oll heb golli un-nid yw, meddwn, yn werth dim; canys y mae yn amlwg fod cenadau sy'n proffesu fod eu commisiwn yn annibynol ar y list yn cael eu hanrhydeddu gymaint yn ffafr eu penadur ag eraill; canys anrhydeddwyd cenadau o'r Methodistiaid Calfinaidd, Wesleyaidd, Bedyddwyr, ac Annibynwyr, â chymaint arwyddion o ffafr a chanmoliaeth y Penadur a chenadau yr olyniant. Gallant oll, trwy fendith Duw, gyfeirio at eglwysi a blanwyd trwy eu hofferynoliaeth, ac eneidiau luoedd wedi eu hennill at Grist. Cludasant weinidogaeth y cymmod i amrywiol lwythau yn Ewrop, Asia, Affrica, ac America; a buont yn offerynau anrhydeddus i droi tyrfaoedd oddiwrth wasanaethu eilunod mudion a gwageddau celwyddog, i wasanaethu y bywiol Dduw ; ac y mae y Brenin wedi dyweyd wrthynt am farnu o berthynas i'w ffafr ef wrth y llwyddiant â pha un y gwelodd yn dda goroni eu llafur," canys pa ddaioni bynag a wneir ar y ddaear, efe ei hun sydd yn ei wneyd," a chan nad yw yn anrhydeddu nac yn llwyddo yn fwy y rhai sy'n proffesu derbyn eu galwad trwy yr olyniant nag eraill, y mae yn benderfynol eglur nad yw Efe yn rhoddi dim pwys ar yr olyniant.

Gan hyny, y mae yr olyniant apostolaidd yn gynnwysedig mewn parhâd o athrawiaeth, ysbryd, profiad, zel, galwad dwyfol, ymarweddiad, a llwyddiant yr apostolion; canys da y sylwyd-"Nid all neb arall o weinidogion Crist, bydded eu cyrhaeddiadau a'u gradd yr hyn a fyddont, un amser hòni hawl gyfiawn i'r arfreintiau. goruchel a sanctaidd hyn. Y mae yr archesgob uchaf cybelled oddiwrth gyfartalwch â'r apostolion ag yw yr isaf o'r efengylwyr amdeithiol."1 Ond y mae dynion dychweledig a ffyddlawn wedi eu galw gan Ben mawr yr eglwys, ac wedi eu cyfaddasu yn briodol i waith y weinidogaeth, ac yn cael eu cydnabod gan ryw gangen o'r eglwys weledig, pa un ai Methodistiaid Calfinaidd, Wesleyaidd, Annibynwyr, Henaduriaethwyr, Bedyddwyr, neu Esgobaethwyr, yn ol ein tyb ostyngedig ni, wedi eu priodol awdurdodi yn ol ewyllys Duw, yn unol â'r ysgrythyrau, a'r drydedd ar hugain o erthyglau Eglwys Loegr, cyn belled ag y gall dyn farnu am ddyn, i bregethu sanctaidd air Duw, a gweinyddu y sacramentau yn y cyfundeb neillduol hwnw gan yr hwn y maent yn cael eu cydnabod felly; ac y mae gan yr Henaduriaethwyr hawl mor gyfiawn i wadu urddiad yr Esgobaethydd ag sydd gan yr Esgobaethydd i wadu yr eiddo yntau. Gall y Trefnyddwr gyda yr un priodoldeb wadu ordeiniad yr Annibynwr, neu yr Annibynwr yr eiddo Trefnyddwr, cystal ag y gall yr Uchel-eglwyswyr wadu pob un o'r ddau; y maent oll yn gydradd â'u gilydd can belled ag y mae cyflwr ac ammodau eglwysig yn effeithio arnynt; ac os cynnyg y naill hunan-awdurdodi ar y llall, neu wadu cryfder eu hordeiniad a'u hawl i bregethu yr efengyl, y mae yn ymadael oddiwrth wir egwyddor Protestaniaeth, ac yn myned yn ol i Rufain, ac yn y peth hyn yn peidio a bod yn Brotestant, beth bynag a broffesa; canys un o'r cyfeiliornadau y protestiodd y diwygwyr yn eu herbyn oedd, hawl Eglwys Rhufain i gymeryd arni ei hun, ar draul cau pob un arall allan, yr awdurdod dros yr holl eglwysi, a gwrthod i eraill yr hawl i farnu trostynt eu hunain. Gan hyny, os bydd i'r eglwysi annibynol ddyfarnu yr henaduriaethol, a hòni iddynt eu hunain yn unig

1" Pregeth Ganmlwydd Jackson:" tudal. 22.

yr awdurdod i esbonio yr ysgrythyrau, gan alw eu hunain "Yr Eglwys," y maent yn chwareu y Pabydd yn mabwysiadu yn hollol yr egwyddorion hyny yn erbyn pa rai y protestiodd y diwygwyr, a chan belled a hyny yn peidio a bod yn Brotestaniaid, ac yn yn troi yn Babaidd; yr un modd y byddai yn achos eglwysi o'r drefn Annibynol neu Henaduriaethol, pe byddai i ryw un o honynt honi yr hawl iddynt eu hunain yn unig o fod yn farnwyr a dëonglwyr yr ysgrythyrau, a gwadu cymeriad ysgrythyrol pob gweinidogion, eglwysi, ac ordinhadau, ar na byddo yn unol â'u golygiadau hwy am lywodraeth a dysgyblaeth eglwysig.

Y mae gan bob un o'r eglwysi hyn hawl i feddwl mai eu hathrawiaethau hwy yw y mwyaf ysgrythyrol-mai eu dull hwy o weinyddu yr ordinhadau sydd fwyaf unol â meddwl yr Ysbryd, ac mai eu trefn hwy o lywodraeth eglwysig sydd fwyaf cydweddol â'r hen gynllun apostolaidd: gallant wneyd hyn ar egwyddorion Protestanaidd, yr hyn hefyd y mae cysondeb yn ei ofyn; ond pan y dechreuant ddïeglwyseiddio cyfundebau eraill, a galw pob gweinidogion, oddieithr eu hunain, yn rhai "yn cymeryd arnynt urddau sanctaidd," "heb eu hordeinio," "dysgawdwyr diawdurdod," "ymwthwyr i'r weinidogaeth," gan wrthod rhoddi iddynt ddeheulaw cymdeithas, oblegid nad ydynt yn canlyn gyda hwy, ac yn eu gadael hwy a'u heglwysi i'r hyn a alwant yn "drugareddau digyfammod Duw"-pa beth bynag y gallant hwy alw eu hunain, y maent yn wrth-brotestanaidd. Y maent, yn y pwnc pwysig hwn o leiaf, yn cytuno â Rhufain, pa mor belled bynag y gallant wahaniaethu ar bynciau eraill.

1

Addefir yn rhwydd fod gan y dosbarth Esgobaethol o'r eglwys yn y wlad hon rai, ïe, lawer o fanteision ar eraill; ond manteision gwladyddol neu dymmorol yn unig ydynt. Wrth fod yn gysylltiedig â'r llywodraeth, yn meddu gwaddoliaeth y llywodraeth, y mae ganddynt fantais nad yw eglwysi a gweinidogion eraill yn ei feddu: ond yn y pwnc o hawl oddiwrth Dduw i bregethu yr efengyl i bechaduriaid, ac i weinyddu sacramentau Duw ein Iachawdwr, nid oes ganddynt y gronyn lleiaf o awdurdod fwy na gweinidogion dosbarthiadau eraill o uniongred eglwys Crist yn y wlad hon, sy'n galw eu hunain ar enw Pen mawr yr eglwys, a'r rhai a gydnabyddwyd yn rheolaidd yn ol arferiadau y cyfundeb neu y corff y byddont yn perthynu iddo, fel gweinidogion yr Arglwydd Iesu Grist, "gan ddynion sydd âg awdurdod cyhoeddus wedi ei roddi iddynt yn y gynnulleidfa i anfon gweinidogion i winllan yr Arglwydd." Pa un ai yn yr esgobion, fel yn Eglwys Loegr yn yr henaduriaeth, fel yn Eglwys Scotland-yn y gymdeithasfa, fel ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn y gynadledd, fel ymhlith y Methodistiaid Wesleyaidd neu yn y gynnulleidfa eglwysig, fel yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr y byddo yr awdurdod yn ymorwedd, gall yr un a alwyd felly gan Dduw, ac a awdurdodwyd felly ar egwyddorion Protestanaidd a'r Testament Newydd, ddyweyd fel y dywedodd apostol mawr y cenedloedd pan yr ammheuwyd ei awdurdod ef i bregethu, "Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? felly finnau ;" 2 Cor. xi. 23. Gall rhai o'r gweinidogion hyn fod yn fwy dysgedig, doniol, a defnyddiol-eraill yn llai felly; gall rhai fod yn fwy ffyddlawn nag eraill, gall rhai fod yn enwocach nag eraill, neu yn fwy hynod ac amlwg, fel ac yr oedd ymhlith yr apostolion; ond fel gweinidogion wedi eu gwir alw gan Dduw, a'u cymhwyso a'u hawdurdodi gan yr eglwys, y maent yn weinidogion Crist.

4 Erthygl xxvi o eiddo Eglwys Loegr.

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »