ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

Parhad o'r "Hen Ganfed."

Dyna yr "Hen Ganfed," yn gymhwys fel y mae mewn hen lyfr sydd yn awr ger ein bron, wedi ei gyhoeddi ar y cyfandir yn nyddiau Luther a Calfin. Y mae wedi sefyll prawf, ac wedi ei chael yn llawn pwysau bellach er ys canrifoedd, ac a saif, yn ddiammhau, yn un o brif alawon eglwys Crist tra Ꭹ bo y" "bel daear yn blodeuo." A pha ryfedd? y mae mor syml a hardd ag ydyw natur ei hunan. Felly y mae y tônau Cymreig-y maent yn gyffredin yn eithaf syml; ond nid y symledd dienaid y buom yn son am dano, ond symledd yn llawn o fywyd a theimlad. Nodwn un yn anghraifft "Tyddewi." Y mae ei rhagoriaeth wedi tynu sylw bron bob awdur o fri, gyda hyn o gamgymeriad, eu bod oll yn ei phriodoli i Ravenscroft, pryd, pe buasent yn cael golwg ar lyfr yr hen awdur rhagorol hwnw, y cawsent ganfod mai hen gyfansoddiad Cymreig ydyw. Y mae yr hen lyfr yn awr ger ein bron, a chydnebydd Ravenscroft mai alaw Gymreig ydyw, ond ei fod ef wedi ei chynghaneddu i bedwar o leisiau. Y mae yn bur syml, wedi ei chyfansoddi bron yn unig o'r cyweirnod, ei drydydd, a'i bummed, y seiniau mwyaf naturiol yn yr wythawd. Dyma hi:

99
99

f

: Y nodwedd nesaf a nodwn yw Arwredd. Ar ol i ni ddyweyd cymaint am symledd, rhaid i ni gofio wedi y cwbl nad ydyw ond rhinwedd nacaol; ond rhaid cael rhywbeth cadarnhaol i wneyd nodweddiad clodwiw. Y mae yn rhaid i ddyn fod yn lân oddiwrth feddwdod, anwiredd, aflendid, &c., os myn fod o nodweddiad moesol; ond y mae yn rhaid iddo chwanegu at hyna ryw rinweddau cadarnhaol cyn y bydd ei nodweddiad yn teilyngu parch. Felly y mae gyda phob math o gyfansoddiad. Tuag at ymgadw oddiwrth bob gwallau mewn chwyddiaeth, rhaid bod yn syml; ond tuag at fod yn

Y

arwraidd, rhaid i'r cyfansoddiad gynnwys rhyw ragoriaethau. Po debycaf byddo unrhyw gyfansoddiad i natur, goreu oll ydyw. Gellid meddwl, ar un llaw, y parai symledd pob gwrthddrych i'r greadigaeth fod yn bur ddiflas; ond. ar y llaw arall, y mae y goleuni, y gwres, a'r bywyd sydd ynddi, yn llanw y cwbl âg interest diddarfod. Y safon, gan hyny, yw natur. mae pob cyfansoddiad a fo â mwy o addurn arno na natur yn chwyddedig; ac y mae pob cyfansoddiad fo heb fywyd natur ynddo yn dlawd. hyny, symledd, goleuni, gwres, a bywyd natur, wedi eu cymhlethu yn briodol, sydd yn ffurfio cyfansoddiad perffaith.

Cyfansoddiad felly i raddau anghyffredin yw tônau y Cymry. Y mae eu symudiadau yn hynod o syml a hawdd eu canu, ond yn llawn o hoenusrwydd a bywyd. Fel anghraifft, gallwn nodi y dôn "Bethel," yr hon sydd yn cael ei gwneyd i fyny bron yn gwbl o seiniau y cyweirnod, y trydydd, a'r pummed. Dyma hi:

d

19-1 199

喆。

Y mae yr arwredd yma i'w wahaniaethu oddiwrth y dullwedd mawreddus,1 gymaint ag yw y symledd naturiol i'w wahaniaethu oddiwrth y symledd difywyd y buom yn son am dano. Y mae y dullwedd arwraidd yn cynnwys symledd a bywyd natur, ond heb ei mawredd; tra y mae y dullwedd mawreddus yn cynnwys mawredd natur hefyd. Afon yn llanw ei gwely, ac yn rhedeg yn nerthol a gwastad, sydd yn olygfa o'r dullwedd arwraidd; ond afon wedi chwyddo yn gefnllif dros ei glanau, ac yn casglu pob peth o'i blaen, sydd yn olygfa o'r dullwedd mawreddus. Y mae y

1

Os bydd hyny yn gymhorth i rai o'n darllenwyr ein canlyn yn well, gallwn hysbysu ein bod yn defnyddio yr enwedigaethau uchod yn debyg fel y gwna y Saeson eu rhai cyfystyr hwy, sef dullwedd syml-simple style; dullwedd arwraidd-noble style; a dullwedd mawreddus-grand style....

[ocr errors]

dullwedd arwraidd o fewn cylch yr hyn sydd yn firain ;1 ond y mae y dullwedd mawreddus yn esgyn i wlad yr hyn sydd arddunawl.' Y mae yr holl greadigaeth yn dyfod dan un o ddau ddrychfeddwl, mireinedd neu ardduniant. Y mae yn wir fod graddau yn y naill a'r llall, yr un fath ag y mae graddau mewn lliw. Gall du, er anghraifft, fod yn ddu, a duach, a duaf. Felly hefyd gyda mireinedd ac ardduniant. Golygfa firain yw gweled y fronfraith yn ehedeg yn ddigyffro dros y ddol; ond golygfa fireinach yw ei gweled yn disgyn ar y gangen ac yn pyncio ei cherdd. O'r tu arall, golygfa arddunawl yw gweled yr eryr yn hofran uwch y cymylau fel brenin holl adar y nefoedd; ond golygfa fwy arddunawl yw ei weled yn disgyn i ganol y cymylau, y mellt, y taranau, ac yn lledu ei aden dros y graig i amddiffyn ei gywion. Felly hefyd y ddwy gynneddf dan sylw. Symledd natur a bywyd natur a wna fireinedd; symledd natur a mwy o fywyd a wna fireinedd uwch; ond symledd natur yn llawn o fywyd a wna fireinedd o'r gradd uchaf. Y mae y cyntaf yn ffurfio y dullwedd syml; ond yra ail a'r trydydd yn benaf sydd yn cyfansoddi y dullwedd arwraidd. Ac hyd yma y mae cerddoriaeth y Cymry yn cyrhaedd-nid oes un Cymro eto wedi cyrhaedd y dullwedd mawreddus, oddieithr un, y diweddar R. Mills. Ond ni chawn ei ganlyn ar hyn o bryd.

Ond na feddylied yr anghyfarwydd mai cerddoriaeth o'r ail radd yw cerddoriaeth grefyddol y Cymry, am nad yw yn cyrhaedd y dullwedd mawreddus; na, y mae yn gymhwys yn y lle y dylai cerddoriaeth grefyddol fod. Y mae a fyno y dullwedd mawreddus fwy â'r deall nag â'r galon; ond y dullwedd arwraidd mwy â'r galon nag â'r deall. Neu yn hytrach, y mae yn rhaid i'r meddwl gael llawer o addysg cyn y gellir gwir fwynhau y dullwedd mawreddus mewn dim; ond y mae y dullwedd arwraidd yn cyrhaedd pawb, ac yn gwella pawb fel eu gilydd. Fel anghreifftiau o hyn, gallwn nodi y tri chyfansoddiad mwyaf arddunawl a welodd y byd eto yn y celfyddydau awengar. Cymerer i ddechreu, ragbaentiadau (cartoons) Raphael. Nid oes neb gwybodus a ammheua am fynyd eu bod yn benigamp; ond nid pawb sydd yn canfod eu godidogrwydd. Fe farnai miloedd fod mwy o ragoroldeb yn narluniau llyfrau ysgolion plant nag sydd yn y rhai llwydion rhei'ny. Yn wir nid yw y paentiwr ieuanc yn canfod eu gwychder. Rhaid iddo efrydu, a meddwl, a gweled, fis ar ol mis, a blwyddyn ar ol blwyddyn, cyn cyrhaedd tir i ganfod yn iawn eu rhagoriaeth rhyfeddol. Felly y mae efo "Coll Gwynfa" Milton. Y mae yn well gan y werin ambell i faled na'r bryddest orgampus hono. Ië, nid holl ganmolwyr y penbardd sydd yn ei ddeall. Heb son am gymhwysderau i'w feirniadu, beiddiwn ddyweyd nad oes dim un o gant o ddarllenwyr Milton yn alluog i ganlyn ehediadau ei awen anturiaethus o'r ddaear i'r nefoedd, o amser i dragywyddoldeb, ac o wynfa i drueni. Gellir dyweyd yn gymhwys yr un peth am "Fessiah" Handel, y cyfansoddiad cerddorawl mwyaf arddunawl a welodd wyneb haul erioed. Y mae yn wir fod llawer ynddo i foddhâu y werin, yn neillduol pan fo digon o nerth a medrusrwydd i'w ddadgan; ond pwy sydd yn canfod llinell awenyddol y cyfansoddiad, ac yn canlyn yr awdur o olygfa i olygfa trwy y gwahanol drawsgyweiriadau, i sylwi sut y mae yn dadblygu y drychfeddyliau ysplenydd? Ah! ha! nid

1 Yn yr ystyr yr ydym yn defnyddio y geiriau uchod, y rhai Seisnig cyfystyr yw beautiful a sublime.

oes un o fil o gerddorion yr oes. Ac y mae hyn yn profi fod eisieu diwylliad mawr i'r meddwl cyn y gellir mwynhau cyfansoddiadau arddunawl.

Ond nid felly y mae efo y dullwedd arwraidd y mae pob cyfansoddiad yn hwnw yn taro pawb fel eu gilydd. Y mae ardeb da o unrhyw berson yn boddâu y celfyddydwr fel y werin-y mae barddoniaeth Cowper yn boddâu y bardd dysgedicaf gymaint a'r gwladwr, a'r " Hen Ganfed Salm" yn boddau y cerddor mwyaf penigamp lawn cymaint a'r gynnulleidfa gyffredin. Wel, dyna fel dylai cerddoriaeth grefyddol fod. Peth i bawb yw crefydd; ac y mae dullwedd pethau crefydd i fod yn gyfaddas i bawb. Nid oes dim i fod yn isel a gwael, na dim i fod uwchlaw y bobl. Dullwedd cywir yw fod y cwbl yn tueddu i eangu y deall, ac i wellâu y galon. Perffeithrwydd cynllun yn hyn yw pregethau Crist. Nid oes dim sydd yn arddunawl ynddynt; y maent yn eithaf syml; eto yn llawn o oleuni, bywyd, a nerth; mewn gair, y maent yn berffaith fireinedd. Wel, yr un peth ag yw pregethau Crist mewn rhyddiaith, yw ein tônau ninnau mewn cerddoriaeth. Y mae y rhan fwyaf o honynt yn odidog dros ben.

Y nodwedd nesaf a nodwn yw duwioldeb. Nid oes eisieu i ni brofi yn y lle yma nad yw athrylith a chrefydd yn wahanadwy. Y mae yn wir mai crefyddwyr yw prif awduron y byd yn mhob celfyddyd awengar. Tan ddylanwad ffydd yn y gwir Dduw neu y gau dduw y cynnyrchwyd yr holl weithiau anfarwol a welodd y byd eto. Ar yr un pryd, nid yw pob cyfansoddiad athrylithgar yn grefyddol. Ië, cydnabyddwn ymhellach fod llawer darn yn y gwahanol gelfyddydau awengar yn llawn o awen, ond hono fel y mae gwaetha'r modd, sydd yn tueddu yn naturiol i lygru y galon. Y mae hyn yn eithaf cyson i ni ystyried nad yw awen yn ddim arall ond y ddawn o amlygu y syniadau a'r teimladau trwy gyfrwng geiriau mewn barddoniaeth, trwy gyfrwng lliw mewn paentio, careg mewn cerfiaeth, a swn mewn cerddoriaeth. Y mae yr awdur, gan hyny, yn trosglwyddo y teimlad cryfaf fo ar y pryd yn ei fynwes ei hun. Os moesol fydd ei deimladau, moes fydd ei aweniaeth; ond os anfoesol a llygredig, tuedd felly fydd yn ei aweniaeth.

Yn awr, gellir rhestru holl deimladau da y fynwes i dri dosbarth— gwladol, moesol, a chrefyddol. Y mae teimladau gwladol dyn yn perthyn iddo fel aelod cymdeithas ddaearol; y mae'r teimladau moesol yn perthyn iddo fel creadur rhesymol; ac y mae'r teimladau crefyddol yn perthyn iddo fel creadur cyfrifol. Gwrthddrych y rhai cyntaf yn benaf yw eu gwlad a'u cenedl, gwrthddrych yr ail yw y greadigaeth, a gwrthddrych y trydydd yw Duw. Nid yw y rhai olaf yn dinystrio y rhai blaenaf-nid yw crefydd neb call yn dinystrio ei wladgarwch; na, y mae cylch dyledswyddau dyn yn un sydd yn galw, mewn amserau priodol, ei holl deimladau i weithrediad. Yn wir, y mae yr holl dduwiolion sydd wedi bod yn fendith i'r byd— sydd wedi actio eu rhan ar chwareufwrdd eu hoes, wedi byw a marw tan ddylanwad y grediniaeth fod eu teimladau gwladol, moesol, a chrefyddol, wedi deilliaw oddiwrth un tad-sef Duw.

Yn awr, gan mai iaith y teimladau yw cerddoriaeth, ymddengys yn amlwg y gellir eu dosbarthu yn naturiol i'r rhestr a enwyd; ac er mwyn canfod hyny yn well, nyni a roddwn anghreifftiau mewn barddoniaeth.

"Ymosod trwy rymuswaith-a ddylem

I ddal ein hen famiaith

Na rown yn hwy'n tir na'n hiaith
Is triniad un estroniaith.

Llefed, dadseinied y sawl-sy'n hòni

I'w bur wytheni waed brythonawl
Oes y byd o hyd heb dawl-i'n hiaith fad
A mawr gariad y Cymry gwrawl.
Eiddigedd gorseddogion-mwy ddelo
Am ddal ein hiaith wiwlon;
Boed brig ein pendefigion,
A’u copâu hwyn capioi hon.
E bery ei hachos mewn bri uchel,
A gwyr o urddas a geir i'w harddel;
Y dyn a esyd i'w gwneyd yn isel
O'i gwir ogoniant & gorwag anel-
Hwnw a gaiff cyn y gwel-hyn, ei osod
Yn eigion tywod yn ddigon tawel.
Pan ddel archangel i erch yngan
I'r byd ei araeth drwy'r bedeirran ;
Egyr uwch Cymry ei gân-yn Gymraeg

Ei chu a'i henaeg wech ei hunan."

Dyna farddoniaeth wladol, gan yr awenydd campus Glan Geirionydd. Y mae yn cynhyrfu ein teimladau i'r byw; ond nid ein teimladau moesol, ac nid ein teimladau tuag at Dduw; ond ein teimladau fel Cymry-y teimladau anfarwol a fagwyd ynom gan Gymry a Chymraeg.

Eilwaith, dyma gân i'r Eos :

"Pan guddio nos ein daear gu

O dan ei du adenydd,

Y clywir dy delori mwyn,
A chor y llwyn yn llonydd ;

Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i'th galon guro,

Ni wnei, nes toro gwawrddydd hael,
Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r Feinir war,
Sydd gymhar gwell na gemau;

Er machlud haul, er hulio bro
A miliwn o gymylau;

Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;

Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyry lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan

Yn delwi dan y dulid,

Ni chwyna i flino ei hanwyl rai—

Ei gwen a guddia'i gofid;

Ni phall ei chan drwy'r ddunos faith

Nes gweled gobaith golau,

Yn t'wnu megys llygad aur,

Drwy bur amrantau'r borau."

Wedi yr anghreifftiau yna o'r wladol a'r foesol, deuwn yn awr at y grefyddol. Ond yma y dymunem ddyweyd, ein bod yn rhestru pob tôn o duedd grefyddol dan y pen moesol, ag nad yw yn dyfod i fyny â'r dullwedd a'r teimlad duwiol fo yn ei chymhwyso yn dôn i'r addoliad. Yr un fath a chyda barddoniaeth. Byddai yn hawdd nodi cannoedd o bennillion o duedd eithaf crefyddol, ac eto ddim mor briodol i'w canu yn yr addoliad cyhoeddus. Felly yn gymhwys y mae efo cerddoriaeth. Y mae

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »