ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

ieithu yr ymadrodd "ocheneidiau annhraethadwy" yn ocheneidiau anllefaradwy. Mae y teimladau a gynnyrchir ar brydiau gan Ysbryd Duw yn nghalonau y saint yn gyfryw o ran eu nerth a'u dwysder, dyhëadau dyfnion am faddeuant a llwyr ymwared oddiwrth lygredd a thwyll pechod, dymuniadau cryfion am fwy o wedd gwyneb yr Arglwydd, yn gystal ag am waredigaeth allan o ystormydd enbyd a themtasiynau y byd a'r bywyd hwn, fel nas gallant ond yn unig ocheneidio. Tra y mae yn rhaid wrth fesur o deimlad i'n galluogi i lefaru yn rymus ac effeithiol, mae graddau helaethach o hono yn peri mudandod, yr hwn sydd yn cael tori arno yn unig gan ocheneidiau; yr un fath ag y mae mesur o oleuni yn angenrheidiol i weled, eithr graddau mwy o hono yn dallu y llygaid. Fel y dywed Philippi ar yr ymadrodd dan sylw: "Yn y modd hwn yn fwyaf cymhwys y mynegir mawredd y dyoddefaint ymha un y mae meddwl a geiriau fel eu gilydd yn methu i ddynion, ac nid oes dim yn cael ei adael iddynt ond y teimlad o'u trueni ac ocheneidio." Ac y mae yr Ysbryd Glân yn troi ffrwd y teimladau dwys a dwfn sydd yn cael eu hachlysuro gan brofedigaethau a gorthrymderau y byd hwn i gyfeiriad a sianel gweddiau y saint, fel ag iddynt ymarllwys allan, nid mewn griddfan o anobaith tua'r llawr, eithr mewn "ocheneidiau annhraethadwy" yn esgyn i fyny yn erfyniau at Dduw. A thrwy y gweithrediad hwn hefyd y mae yr "Ysbryd ei hun yn erfyn trosom âg ocheneidiau annhraethadwy."

Hefyd i brofi effeithiolrwydd eiriolaeth yr Ysbryd, fe ddywedir ei fod "yn erfyn trosom yn ol ewyllys Duw." "Yn ol Duw" ydyw'r gwreiddiol "yn unol â'r bwriadau Dwyfol ac mewn cydymffurfiad â boddlonrwydd Duw" (Alford); "yn ol yr hyn sydd yn boddloni Duw" (Luther); ac yn gyffelyb y rhan liosocaf o'r esbonwyr. Yn gymaint felly a bod yr Ysbryd yn erfyn dros y saint yn ol meddwl ac ewyllys Duw, y mae y Tad yn gwybod meddwl yr Ysbryd, ac y mae yn ei wybod ac yn ei gymeradwyo yr un pryd. Dyma ymresymiad yr Apostol, fel y mae y geiriau yn dangos. "A'r hwn sydd yn chwilio y calonau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint." Pan ystyriwn y geiriau hyn yn y cysylltiad y maent ynddo, y maent yn hynod brydferth a dewisol, ac yn myned ymhell i brofi fod Dwyfol Ysbrydoliaeth yn gofalu nid yn unig am y syniadau ond am y geiriau hefyd. "A'r hwn sydd yn chwilio y calonau"-yr hwn sydd yn gwybod gogwydd meddwl, tueddiadau mewnol, awyddfryd a dymuniadau, a holl weithrediadau yr Ysbryd, sydd y tu cefn i ac wrth wraidd gweddiau y saint,-"a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd;" nid yn unig y meddwl amlygedig trwy eiriau gweddiau ac erfyniau ei bobl, ond hefyd y meddwl annhraethadwy yn y dyhead dwfn yn yr enaid a'r ochenaid a gynnyrchir ganddo, a meddwl yr Ysbryd ei hun yn yr erfyniad annhraethedig ac anllefaradwy. Ac y mae Duw yn gwybod hyn oll, nid yn unig yn rhinwedd ei hollwy bodaeth, ac fel peth y mae yn ei ganfod mewn arall y tu allan iddo ef ei hun, eithr hefyd fel yr hyn sydd yn ol ei fwriad grasol a boddlonrwydd ei ewyllys ef ei hun tuag at ei holl saint. Pan y mae yr Ysbryd Glân yn cynhyrfu yr enaid i weddio ar Dduw, y mae yn ei ddysgu i ofyn am y cyfryw bethau ag y mae yn unol âg ewyllys yr Arglwydd i'w rhoddi iddo; a chyda'r dymuniadau a'r deisyfiadau a'r teimladau dyfnion

anllefaradwy y mae'r Ysbryd yn eu hawgrymu i'r saint, y mae yn rhoddi cymhwysder hefyd iddynt i agosâu at Dduw yn y ffordd a'r agwedd sydd yn gwneuthur eu dyfodiad at orsedd gras yn gymeradwy ganddo ef.

Yr ydym gan hyny yn terfynu y rhan yma o'n hysgrif trwy symio i fyny yr hyn a ddywedwyd mewn un gair, sef, Bod eiriolaeth yr Ysbryd yn gynnwysedig yn yr hyn a wna i gynnorthwyo y saint yn eu gweddiau.

Ac yn awr yr ydym yn dyfod at yr ail gwestiwn a ddodwyd i lawr, sef, Pa beth yw y gwahaniaeth rhwng eiriolaeth yr Ysbryd ac eiriolaeth y Mab?

Y mae dau air, neu yn hytrach ddwy ffurf ar yr un gair, yn cael eu defnyddio i ddynodi y swydd yma o eiddo yr Ysbryd. Y ffurf arno yn yr adnod flaenaf o'r ddwy ag y mae yr athrawiaeth dan sylw yn seiliedig arnynt, ydyw yr unig engraifft o'r gair yn yr oll o'r Testament Newydd. Gellid ei gyfieithu yn "erfyn-dros,” i gyfleu y syniad fod yr Ysbryd nid yn syml yn "erfyn," eithr yn erfyn ar ran eraill. Ac yr oedd angenrheidrwydd am y gair yn y ffurf gryfach hon yn y lle cyntaf, oblegid fel y mae'r ysgoleigion Biblaidd goreu yn barnu, nid oedd y geiriau "trosom ni" yn yr ysgrif wreiddiol, yr hon a ddarllenai gan hyny fel hyn,-"Eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn tros-erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy." Ac yna y mae yr adnod nesaf yn dyweyd yn eglur mai "dros y saint" y mae yn erfyn. Ac yma y mae yr un gair yn cael ei ddefnyddio, a hefyd yn yr un ffurf, ag a geir yn adn. 34 o'r un bennod, i ddynodi eiriolaeth Crist, "Yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni," ac yn Heb. vii. 25, "Gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Gyda golwg ar y gair ei hun, ei ystyr gyntaf ydyw cyfarfod â rhywun ac ymddyddan; yna cyfarch a gwneuthur cais at; ac yn ddiweddaf dadleu dros neu yn erbyn, yn ol y blaenddodiad a gysylltir â'r gair. Nid yw yn ymddangos fod esiampl o'i ystyr gyntaf i'w gael yn y Testament Newydd, ond y mae engraifft o'r ail yn Act. xxv. 24, "A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agrippa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iuddewon arnaf fi, yn Jerusalem ac yma, gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy." Y mae engraifft hefyd o'r trydydd ystyr yn y wedd o erfyn yn erbyn, yn Rhuf. xi. 2: "Oni wyddoch chwi pa beth y mae yr ysgrythyr yn ei ddywedyd am Elias ? ра fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel." Ond yr hyn ydym am i'n darllenwyr gofio ydyw fod yr un gair yn cael ei ddefnyddio i ddynodi eiriolaeth y Mab ag eiddo yr Ysbryd. Ac y mae y gair a gyfieithir "eiriolwr" am y Mab yn 1 Ioan ii. 1, “Y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn," yn enw ar yr Ysbryd Glân yn Ioan xvi. 7, "Canys onid âf fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch." Mor wirioneddol ag y mae y Mab yn eiriolwr, y mae yr Ysbryd Glân hefyd yn eiriolwr. Ond y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng y naill a'r llall. 1. Y mae eiriolaeth y Mab yn cael ei dwyn ymlaen yn y nef, lle y mae efe "yn ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni" (Heb. ix. 24); ond y mae eiriolaeth yr Ysbryd yn cael ei dwyn ymlaen ar y ddaear. 2. Y mae eiriolaeth y Mab yn cael ei dwyn ymlaen y tu allan i'w gwrthddrychau; eiriolaeth yr Ysbryd o fewn i'r rhai y mae efe yn eiriol drostynt. 3. Y mae y Mab yn eiriol ar

sail ei haeddiant ei hun; ond yr Ysbryd ar sail haeddiant y Mab. 4. Y mae eiriolaeth y Mab yn dal perthynas â'r holl gymundeb sydd rhwng dyn a Duw; eithr mewn un rhan o'i waith yn benaf, os nad yn gwbl, y mae i ni edrych ar yr Ysbryd fel eiriolwr: nid fel y Gweithredydd yn yr ailenedigaeth, nid fel Sancteiddydd, ond fel y mae yn ein cynnorthwyo ni i weddïo megys ag y dylem. Tra y mae a fyno eiriolaeth y Mab â holl fendithion y prynedigaeth i'r saint a'r cynnygiad o honynt i'r byd, y mae eiriolaeth yr Ysbryd yn dwyn perthynas sydd yn gyfyngedig i weddïau y saint. Unwaith eto yr ydym yn troi at rai o'r prif dduwinyddion, a gosodwn i lawr yma ychydig ddyfyniadau.

Manton a ddywed: "Y mae tynu i fyny ddeiseb yn un peth, y mae ei chyflwyno yn y llys yn beth arall; mae yr Ysbryd fel nodiadur yn traethu ein deisyfiadau, ac y mae Crist fel eiriolwr yn eu cyflwyno ac yn eu dadleu yn y llys" (Vol. xii. p. 226). Dr. Owen: "Nid oes gan yr Ysbryd y tu allan i ni yr un swydd i'w chyflawni yn uniongyrchol tuag at Dduw, na'r un naturiaeth islaw y ddwyfol ymha un y gallai eiriol. Mae yr oll o'r cyfryw waith mewn perthynas i ni yn gorphwys ar Grist; efe yn unig yn ei Berson ei hun sydd yn cyflawni yr hyn sydd i'w wneuthur gyda Duw drosom ni. Mae yr hyn a wna yr Ysbryd yn cael ei wneuthur ynom a thrwom ni" (Vol. iv. p. 286). Matthew Henry: "Mae Crist yn eiriol trosom yn y nefoedd, a'r Ysbryd yn ein calonau ni; mor rasol y mae Duw wedi darpar er cefnogaeth y gweddill sydd yn gweddïo" (Vol. ix. p. 60). Manton eto: "Y mae Crist trwy ei aberth wedi agor y drws, a thrwy ei eiriolaeth wastadol yn ei gadw yn agored, fel na byddo digofaint Duw yn rhwystr o'r naill du, na'n heuogrwydd ninnau o'r tu arall; oblegid pe amgen, 'Duw sydd dân ysol,' ac y mae pechod yn rhanu ac yn gwahanu rhwng Duw a ni. y mae yr Ysbryd yn creu ac yn cynnal, yn bywhâu ac yn cynhyrfu y grasau hyny, yn yr ymarferiad o ba rai y mae ein dyfodiad at Dduw yn cael ei ddwyn ymlaen" (Vol. xii. p. 235). Dr. John Brown yn ei Esboniad ar yr Epistol at y Rhufeiniaid a ddywed: "Mae y gwahaniaeth hollol rhwng eiriolaeth yr Ysbryd Glân, mewn natur, ffurf, ac amcan, o angenrheidrwydd yn amlwg ar yr adfyfyriad lleiaf" (p. 244). Mae y gwahaniaeth yn ddiammeu yn amlwg ac yn fawr; eithr nid mor fawr, fel nad ydyw yn briodol dyweyd bod yr Ysbryd Glân yn eiriolwr. Y duedd a ganfyddwn yn yr esbonwyr ydyw i egluro ymaith yr ymadroddion "erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy," ac "erfyn dros y saint," trwy ddangos yr hyn y mae yr Ysbryd Glân yn ei wneuthur i'n cynnorthwyo ni yn ein gweddïau. Ond y maent er llwyddo i roddi eglurhâd helaeth, manwl a boddhäol, ar y rhan yma o waith yr Ysbryd,

fel pe yn methu ag anturio ar sail yr hyn oll a ddywedant mor dda ac

mor Ysgrythyrol i ddyfod i'r penderfyniad fod y Trydydd Person yn yr Hanfod Ddwyfol "yn erfyn dros y saint," neu yn eiriolwr fel y mae yn gweithredu ac yn eu cynnorthwyo yn eu hagosâd at Dduw mewn gweddïau a deisyfiadau, dymuniadau ac erfyniau, ac mewn teimladau o drallod ac angen ac awyddfryd a amlygir yn unig trwy "ocheneidiau annhraethadwy." Un peth ydyw rhoddi eglurhâd ar eiriau, peth arall ydyw cael allan yn eu hystyr a'u cynnwys y rheswm am yr hyn a ddywedir yn y geiriau eu hunain. Wrth ymfoddloni ar y blaenaf, y mae perygl i ni chwilio am esboniad ar eiriau y Bibl

sydd yn cydweddu â'n syniadau blaenorol, ac felly yn aml i egluro ymaith y testun; felly, er engraifft, pan yn sefyll uwch ben yr ymadrodd, "Yr Ysbryd ei hun sydd yn erfyn drosom," mae y meddwl ar unwaith yn cofio fod y Mab yn eiriol, a bod y swydd hon yn perthyn yn arbenig iddo ef fel yr unig "Gyfryngwr rhwng Duw a dynion." Y mae cofio y gwirionedd hwn wrth ddyfod at yr ymadrodd crybwylledig yn berffaith naturiol. Ac yn wir y mae yn angenrheidiol i ni gadw ein llygaid ar eiriolaeth Crist pan yn ystyried gwaith yr Ysbryd "yn erfyn dros y saint." Eithr nid ydym oblegid hyny i dynu y casgliad neu i esbonio yr ymadrodd fel pe byddai yn golygu fod gwaith yr Ysbryd yn erfyn yn rhywbeth amgen nag eiriol. Yn hytrach myner allan, gan fod y gair yn dywedyd hyny yn eglur a diamwys, y rheswm neu'r eglurhâd sydd yn rhoddi cyfrif am eiriolaeth yr Ysbryd Glân.

Dywedasom fod yr esbonwyr yn tueddu i egluro ymaith y gair dan sylw. Y mae Dr. Brown, o'r hwn y dyfynasom ddiweddaf, yn esiampl o hyn. Sylwer ar ei eiriau :—

Mae yr Ysbryd Glân yn ein cynnorthwyo-yn cynnorthwyo ein gwendid—yn ein cymhorth pan yn wan, ac yn neillduol, pan, dan bwys ein gwendidau, na wyddom pa fodd i weddio megys ag y dylem. Mae yn cynnyrchu yr iawn ddymuniad, ac mewn gradd briodol; ac y mae yn ein galluogi i'w ddadgan, os nad mewn geiriau hyawdl, neu mewn geiriau llefaredig o gwbl, mewn ocheneidiau dwysion. Pan Y dywedir fod yr Ysbryd Glân " 'yn erfyn drosom âg ocheneidiau annhraethadwy,' mae yn amlwg yn golygu, ei fod ef yn ein galluogi ni felly i erfyn drosom ein hunain, megys pan y mae fel Ysbryd Mab Duw wedi ei anfon i galonau Cristionogion y dywedir ei fod "". yn llefain Abba, Dad" (Gal. iv. 6),-hyny yw, mae yn gwneuthur iddynt hwy "lefain Abba, Dad." Mae yn rhoddi iddynt serch mabaidd, ac yn eu galluogi i'w fynegi. Y mae, fel y dywed Fenelon, " 'yn enaid ein henaid." Mae yn

sylw da o eiddo Augustin, "Nid yw yr Ysbryd Glân yn ocheneidio ynddo ei hungydag ef ei hun, fel Person yn y Drindod; ond y mae yn ocheneidio ynom ni, pan y mae yn gwneyd i ni ocheneidio." Mae yr holl wahaniaeth, mewn natur, ffurf, ac amcan, rhwng yr eiriolaeth hon o eiddo yr Ysbryd Glân ac eiriolaeth Crist, o angenrheidrwydd yn amlwg ar yr ystyriaeth leiaf.

Mae yr oll a ddywedir yma am y cynnorthwy a roddir gan yr Ysbryd i'r saint i weddïo ac yn eu herfyniau yn rhagorol iawn. Ond y mae yn eglur nad yw yr awdwr yn golygu hyn oll fel prawf fod yr "Ysbryd yn erfyn dros y saint," eithr yn unig fel esboniad ar yr ymadrodd. Ac oddiwrth y frawddeg olaf yn y dyfyniad, mae genym le cryf i dybio fod Dr. Brown yn edrych ar waith yr Ysbryd yn erfyn yn beth mor hollol wahanol i eiriolaeth y Mab, fel braidd y mae yn cydnabod fod y swydd o eiriolwr yn perthyn o gwbl i'r Trydydd Person yn y Drindod. Y gwirionedd ydyw, mor bell ag yr ydym ni wedi cael cyfle i wneuthur ymchwiliad, y mae athrawiaeth eiriolaeth yr Ysbryd wedi dianc sylw y duwinyddion. Yr unig beth a ddywed Dr. Lewis yn ei Gorff Duwinyddiaeth mewn cyfeiriad at y geiriau y mae'r athrawiaeth hon yn amlwg yn seiliedig arnynt yw, "Trwy yr Ysbryd y maent [sef y sawl ag y mae efe yn preswylio ynddynt] yn cael eu cynhyrfu i weddïo” (tu dal. 407). Yn yr unig gyfeiriad a wneir gan Howe atynt, nid yw yntau ychwaith yn sylwi dim ar y gwirionedd hwn. Ac nid ydym wedi llwyddo i gael dim yn Nghyfundraeth Dduwinyddol Dr. Hodge ar y

mater hwn. a ganlyn:

Ond yn ei esboniad ar Rhuf. viii. 26, 27, yr ydym yn cael

Y mae Crist yn galw yr Ysbryd Glân yn Ioan xiv. 16, yn "eiriolwr arall," hyny yw, arall amgen nag efe ei hun. Ac y mae y swydd hon yn cael ei phriodoli i'r Ysbryd hefyd yn Ioan xiv. 26; xv. 26; a xvi. 7, yn gystal ag yn y testun ger ein bron. Fel y dywedir fod yr Ysbryd yn gwneuthur yn gyffredinol yr hyn sydd yn perthyn i eiriolwr i'w gyflawni dros yr hwn sydd dan ei amddiffyn, felly y mae yn cyflawni dyledswydd neillduol eiriolwr, sef addysgu ei noddedigion (clients) pa beth i ddyweyd a pha fodd i gyflwyno eu hachos. Yn yr ystyr yma mae y testun hwn i'w ddeall. Ni wyddom ni pa fodd i weddïo, ond y mae yr Ysbryd yn ein dysgu. Mae pob gwir weddi yn ddyledus i ddylanwad yr Ysbryd, yr hwn sydd nid yn unig yn ein harwain yn newisiad y pethau am ba rai i weddïo, ond hefyd yn rhoddi i ni ddymuniadau priodol, ac yn gweithredu ynom y ffydd heb yr hon y mae ein gweddïau yn ddieffaith. Nid ydym i dybio fod yr Ysbryd ei hun yn gweddïo, neu yn traethu yr ocheneidiau anllafaredig am ba rai y mae'r Apostol yma yn son. Fe ddywedir ei fod yn cyflawni yr hyn y mae yn achosi i ni ei wneuthur. Ar yr un pryd, y mae llawer mwy yn cael ei olygu na bod yr Ysbryd yn ein dysgu i weddïo, fel y gall un dyn ddysgu arall. Ac y mae mwy yn cael ei olygu na bod dymuniadau a theimladau neillduol yn cael eu deffroi yn ein calonau, trwy ddylanwad o'r tu allan. Y mae yr Ysbryd yn preswylio yn y credadyn fel egwyddor o fywyd. Yn ein hymwybyddiaeth ni, nid oes wahaniaeth rhwng ein gweithrediad ni a gweithrediad yr Ysbryd. Y mae, modd bynag, gydrediad a chydweithrediad o'r dwyfol a'r dynol ymhob ymarferiad duwiol, ac mewn modd mwy arbenig yn y teimladau, y dymuniadau a'r dyhëadau hyny nas gallwn eu gwisgo mewn geiriau.

Yr

Fe welir felly fod y duwinydd enwog hwn yn cydnabod hawl yr Ysbryd i'r teitl o Eiriolwr, a hefyd, trwy y cymhorth a rydd yr Ysbryd i'r saint yn eu gweddïau i ledu eu hachos ger bron Duw, y gellir edrych ar eu dymuniadau a'u hocheneidiau hwynt fel ei erfyniau ef. Buasai yn dda genym pe buasai wedi ychwanegu mewn cynifer o eiriau fod yr Ysbryd trwy hyny yn dwyn ymlaen eiriolaeth ar ran y saint. Ac y mae yn anmhosibl i ni wybod i ba raddau y mae yr Ysbryd ei hun, nid yn unig yn cydymdeimlo â dymuniadau ein gweddïau, eithr hyd yn nod yn cyfranogi o honynt ei hunan. Nid oes dim yn wrthun yn y syniad hwn. Braidd nad yw geiriau yr apostol yn ei ffafrio. "Eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom âg ocheneidiau annhraethadwy." ydym ni yn egwan iawn yn ein gweddïau-yn anwybodus ac annhrefnus ar y goreu. Ond pa ddiffyg bynag sydd ynom ni, ac yn ein hymbiliau mwyaf cywir ger bron Duw, y mae yn gysur cryf i ni feddwl, ac yn gyfnerthiad annhraethol i'n hyder, fod "yr Ysbryd ei hun"-nid yn unig ynom ni, neu gyda ni, eithr "ei hun yn erfyn trosom ni âg ocheneidiau annhraethadwy "-nid i raddau bychain, ond yn anfesurol, i raddau nas gellir eu traethu. Ac fel y mae y geiriau dilynol gan yr apostol yn dangos, y mae gan yr Ysbryd ei "feddwl." Ac y mae yn amlygu y meddwl hwnw wrth gynnyrchu ysbryd gweddi yn y saint, a'u dysgu pa fodd i weddio, a pha beth i weddio am dano; ac y mae yn annichonadwy i ni synied ei fod ef yn gweithredu felly ar galonau pobl yr Arglwydd heb ei fod ef ei hun yn dymuno, yn deisyf, yn erfyn, yn eiriol ar ein rhan. Ac y mae Duw yn gwybod "meddwl yr Ysbryd;" nid yn unig, fel y dywedwyd, yn barod i wrando ein gweddïau ni a ddysgwyd i ni gan yr Ysbryd, eithr meddwl yr Ysbryd ei hun mewn perthynas i'n "gwendid," a'r "cynnorthwy" a roddes efe i ni a'n gweddïau at Dduw yn rhinwedd ei gymhorth ef,-ei waith ef ei hun "yn erfyn dros y saint." Nid yw yr athrawiaeth hon yn cymylu dim ar ogoniant eiriolaeth Crist, eithr yn hytrach yn adlewyrchu gogoniant mwy arni, yn gymaint a'i bod yn dangos fod eiriolaeth y Mab ar sail

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »