ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub
[merged small][merged small][merged small][ocr errors]

Aflesoldeb yr Eisteddfodau presennol, a'r anghenrheidrwydd

am foddion mwy effeithiol i goethi Iaith a Llenoriaeth

Cymru

[ocr errors]
[merged small][merged small][ocr errors][merged small]

Tudal.

269

290

295

304

316

322

327

351

365

[merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small]

Y TRAETHODYDD.

COLL GWYNFA.

YR ydym wedi meddwl fwy nag unwaith am ysgrifenu traethawd ar athrylith Milton; ond nis buom hyd yn hyn, ac nid ydym eto, yn meddu ar ddigon o hyfdra i gymeryd y gwaith mewn llaw. Mor bell ag y mae parch iddo yn gymhwysder i draethu am dano, nid ydym yn foddlawn i roddi y blaen i Dr. Channing na Mr. Macauley, na neb arall. Yr ydym yn ei barchu fel dyn cywir, gwrol, dïysgog yn ei ymlyniad wrth egwyddorion; yr ydym yn ystyried ei ysgrifeniadau rhyddieithol yn mysg y rhai mwyaf campus yn yr iaith Saesoneg; ac yn enwedig pan ddarllenom ei gyfansoddiadau barddonawl, nis gallwn lai na rhyfeddu fod y fath feddyliau mawrion wedi cael lle mewn enaid dynol. Bydd ei eiriau yn ein dilyn am ddiwrnodiau fel swn dyfroedd lawer, "fel llais o dragywyddoldeb." Er cymaint yw ein heiddigedd dros anrhydedd y Cymry, yr ydym yn gorfod teimlo, pe byddai rhagoriaethau yr holl feirdd Cymreig er dyddiau Taliesin wedi eu casglu ynghyd mewn un dyn, na fyddai hwnw yn haeddu ei gystadlu â John Milton. Ond un peth yw teimlo ei fawredd, a pheth arall yw medru dangos yn mha beth y mae y mawredd hwnw yn gynnwysedig. Y gorchwyl olaf hwn nid ydym yn anturio cynnyg arno: a rhaid i ni ddyweyd na welsom neb arall wedi llwyddo i'w gyflawni mewn modd boddlonawl. Er hyny, ni ddylid dibrisio y gallu i deimlo fod Milton yn ddyn mawr. Dyma ddawn nad oedd ond ychydig yn ei oes ef ei hun, ac nad yw pawb eto, yn ei meddu. Yr oedd ganddynt hwy ryw esgus, gan eu bod yn byw yn rhy agos ato i'w ganfod yn gyflawn: ond erbyn hyn, nid oes gan neb hawl i son am lênyddiaeth os nad yw yn gwerthfawrogi barddoniaeth Milton. Nis gwyddom am well ffordd i ddyn adnabod ei hun na thrwy eistedd i lawr yn bwyllog i ddarllen "Coll Gwynfa." Os bydd yn blino arno yn fuan, dyna brawf ar unwaith ei fod yn amddifad o chwaeth. Nid yw eto yn alluog i ddosbarthu rhwng y drwg a'r da. Y mae heb erioed agor ei lygaid i weled anian. Ond drachefn, glyned i'w ddarllen trwy bob anhawsder, ac os yw yn rhagori o ran ei gynneddfau ar greaduriaid direswm, fe ddaw mewn amser i weled prydferthwch ac ardderchogrwydd digyffelyb yn yr holl waith: oblegid y mae "Coll Gwynfa" yn un o'r llyfrau sydd yn gwella o hyd wrth ei fynych ddarllen ; a dyna y prawf goreu o wir fawredd.

Fel pob dyn gwirioneddol fawr, y mae Milton hefyd, nid yn unig yn traddodi meddyliau mawrion, ond yn gwneyd hyny yn hawdd. Dichon IONAWR, 1850.]

B

dyn cyffredin, trwy ymdrech dirfawr, wneuthur gorchwyl anghyffredin; ond y mae dyn cryfach yn gwneyd yr un peth gyda rhwyddineb. Yn ngwaith beirdd diweddarach, y mae gormod o geisio at effaith. Pan ddywedir rhywbeth nerthol, y mae yr ymdrech yn rhy amlwg. Yn lle myned ymlaen gyda'u gwaith yn dawel, y maent mewn cyffro parhäus, ac yn dangos rhyw egni annaturiol i dynu sylw yr edrychydd. Y canlyniad ydyw, fod meddwl yr edrychydd yn myned oddiwrth y gwaith at y gweithiwr; nid heb ryw gymaint o ryfeddod efallai ar y cyntaf wrth weled ei fywiogrwydd; ond nid hir y bydd cyn i'r teimlad hwn roddi lle i dosturi yn gymysgedig â graddau o ddirmyg. Y mae Byron yn llawn o'r ymdrech annaturiol hwn: y mae gormod o hono yn Young a Pollock: ac y mae yn rhaid addef nad yw Dewi Wyn yn rhydd oddiwrtho.__Ond yn Milton nid oes un gair wedi ei roddi i mewn er mwyn effaith. Y mae yn amlwg nad oedd efe byth yn gofyn, pa fodd y mae hwn yn debyg o ymddangos oreu, ond pa fodd y mae yn debyg o fod yn oreu. Myned ymlaen gyda'i waith yn dawel y mae ef, heb ofalu am foddio neb ond ei Feistr mawr a'i gydwybod ei hun. Yn nghanol y dygwyddiadau mwyaf aruthrol, y mae yn meddiannu ei hun mewn hamdden a phwyll. Yn gyffelyb i ddesgrifiad Goethe o ddyn mawr, y mae yn myned rhagddo,

Fel gloew seren,
Yn y ffurfafen,
Heb brysuro,
Ac heb orphwyso,
Nes cyflawn orphen
Y gwaith ro'w'd iddo.1

O ganlyniad, nid oes ynddo ef ddim annaturiol, dim o'r hyn a eilw y Saeson yn spasmodic. Os yw wedi cyflawni gwaith mawr, y mae wedi gwneyd hyny gyda llai o drwst nag a gedwir yn fynych ynghylch rhyw hanner dwsin o englynion difeddwl, difywyd, yn un o Eisteddfodau Cymru. Y mae yn symud y meini mwyaf yn Baalbek gyda'r un tawelwch a rhwyddineb a phe na byddent ond y ceryg llyfnion sydd gan y plant i chwareu â hwynt ar làn yr afon. Nid yw hyn yn cynnwys nad oedd ei waith yn costio llafur a gofal; ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Trwy lafur dibaid y cyrhaeddodd y fath berffeithrwydd; ac ar ol ei gyrhaedd, nid yw yn rhoi heibio lafurio er hyny, yn lle gwylltio yn y gorchwyl, a llethu dan y baich, y mae yn llafurio gyda hyfrydwch iddo ei hun, fel un sydd yn feistr ar ei waith. Un o elfenau hanfodol pob meistrolaeth ᎩᎳ cuddiad cryfder. Pan ddygir yr holl awdurdod i'r golwg, y mae o hyny allan yn colli ei dylanwad. Nid oes dim yn gorchfygu dyn â'i fawredd, ac yn effeithio yn hir ar ei deimladau, os na fydd ynddo ryw ddirgelwch. Y mae meddwl dyn yn hyn yn hawlio ei berthynas âg anfeidroldeb, ac yn ymgyrhaedd yn barhäus trwy y gweledig at yr anweledig. Yr oedd Milton deall hyn yn dda; ac am hyny nid yw ar un achlysur yn dangos pen draw ei nerth. Nid yw un amser yn cymeryd y darllenydd hyd derfynau ei ymherodraeth, ac yn peri iddo droi yn ol oddiyno mewn somedigaeth,

yn

1" Wie das Gestirn,

Ohne Hast,

Aber ohne Rast,

Drehe sich jeder

Um die eigne Last."

heb ddim ganddo mwyach ond dywedyd ynddo ei hun, Dyma gymaint a fedd hwn, dyma yr oll a all efe ei wneuthur. Er mor helaeth ac mor gyfoethog yw y golygfeydd a ledir o flaen ein llygaid, y mae yn gadael digon o le i'r dychymyg fyned rhagddo, ac yn ein gorfodi i deimlo fod mwy o'r golwg. O ran dim a allwn ni ei weled y mae ei allu yn annherfynol. Nid ydym yn dyweyd nad yw yn rhoddi ei holl nerth allan yn ei "Goll Gwynfa;" ond y mae yn gwneuthur hyny mewn cysondeb graddol, mewn rheol a threfn, er mwyn cyflawni ei waith, ac nid er mwyn ei weled gan ddynion. Yn lle gollwng yr holl agerdd i ruthro ar unwaith, nes chwalu y cwbl o'i amgylch yn yfflon, a pheri gwrthdarawiad yn ei erbyn ei hun, y mae yn ei gadw o fewn terfynau, a thrwy hyny yn effeithio yn fwy grymus.

Y

Yn y golygiad hwn y mae tebygolrwydd rhyngddo ef a'r holl feirdd goreu, megys Chaucer, Spenser, Shakspeare, Cowper, a Wordsworth. maent oll yn ysgrifenu heb ddim gorchest annaturiol: ond yn mawredd y gorchwylion a gyflawnir ganddynt, y mae Shakspeare a Milton yn rhagori ar bawb. Pa un drachefn, ai Shakspeare ai Milton, yw y mwyaf, nid awn i geisio penderfynu. Y mae pob un yn anghymharol yn ei le ei hun; a diammhau nas gallasai y naill wneyd gwaith y llall. Efallai mai y gwahaniaeth amlycaf rhyngddynt yw yr un a ganfyddir yn fynych rhwng dau ddosbarth o dduwinyddion: y mae un yn fwy tueddol i edrych ar yr ochr ddynol i bob peth, a'r llall ar yr ochr ddwyfol. Mewn dawn i chwareu ar dannau calon dyn, ni fu neb erioed yn gydradd â Shakspeare. Yr oedd holl ddyfnderoedd y natur ddynol yn hysbys iddo, yn ei nwydau a'i serchiadau, ei chariad a'i chas, ei hyfrydwch a'i thristwch, ei dymuniadau a’i hofnau; yn mysg pob graddau, ac yn mhob amgylchiadau. Yma y mae yn frenin heb un cystadleuwr. Y mae yn wir nad ᎩᎳ Milton yn ddisylw o'r rhyfeddodau diderfyn sydd o fewn cylch dynoliaeth. Y mae hyn yn annichonadwy i ddyn cywir. Y mae calon ddynol yn curo yn ei fynwes yntau, a hono yn galon eang, lawn o deimlad, rhy lawn i bawb ei hamgyffred. Wrth weled ei gyd-ddynion yn chwareu o'i amgylch, y mae fel dyn o feddwl difrifol, fel gwir Buritan, yn edrych arnynt gyda gwên serchog; ac nid yw gwên neb mor serchog a gwên dyn difrifol : ond nid oes ganddo duedd nac amser i ymgymysgu ond ychydig â hwynt yn eu llawenydd. Y mae ei fryd ef uwchlaw gwrthddrychau daearol; ac hyd nod pan y mae yn ymostwng i ddesgrifio bodau dynol, yn lle eu cymeryd yn hollol fel y maent, y mae yn eu codi i ryw fyd uwch na hwn, ac yn eu gwisgo â'r nodweddion hyny â pha rai y mae ei feddwl ef ei hun yn arfer cymdeithasu. Ei ddyben mawr ef oedd "cyfiawnhau i ddynion lwybrau Duw." Ni chanwyd erioed ar destun mwy teilwng; ac ni chenir eto, tu yma i dragywyddoldeb, yn fwy teilwng o'r testun.

Ond fel y dywedwyd o'r blaen, nid ein hamcan y tro hwn yw ysgrifenu am Milton, namyn am y cyfieithiad o "Goll Gwynfa," gan Dr. Pughe. Nid ychydig oedd yr anturiaeth, gan nad oes un gair afreidiol yn Milton, mwy na chwyr afreidiol mewn crwybr; nac un frawddeg ychwaith heb fod yn llawn o fêl. Cyfeirir yn fynych at y cyfieithiad hwn fel un o brif orchestion y Cymry, ac awgrymir weithiau nad oedd y cyfieithydd yn llai ei athrylith na'r awdur ei hun. Nid yw yn ddiammheuol ychwaith a fydd pawb yn foddlawn i aros ar hyn; oblegid y mae genym ryw adgof i ni weled mwy nag un ysgrifenydd yn ceisio codi Dr. Pughe yn uwch na

Milton. Yn ngolwg pob dyn o synwyr nid yw hyn i gyd ond ffolineb a ffiloreg digymysg. Un peth yw creu meddyliau, a pheth arall yw eu trosglwyddo, gyda llwyddiant mwy neu lai, o'r naill iaith i'r llall. Ond pa glod bynag sydd yn deilwng i gyfieithydd medrus, yr ydym yn ewyllysgar yn ei roddi i Dr. Pughe. Nid peth hawdd oedd Cymreigio y fath lyfr a "Choll Gwynfa;" ac nid canmoliaeth gyffredin yw dywedyd ei fod ef wedi cyflawni y gorchwyl, gan mwyaf, heb wneuthur cam â meddyliau mawrion Milton. Gwyddom fod rhai yn barnu y byddai yn dda ei ailgyfieithu o iaith Dr. Pughe i Gymraeg gyffredin: ac nis gallwn lai nag addef, pe buasai hyn wedi ei wneuthur ganddo ef ei hun, na fuasai genym ni y gwrthwynebiad lleiaf. Ni ddygwyddodd i ni erioed gyfarfod â neb a fedrai hysbysu pa le y cafodd yr athraw hybarch ei Gymraeg. Y mae yn ddilys mai nid gan ei fam anrhydeddus yn sir Feirionydd: ac y mae mor ddilys a hyny mai nid hon oedd iaith Taliesin ac Aneurin, na iaith y "Mabinogion," na iaith y "Bardd Cwsg." Dyma yr iaith Gymraeg ddiledryw, medd rhai. Nage, meddwn ninnau: Cymraeg ddiledryw pob oes yw yr iaith a arferid gan y Cymry yn yr oes hono, oddieithr mor bell ag y dygwyd i mewn gyfnewidiadau y rhai y gellir profi eu bod yn anghyson âg egwyddorion hanfodol yr iaith. Ond nid yw yr iaith hon wedi ei harfer mewn unrhyw oes; a phe buasai wedi ei harfer rywbryd cyn hyn, eto nid dyma Gymraeg yr oes hon. Crybwylla Dr. Pughe nad oes dim geiriau yn ei waith nad ydynt yn arferedig mewn rhyw ffurf neu gilydd yn rhyw barth o Gymru. Ond nid yn erbyn geiriau unigol yr ydym yn dadleu. Mae yn wir y dewisem roddi y blaen i'r geiriau a arferir yn mhob rhan o Gymru. Er hyny ni chwennychem i hen eiriau cryfion da fyned yn llwyr ar ddifancoll. Ond dadleu yr ydym yn benaf yn erbyn ei ddull ef o ffurfio ymadroddion. Y mae ei gystrawen yn anghymreigaidd. Ond dylem ychwanegu nad yw y gwahaniaeth gymaint mewn gwirionedd ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Na lwfrhaed y Cymro anghyfarwydd; ac fe ddaw cyn hir yn alluog i'w ddarllen gyda rhwyddineb a hyfrydwch. Un anhawsder arall ar ffordd y cyfieithydd oedd, fod Milton mewn lliaws o fanau yn gwneyd i'r sain ateb i'r synwyr. Yn yr holl fanau hyny, mae y cyfieithiad mor llwyddiannus ag y gallasai neb ddysgwyl. Er anghraifft, yn llyfr ii. Ilin. 8791:

MILTON.

"On a sudden open fly

With impetuous recoil and jarring sound

The infernal doors, and on their hinges grate
Harsh thunder, that the lowest bottom shook
Of Erebus."

PUGHE: tudal. 60.

66

Trwy serth chwim agorynt gan

Chwyrn encil a chan drydar cras y pyrth

Uffernawl, ar eu col o rygnu croch

Daranau, hyd nas crynai isaf sawdd
O Abred."

Y mae "o rygnu

دو

croch daranau' yn gyfieithiad hapus o

"grate harsh thunder." Pe darllenid y naill neu y llall yn nghlyw dyn anghyfarwydd â'r iaith, gallasai ddeall oddiwrth y swn pa beth oedd yn myned ymlaen.

1 Yn yr holl ysgrif hon, mae rhif y llinellau yn ateb i'r Saesneg.

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »