ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

66

hollol ddifeddwl am enaid, a byd diddarfod. Er hyny yr oedd rhywbeth yn y bachgen hwn yn wahanol i fechgyn eraill, er yn annuwiol. Tyfodd i fyny yn ddyn lled annibynol, hynod o arw ae anniwylliedig. Nid oedd yn prisio am neb, mawr na bach, gwreng na boneddig, dyn na diafol; ymlaen yr äi Siencyn drwy y tew a'r teneu. Dyn blewog, mynyddig, a Chymroaidd yr olwg arno ydoedd, ynghylch pump troedfedd a naw modfedd o hyd. Oni b'ai fod y Goruchaf yn rhyfeddol yn y cwbl, buasem dan brofedigaeth i feddwl ei fod wedi camsynied wrth ddewis creadur fel hwn at bwrpas mor fawr. Cafwyd ef mewn lle anial, mewn anialwch gwag erchyll; arweiniwyd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygad." Er mor arw ei ymddangosiad, cafodd hwn drugaredd. Yehydig yw y wybodaeth sydd ar gael yn bresennol am ddechreuad ei grefydd, ynghyd â'r dull y dygwyd hyny yn y blaen ar ei feddwl. Nis gwyddai ef ei hun pwy oedd y pregethwr a fu yn offeryn i'w achub. Yr oedd rhyw ddyn dyeithr yn dygwydd bod yn pregethu yn y gymydogaeth, nas gwelodd Siencyn ef gynt na chwed'yn, i'w adnabod, y pryd y dygwyd y gwirionedd adref at ei feddwl, ac y bu rhyw ymgynhyrfiad rhyfeddol yn holl ymherodraeth feddyliol y llane. Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai y bendro wedi ei gymeryd; ymddangosai yn rhyfeddol o hurt. Brydiau eraill byddai fel tarw gwyllt mewn magl, yn rhuo ac yn gwingo, fel pe byddai am dori y cadwynau, a diane o olwg dynion. Yn yr amser hwn yr oedd cryn lawer o farnau yn ei gylch, a pheth a ddeuai o hono. Byddai rhai yn tybied mai effaith gwres yr haf yn mhoethder ycynauaf diweddar oedd wedi effeithio arno; eraill yn meddwl taw anhwyldeb y cylla ydoedd, ac yn codi yn ddot i'r ymenydd; ac eraill yn golygu mai rhyw arwyddion dechreuol o'r typhus fever ydoedd, yr hon oedd yn lladd aml un yn y wlad. Yn gymaint a bod barnau yn amrywio cymaint ynghylch y dolur, yr oeddynt yn amrywio hefyd, wrth bob rheswm, lawn cymaint ynghylch y feddyginiaeth. Yr oedd rhai am ei waedu, eraill am roi straight jacket am dano; a'r cyfryw oedd yn lled dybio mai rhywbeth am grefydd oedd arno, oeddynt am ei daflu i eigion y môr. Bid a fyno, nid oedd yr un feddyginiaeth i'r llanc. Dolur oedd hwn, nid yn yncorff, ond yn yr ysbryd; am ba ddolur nid oedd ond ychydig yn y wlad y pryd hwnw yn deall ei natur.

1

1

n

Yr oedd ambell offeiriad da yn dechreu ymddangos yr amser hwn, gan bregethu yr efengyl yn loew ac awdurdodol, y rhai, wedi hyny, a orfuant ymadael â'r eglwysdai gwladol, a myned i'r "prif-ffyrdd a'r caeau." Un o'r cyfryw oedd y diweddar Barch. Mr. Davies, Castellnedd; yr hwn oedd ŵr duwiol, gwresog, a dawnus iawn yn ei ddydd. Ymadawodd ef â'r Eglwys Wladol, a phregethodd ymhlith y Methodistiaid hyd ddiwedd ef oes. Tra yr oedd Siencyn yn y dwymyn ddychrynedig a nodwyd, efe a aeth un dydd Sul i Eglwys Mihangel i wrandaw Mr. Davies. Hwn oedd y boreu Sabboth bythgofiadwy y dygwyd ef trwy weinidogaeth y gwr parchedig uchod i ryfeddol oleuni yr efengyl. Tywynodd arno wawrddydd annherfynol, haul yr hwn sydd yn llewyrchu yn danbaid ar ei ben tra yr ydym ni yn ysgrifenu y llinellau hyn, a lle ni bydd nos byth i roddi terfyn ar ei orwychder. Aeth blyneddau heibio yn chwyrn, heb fod rhyw swn mawr am dano wedi hyn, ac eto yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo yn wahanol i ddynion eraill. Ei weddïau cyn hir a ddaeth yn destun siarad y gymydogaeth, ynghyd â'r manau yr ydoedd yn arferol o gyrehu iddynt 1850.]

[ocr errors]

F

i weddïo o gylch y tŷ a'r tyddyn, hwnt ac yma. Yr oedd chwarel y tu cefn i'r tŷ, ac y mae yno eto am hyny, yr hon sydd wedi ei thragywyddol enwogi, fel ystafell neillduedig Shanco i ymgyfathrach â Duw. Clywid ef ganwaith yn y maenglawdd hwn yn ymdrech lawlaw â'i Arglwydd am ddïangfa i'w enaid, ynghyd â thrin llawer o faterion eraill hefyd rhyngddo a'i Arglwydd. Pan y byddai rhywbeth pwysig ar ei feddwl, collid ef yn sydyn o blith y teulu; ac i'r chwarel yr elai. Cyn hir, pan y collid ef, yr oedd pawb wedi dyfod i ddeall yn mha le y ceid ef. O dipyn i beth fel hyn, daeth Shanco a'r chwarel yn ddïareb ymhlith y teulu. Yr oedd yr Iesu a gardd Gethsemane yn lled gyfarwydd â'u gilydd. Byddai y dysgyblion, ar ol ei golli, yn barnu yn deg am y tir y ceid gafael arno, "canys mynych y cyrchasai efe yno." Dyfrhaodd hi â'i ddagrau lawer tro, ac anadlodd yn ei hawyr bereiddiach sawr na holl flodau y byd llysieuol. Yr oedd rhywbeth yn debyg yn ngweddïau Cyfryngwr y Testament Newydd yn yr ardd â gweddïau hen bechadur Penhydd yn y chwarel. Yr oedd y ddau yn hynod syml a thaer. Gweddïau heb eu bath oedd rhai yr ardd. "Efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach." Rhai go debyg iddynt oedd rhai y chwarel. Nid ydym yn ammheu nad oedd rhai y chwarel lawn cystal, bid a fyno, a rhai goreu y pulpud.

Adroddir am dro go ryfedd ynghylch gweddi y chwarel yn tori clun yr ŷch. Cynnelir ffair Llandaf yn wastad ar ddydd Llun, yr hyn sydd yn ei gwneyd yn dra anghyfleus i'r rhai sydd ymhell, ac yn achosi llawer o gychwyn ar y Sabboth. Yn y sefyllfa hon yr oedd brodyr Siencyn un tro, a phenderfynasant gychwyn â'r ychain ar ddydd Sul. Bu cryn ddadl ynghylch hyn rhyngddo ef a'i frodyr; yr oedd ef yn dyweyd y gallasent gychwyn ar ddydd Sadwrn, a gorphwys dros y Sabboth; ac yr oedd hyny yn eu golwg hwythau yn draul fawr; ac i arbed hyny, mynent gychwyn ar Ꭹ Sabboth. "Credwch fi," ebe yntau, "y bydd mwy o draul arnoch am dori y Sabboth a phechu yn erbyn Duw." Ond, beth bynag, i bant yr aeth Thomas ei frawd â'r ychain tua'r ffair, ac i bant yr aeth yntau tua'r chwarel, a'i galon yn llawn zel dros Dduw a'i ddydd. Y mae rhai yn dyweyd ei fod yn gweddïo yno am i Dduw dori clun un o'r yehain, a'u hattal y waith hon rhag myned. Pa fodd bynag, wrth y Rhyd, heb fod ymhell iawn oddiwrth y tŷ, dyma un o'r ychain yn cwympo, ac yn tori ei glun yn ddau getyn. Mor gynted ag y gwelodd Thomas yr anffawd, crochlefodd yn y fan, "Y mae Shanco yn y chwarel yn gweddïo." Rhedodd adref, a chafodd fod y weddi yn y chwarel a'r ŷch yn tori ei glun ar yr un pryd.

Wedi bod fel hyn yn cydfyw â'i frodyr am beth amser, y peth rhyfeddaf erioed, swynwyd ei ysbryd haiarnaidd gan degwch merch. Yr oedd pawb ag oedd yn gydnabyddus âg ef, pan yn ystyried ei feddwl annibynol, ei ffordd swta a diserch, yn synu yn aruthrol pa sut y meddyliodd am forwyn, ac hefyd beth a allasai fod ynddo ef a dueddai forwyn i feddwl am dano yntau. Yr oedd efe ymhell, dybygem, o fod y peth hwnw a elwir “the ladies' man." Ond dyna; beth wyddom ni am faterion fel hyn? Onid yw yn ddigon i bob un edrych at ei amgylchiad ei hun, a phenderfynu gyda y ddïareb Gymreig, "Nid oes yr un barcud heb farcutan ?" Wedi i Siencyn gael ei daro â'r haint hon, nid oedd na byw na bywyd iddo nes rhoi terfyn disymwth i weddwdod mewn "glân briodas." Merch un John Lewis, o blwyf Mihangel, oedd y ddynes a ddarfu neidio gyda Siencyn i'r byd priodasol. Aethant i Aberafon am dipyn, y lle hefyd y ganwyd mab iddynt,

Mehefin 27ain, 1786, a galwyd ei enw Thomas; yr hwn sydd fyw yn awr, ac yn trigiannu o fewn chwech neu wyth milltir i'w gymydogaeth enedigol, mewn lle a elwir Skêr, ar làn y môr, yn amaethwr go fawr. Yr oedd ei dad yn bur hyderus y caffai y bachgen hwn ras; a byddai yn arfer dyweyd y gwyddai efe yn ddigon da yr achubid ef. Fe ddichon ei fod ef wedi cael rhwyddineb a hwylusdod mawr wrth roddi ei achos i Dduw lawer gwaith, ac yn penderfynu oddiwrth hyny fod Duw yn rhoi drws agored iddo, ac yn gwrandaw ei weddïau ar ran y llanc. Tybygem, er hyny, ei fod yn arfer gormod o eonder wrth sicrhau y peth oddiwrth y cyfryw deimladau. Yr oedd yn ddyledswydd arno ef i weddïo dros ei blentyn, a gallasai Duw roi cysur a gwyneb siriol arno ef fel dyn yn cyflawni ei ddyledswydd yn onest, pa un a oedd yn meddwl achub y bachgen ai peidio. Y peth tebycaf o wrandawiad y gweddïau hyny, a fuasai gweled y bachgen yn gweddïo drosto ei hun, ac yn byw yn dduwiol. O Aberafon, lle yr aeth wedi priodi, y symudodd i dyddyn bychan a elwid y Goetre, yn mhlwyf Margam, gerllaw hen gapel (neu ysgubor yn hytrach) y Dyffryn, lle y treuliodd weddill ei oes.

Wrth drin y byd, teithio, ac ymgymysgu yn mhob sut â dynion, yr oedd yn dyfod yn fwy adnabyddus beunydd, a'i hynodrwydd yn myned yn destun siarad cyffredinol; canys nid hynod mewn rhyw un peth ydoedd, ond yn mhob peth. Nid oedd ei edrychiad fel dyn arall. Gallasech feddwl ei fod yn wallgof; yn cerdded mor ddihafarch a brysiog, fel petai wedi ei annos gan gŵn drwy y baw a'r llaca: ei lygaid yn fflamio yn ei ben, ac yn edrych fel dyn am ffoi o olwg preswylyddion daear. Yr oedd, ar gefn ceffyl, yn debyg ryfeddol i'r dychymyg sydd genym am berpetual motion, mewn gweithrediad o hyd: pwt o chwip yn ei law, yn curo beunydd a dïorphwys, a'i goesau mawrion a gewynaidd yn ysparduno yn ddibaid o'r pryd y cychwynai hyd nes y disgynai. Yr oedd ei holl agweddiad yn awgrymu fod rhyw frys annhraethol arno i fod ar ben ei daith, gyda ei fod yn cychwyn. Yr oedd yn eglur i bawb, bid a fyno, fod arno lawer mwy o frys na'r ceffyl, a bod yr enaid rhesymol oedd yn marchogaeth yn llawer mwy cyflym yn ei symudiadau na greddf yr anifel ag oedd dan y baich a'r fflangellau. Yr un fath fyddai gyda rhyw orchwyl o waith; yr ydoedd yn weithiwr digyffelyb; gwnai gymaint a dau gweddol. Gweithiodd yn galed gyda ei dyddyn drwy ei oes, a chasglodd gryn lawer o gyfoeth. Byddai yn codi oriau o flaen pawb yn y tŷ, ac yn myned i'r ysgubor i ddyrnu; ac yno dyrnai yn ddïarbed, fel pe buasai yn ddig wrth yr ŷd, y gwellt, a'r cwbl, nes y byddai yn chwys a tharth i gyd. Wedi hyny, efe a elai at y "Bibl cam," fel ei gelwid, yr hwn oedd wedi camu wrth ei gadw ar ryw bethau ochrog yn yr ysgubor, a darllenai dipyn ar hwnw, ac, efallai, gweddïo; a chyn y diwedd mewn brwydr boeth â rhai o brif elynion y tywyllwch; a chwi a glywsech swn y rhyfel weithiau ymhell. Fel hyn y byddai yn dyrnu cetyn, darllen eilwaith getyn, gweddïo efallai wedi hyny, nes y delai yn bryd i'r tylwyth godi: yna äi i'r tŷ, galwai ar bawb, pwtiai y tân yn dda, a gorweddai ar ei hyd ar yr aelwyd o'i flaen am ryw gymaint eilwaith. Fel hyn, medd efe, yr ydoedd yn prynu yr amser.

Nid ydys yn gwybod yn iawn pa bryd y dechreuodd bregethu; oblegid yn y dyddiau hyny, nid oeddynt yn ymlynedig wrth un ffurf benodol, ond yn dechreu "dyweyd tipyn" o flaen hwn a hwn, wrth fyned gydag ef y Sabboth o gartref. Byddai rhai yn myned ar daith gyda rhyw bregethwr,

i ddechreu yr oedfaon, ac i fod yn wasanaethgar yn mhob peth y byddai yr anghen; y pryd y byddent yn cymeryd y cyfleusdra i esbonio y bennod, rhoi gair o gynghor, ac yn y blaen o dipyn i beth i gymeryd testun a phregethu, ac yn dyfod yn bregethwyr fel yna, yn hollol ddifwriad a damweiniol. Llawer un yn y modd hyn, wedi cychwyn i'r daith yn ddyn anghyhoedd, a ddychwelai yn bregethwr newydd o'r mint, er mawr syndod i'w hen gymydogion. Yr oedd yn rhywbeth fel creadigaeth-rhyw godiad buan i fodolaeth. Byddai rhai, wedi dechreu fel hyn, yn gadael y pregethu am dymmor eilwaith, ac yn cychwyn ati wed'yn yn wyneb rhyw gynhyrfiad newydd, fel y mae yn anmhosibl dywedyd y dydd o'r mis y dechreuodd llawer o honynt ar y gorchwyl o bregethu. Ond eglur yw hyn, aeth Siencyn yn bregethwr rywbryd; canys y mae pobl yn fyw ac yn iach yn awr a'i clywsant ddegau o weithiau. Nid oes nemawr o'i ddywediadau wrth bregethu ar gael yn bresennol; ei ddywediadau personol a chyfrinachol ydynt amlaf. Yn fynych yr ydym wedi clywed yr hen bobl yn desgrifio ei ddull a'i ymddangosiad yn y pulpud, yn enwedig ar ol iddo dwymno ychydig yn y gwaith. Coat o frethyn llwyd ydoedd yn wisgo haf a gauaf, oerni a gwres, a siaced wlanen, neu fwmbas o wlân o waith y tŷ; het gwerth hanner coron âg ymyl anferthol o fawr iddi, rhywbeth tebyg i'r hen badellau pres a allasech eu gweled ganddynt er ys llawer dydd at hilio llaeth iddynt. Tynai ei het, bid siwr, yn mhen cetyn wedi myned i'r pulpud, nid yn union: canys yr oedd yn dyosg ei goat fawr yn gyntaf. Yn nghof yr ychydig bobl ag sydd yn awr yn weddill gan angeu, a'i gwelsant ac a'i clywsant, yr ydoedd yn hen, ei wallt yn wyn, ac yn lled hir, ac yn cwympo ar ei ysgwyddau, yn hynod dderwyddol ei ymddangosiad. Y mae y beirniaid yn meddwl na fu dafn erioed o olew gwallt ar ei ben ef, ond ei fod yn Nazaread o groth ei fam oddiwrth hyny. Ni byddai fawr o werthu ar Macassar Oil, pe byddai pawb fel yr hen dad Siencyn; ac yn wir, yr ydym yn coelio y byddai crib ddadrys yn ddigon yn mhob plwyf rhwng yr holl blwyfolion, pa faint bynag allai ei boblogaeth fod. Tynu ei fysedd drwy ei wallt y byddai efe, a hyny yn gyffredin yn groes i'r grân, nes y byddai fel gwrych mochyn, yn y gwrthwyneb i gyd. Yn ngwres y foment, wrth bregethu, byddai ei ddwylaw yn ei wallt yn o aml, y mae yn debygol_heb yn wybod iddo, yn ei godi yn grych i'r làn, a hwnw yn fflwchan mor echrydus, nes yr oedd rhyw olwg bron annaearol arno. Buasai llawer un yn barod i benderfynu mai y gwr drwg ei hunan ydoedd, oni b'ai fod ei ben yn wyn.

Wrth yr hanes sydd genym am ei bregethau, gallwn gasglu eu bod yn gymhariaethol, a llawer o'r cymhariaethau hyny yn bur gartrefol. Dichon fod rhai yn ddigon ysgafn a chellweirus wrth eu gwrandaw, ond yr oedd ef yn eithaf difrif wrth eu dyweyd, a bod yn siwr i chwi. Yr oedd clwyd, ac y mae eto, ar gefn y mynydd rhwng Penhydd a Llangynwyd. Clwyd y Bryn-mawr y gelwir hi, yn yr hon y rhoed y bach uchaf i lawr, a'r llall tuag i fyny, i attal dynion drygionus i'w thaflu oddiar y bachau. Wrth bregethu ar y cyfammod gras, dywedodd, fod y cyfammod hwnw, "yr un peth a Chlwyd y Bryn-mawr, un bach i fyny a'r llall i lawr, fel nas gallasai Satan na neb arall ei daflu byth o'i le. Y mae un bach i fyny gyda Duw, a'r llall i lawr am ei bobl; fe saif cadarn sail Duw; yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef." Wrth bregethu ar y testun, "Rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom," yr oedd yn annog y

gwrandawyr i ddal y testun bid a fyddo, fod hwnw yn sicr o fod yn bur, beth bynag am y llall. "Fe allai fod yma lawer," eb efe, “ yn cwyno fod eu cof yn bur ddrwg, nas gallent gofio nemawr mewn modd yn y byd. Taw â dy gelwydd; nid ar dy gof y mae'r bai; tydi sydd yn ei lanw â phethau eraill; pethau drwg, bydol, a brwnt, fel nad oes dim lle i bethau da. Mi warantaf dy fod yn cofio yn burion am beth y gwerthaist yr hen gaseg wen yn ffair Llandaf, er ys tair neu bedair blynedd yn ol; chwech neu saith punt onidê? Ië, yn siwr: 'dyw hyny ddim wedi myned allan o'th gof eto. Yr wyt yn cofio pob peth, ond efengyl." Dygwyddodd fod yn yr oedfa hono hen wr ag oedd yn ateb i'r desgrifiad uchod, yn gymaint a'i fod wedi gwerthu caseg wen tua'r amser, ac yn agos i'r pris dywededig, yn ffair Llandaf. Ar y twyn o flaen hen gapel Dinaspowys, wedi dyfod allan o'r cwrdd, wele yr hen wr yn dechreu rhoi tafod enbydus i rai o'r crefyddwyr am ddyweyd wrth y pregethwr am dano ef a'r gaseg, gan nad oedd neb ond hwn a hwn i ddyweyd; ac mai hwy oedd y diawliaid penaf am glecs a chelwydd ag oedd yn rhodio y ddaear. Meddyliwyd mai y peth goreu oedd ffoi gyntaf gallesid oddiwrth effeithiau anffodus y bregeth hon, a gadael yr hen frawd i ofal rhagluniaeth ddwyfol. Wrth bregethu ar ostyngeiddrwydd, dywedai fod y gras hwn yn cynnyddu fel cynffon buwch, tuag i lawr o hyd, "A wyt ti yn dy adnabod dy hun?" eb efe, ryw dro ar ei bregeth. "Wel yn wir wn i ddim pa sut yr ydwyf i ddeall. Mi ddywedaf wrthyt: os na welaist dy hun cyn ddued a'r diawl, welaist ti ddim o dy hunan eto." Ni a welwn oddiwrth yr engreifftiau hyn a'r cyffelyb, ei fod ef yn hollol ddieuog o fod yn dynwared Arglwydd Chesterfield mewn dim; a phwy bynag a ddywedo hyny, y mae yn sicr o fod yn dra chamsyniol. Nid oedd y gair "boneddigeiddrwydd" wedi cyrhaedd Penhydd a'r Goetre yn y dyddiau hyny; clywsom ei fod wedi dyfod hyd Abertawe ychydig cyn ymadawiad Siencyn a'r byd. Nid oedd y Cymry ddim yn addfed i'r fath bethau ychwaith; y mae Duw yn cymhwyso dynion at yr oes y maent yn byw ynddi; ac ni thâl dynion un oes ddim llawer at y llall yehwaith. Adroddir am offeiriad yn pregethu yn Llundain, yr hwn oedd yn rhy foneddigaidd i ddyweyd y gair uffern yn nghlyw pobl mor barchus ag oedd yn ei wrandaw. Wrth son am bechod, dywedodd, ei fod yn arwain i'r man ag yr oedd boneddigeiddrwydd yn gwahardd iddo enwi y lle. Yr ydym yn coelio yn ddilys nad oedd yr un berthynas rhwng hwn a'r hen Benhydd. Wrth edrych ar ddull llawer o'r tadau, y maent yn ymddangos i ni yn lled ryfedd; ac eto y mae yn rhaid cyfaddef fod Duw yn eu harddel a'u hamddiffyn yn anghyffredinol. Oni buasai hyny, dirmygasid hwynt fel y ffyliaid penaf yn fyw. Dyma oedd yn eu prydferthu, ac yn tori eu ffordd yn y blaen, gan roddi taw ar elynion crefydd, a chreu arswyd ar y dynion caletaf yn eu gwydd.

Yr oedd pregethau y patriarch o Penhydd, ebe hen bobl y Dyffryn, yn cael eu cyfansoddi gan mwyaf rhwng yr odyn galch a hen gapel y Dyffryn; rhywbeth rhagor nag ergyd careg. Fel hyn yr oeddynt yn dwym o'r tân heb gael amser i oeri unwaith. Barna rhai o'r hen breswylyddion byth am y dyn nad yw yn cael ei bregeth o gylch y mesuriaeth hyn i'r pulpud, nad yw wedi ei alw oddiuchod. Galwant Fy Ewythr Siencyn yn dyst ar y mater yn y fynyd; a chan gauad eu dyrnau, a siglo eu penau mewn eiddigedd sanctaidd, penderfynant yr achos drwy ei daflu i'r llŷs hynafiaethol ag oedd mewn grym pan eu ganwyd hwy. Gyda phob parch i

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »