ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

haeddiant ei aberth yn sicrhâu i ni fendith mor fawr a phwysig ag eiriolaeth yr Ysbryd Glân. Gan hyny, y mae yn gwbl afreidiol i dynu dim i lawr ar eiriolaeth yr Ysbryd wrth ei chymharu â neu ei gwahaniaethu oddiwrth eiriolaeth y Mab. Y mae Dr. Owen, i'n golwg ni, wedi syrthio i'r camsyniad hwn. Yn un o'r dyfyniadau a wnaed uchod y mae efe yn gwadu gallu yr Ysbryd i eiriol. A thrachefn yn ei sylwadau ar y teitl a roddir gan yr Arglwydd Iesu gynifer o weithiau yn Efengyl Ioan, i'r Ysbryd Glân, ag a gyfieithir "Dyddanydd," sef yr un gair ag a gyfieithir yn 1 Ioan ii. 1, "Eiriolwr," y mae yn ysgrifenu fel hyn: "Ac nid yw yr ystyr o Eiriolwr i'w adael allan, yn gymaint a bod yr hyn a wna fel y cyfryw yn tueddu at ddyddanwch yr eglwys. Ac y mae yn rhaid i ni sylwi yn gyntaf nad yw yr Ysbryd Glân yn eiriolwr i ni gyda'r Tad. Y mae hyn yn perthyn yn unig i Iesu Grist, ac yn rhan o'i swydd ef." Ond y mae yr Ysbryd, os yn erfyn o gwbl, yn erfyn ar Dduw dros y saint. Ac y mae rhai esbonwyr yn esbonio yr ymadrodd "yn ol Duw," yn Rhuf. viii. 27, fel yn golygu yn ngwydd Duw. Nid ydym ni, modd bynag, yn mabwysiadu y golygiad hwn. "Fe ddywedir, yn wir, 'ei fod yn erfyn trosom âg ocheneidiau annhraethadwy;' ond nid yw yn gwneuthur hyn yn uniongyrchol, neu yn ei Berson ei hun. Nid yw yn erfyn trosom ni' yn amgen na thrwy wneuthur i ni erfyn yn ol ewyllys Duw; oblegid eiriol yn ffurfiol (formally) sydd yn hollol anghyson â'r natur Ddwyfol ac â'i Berson, yr hwn nid oes ganddo natur arall ond y Ddwyfol." Os ydyw yr Ysbryd Glân yn erfyn dros y saint yn wirioneddol, er nad yw yn gallu gwneyd hyny yn ffurfiol, nid yw o gymaint pwys. Ac mewn perthynas i'r rheswm a ddygir ymlaen gan y duwinydd mawr hwn dros y golygiad nas gall yr Ysbryd Glân eiriol yn uniongyrchol, nac yn wir ddwyn ymlaen eiriolaeth yn ffurfiol o gwbl, y mae hyn yn myned at wraidd holl "ddirgelwch duwioldeb." Yn gymaint ag i'r Mab ymgnawdoli, ac yn gymaint a bod yr Ysbryd yn preswylio yn nghalonau credinwyr, nid yw yn ormod i gredu fod yr Ysbryd Glân hefyd, o'i anfeidrol dosturi, ac ar sail haeddiannau y Dwyfol Iawn, "ei hun yn erfyn dros y saint," neu yn dwyn ymlaen eiriolaeth wirioneddol, os nad uniongyrchol hefyd, ar eu rhan. "Y mae efe gan hyny yn anghymhwys i fod yn eiriolwr i ni gyda Duw; yr Arglwydd Iesu yn unig sydd felly, a hyny ar sail ei iawn rhagflaenol a wnaed drosom ni." Eithr tra nad yw yr Ysbryd yn ymddangos ger bron Duw yn y nefoedd, ac yn ein natur yn dadleu ei haeddiant ei hun, ac nas gall wneuthur hyny; eto pwy mor gymhwys ag Ysbryd y Tad, yr hwn hefyd yw Ysbryd Crist, i erfyn ar Dduw dros y saint, pa un bynag ai "ei hun âg ocheneidiau annhraethadwy," neu yn anuniongyrchol yn a thrwy ddymuniadau a gweddïau y rhai sydd yn credu ? Yna y mae Dr. Owen yn myned ymlaen i roddi gwedd wahanol ar eiriolaeth yr Ysbryd: "Ond y mae efe yn eiriolwr dros yr eglwys, yn, a chyda, ac yn erbyn y byd. Mae'r fath eiriolwr yn un ag sydd yn ymgymeryd âg amddiffyn arall mewn unrhyw achos ag y mae yn cymeryd rhan ynddo. Yr achos y mae a fyno dysgyblion Crist âg ef yn ac yn erbyn y byd yw gwirionedd yr efengyl, gallu a theyrnas eu Harglwydd a'u Meistr. I hyn y maent yn tystiolaethu; dyma sydd yn cael ei wrthwynebu gan y byd; a'r achos hwn, dan amrywiol ffurfiau, y maent hwy ymhob cenedlaeth yn dyoddef gwaradwydd ac erlidigaethau o'i

herwydd. Yn yr achos hwn yr Ysbryd Glân yw eu heiriolwr, gan gyfiawnhâu Iesu Grist a'r efengyl yn erbyn y byd" (Vol. iii. p. 362). Nid oes genym wrthwynebiad i'r golygiad hwn fel syniad ychwanegol am eiriolaeth yr Ysbryd; ac y mae cysylltiad yr amrywiol fanau y ceir y teitl "Dyddanydd" yn Efengyl Ioan yn cadarnhâu y golygiad. Ond nid dyma yr oll o eiriolaeth y Trydydd Person, na'r prif beth sydd yn perthyn iddi, nac yn wir yr hyn sydd yn ei gwneuthur yn wirioneddol yn eiriolaeth. Fel y mae hanfod eiriolaeth y Mab yn gynnwysedig yn ei waith yn ymddangos ger bron Duw yn sancteiddiolaf y gogoniant, felly eiriolaeth yr Ysbryd yn ei waith yn erfyn drosom ni yn ol ewyllys Duw, a hyny yn yr amrywiol weddau ag yr ydym eisoes wedi eu henwi ac wedi ceisio eu hegluro. I symio i fyny,

1. Mae yr Ysbryd Glân yn eiriolwr.

2. Mae yn dwyn ymlaen ei eiriolaeth (1) trwy gyfrwng ein gweddïau ni, yn gymaint a'i fod yn ymwneyd â ni i'r fath raddau yn ein gwaith yn galw ar enw yr Arglwydd fel y gellir edrych ar ein hymbiliau ni fel ei erfyniau ef; (2) trwy ei fod "ei hun," o'i dosturi a'i gydymdeimlad, "yn erfyn drosom âg ocheneidiau annhraethadwy;" (3) trwy ei waith yn ein hamddiffyn a'n diogelu yn wyneb rhwystrau ac mewn profedigaethau, ac yn erbyn pob math o elynion.

3. Mae ei eiriolaeth yn effeithiol, oblegid (1) grymusder ei erfyniau— "mae yn erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy;" (2) y mae yn erfyn dros y saint "yn ol ewyllys Duw."

y

4. Ac y mae ei eiriolaeth; tra yn gwahaniaethu oddiwrth eiriolaeth Mab yn y pethau a enwyd eisoes--ac ni raid i ni eu hailadrodd ymayn un o'r bendithion goreu a mwyaf cysurol y mae cyfryngdod yr Arglwydd Iesu wedi ei sicrhâu i ni; ac yn lle tynu dim oddiwrth, y mae yn adlewyrchu gogoniant mwy ar eiriolaeth y Mab. Ac fel cymhwysiad ymarferol, yr ydym yn sylwi ei fod o'r pwys mwyaf ein bod yn offrymu ein holl weddïau yn yr Ysbryd Glân, gan ddibynu arno ef am bob cyfarwyddyd a nerth a gras i weddio megys ag y dylem; ac hefyd, ar bwys gwirionedd yr athrawiaeth hon am eiriolaeth yr Ysbryd, dylem gredu yn fwy sicr a hyderus fod Duw yn gwrando gweddïau ei saint.

WILLIAM EVANS.

[merged small][ocr errors][merged small]

Y MAE amgylchiadau y misoedd a'r blynyddoedd diweddaf wedi tynu sylw y byd at Rwssia a'i hanes yn anad un wlad arall. Un o'r pethau cyntaf sydd yn taro ymchwilydd yn y cyfeiriad hwn ydyw mor lleied mewn gwirionedd oeddid yn ei wybod am sefyllfa pethau yn y wlad hono pan gynhyrfwyd y byd gwareiddiedig gan ofnadwyon NIHILIAETH a'i broffeswyr ychydig amser yn ol.

Trwy ba ddadblygiadau y cyrhaeddodd dosbarth o drigolion Rwssia ystâd ymha un yr edrychir ar holl ddinystr a difodiant yr hyn sydd, fel unig obaith gwaredigaeth? Pa beth ydoedd y gwreiddyn, a pha fath ydoedd y tyfiant a gododd y fath goedwig Upasaidd i ddifa pobpeth a ddeuai o fewn cyrhaedd ei gwenwyn? Pa beth achosodd i ormesiaeth a gormeswyr wallgofi nes anghofio fod eu gwlad o fewn pellder mesurol, ys dywedir, i wareiddiad cenedlaethol? Pa beth barodd i benadur a gyfrifid (a hyny ar seiliau gweddol gadarn) ychydig amser yn ol yn "dad ei bobl," orfod cilio rhag y bobl hyny, a dianc o'r naill balas i'r llall mewn ofn a dychryn am ei fywyd? Pa fodd y daeth llosgiad a mwrdrad i fod yn bethau cyffredin, ac yn bethau a gyfiawnheid, nid ymysg gwehilion cymdeithas, ond ymhlith y dosbarth uchaf a mwyaf dysgedig a phaham yn nghanol milwriaeth a heddlywiaeth oedd yn treiddio pob congl o'r ymherodraeth, y gadawyd i'r cyfryw droseddwyr ddianc yn ddigosb? Pa fodd y cyrhaeddwyd y fath sefyllfa dorcalonus, a pha fodd y deuir allan o honi? Dyma rai o'r cwestiynau a ofynid yn gyffredinol, ac y maent eto i raddau mawr yn aros am atebiad. Diangenrhaid yw ychwanegu fod eu hystyriaeth yn bwysig yn gystal ag yn ddyddorol, nid yn unig i'r Rwssiaid, ond i'r ddynoliaeth.

Ynghylch ymherodraeth sydd yn cyrhaedd o derfynau Germany yn Ewrop hyd at dueddau China yn Asia, ac o'r Pegwn Gogleddol hyd at y Môr Caspiaidd yn y Dehau, y mae yn naturiol dysgwyl cryn lawer o anwybodaeth. Ymleda tiriogaethau yr Ymherodraeth Rwssiaidd dros seithfed ran o'r byd cynnwysa fwy na hanner Cyfandir Ewrop a thrydedd ran o Gyfandir Asia-mesura yn agos i wyth miliwn a hanner o filldiroedd ysgwâr-a phoblogir hi (yn ol cyfrifiad 1870) gan oddeutu pedwar ugain a chwech o filiynau o eneidiau, y rhai a wneir i fyny o Rwssiaid, Pwyliaid, Lithuaniaid, Ffiniaid, Tartariaid, Baschkiriaid, Germaniaid, Iuddewon a Thyrciaid, heblaw nifer llïosog o fân genedloedd eraill ymhlith y rhai y proffesir daliadau Eglwys Roeg, ac Eglwys

Rhufain, Mahometaniaeth, Iuddewiaeth, Protestaniaeth, a phob iaeth. arall adnabyddus (ac fe allai anadnabyddus) i genedloedd gwâr. Rhaid cofio ymhellach nad ydyw daearyddiaeth y wlad yn gyfryw ac i gymhell na ffafrio ymchwiliad. Y mae y tir gan mwyaf yn anaddas i driniaeth; yn y gogledd y mae y tundras-corsydd anffrwythlawn-bron bob amser wedi eu cloi i fyny gan rew, ac ni thyf dim arnynt ond math o fwsogl; y mae Finland wedi ei gorchuddio â llynoedd, y rhai a amgylchir gan greigiau a bryniau tywodlyd; yn y dehau oddeutu'r Môr Caspiaidd, ymdaena steppes-gwastadeddautywodlyd mawrion-anferth a diffrwyth; tra y mae Siberia a llawer o'r taleithiau mewnol wedi eu llenwi â choedwigoedd; ond y mae y wlad sydd yn ymgyrhaedd o Fôr y Baltic i'r Môr Du yn nodedig am ei ffrwythlondeb, ac yn dwyn cynnyrch rhagorol o'r grawn* sydd yn cyfansoddi cyfoeth Rwssia mewn ystyr amaethyddol. Os ychwanegir at y ffeithiau hyn, nad ydyw Llywodraeth Rwssia un amser wedi tueddu rhyw lawer i hyrwyddo lledaeniad gwybodaeth ynghylch ei gweithrediadau ei hun nac eiddo ei deiliaid, yr amrywiaeth dyeithrol a diderfyn sydd yn bod mewn gwahanol ranau o'r ëang-ymherodraeth ac ymhlith gwahanol haenau o'i chymdeithas, ynghyd a'r rhagfarn ymwybodol neu anymwybodol sydd y rhan amlaf yn meddiannu pob ymchwilydd i'w hanesiaeth, nid rhyfedd yw cael fod amrywiaeth barn nid yn unig gyda golwg ar achosion, ond amgylchiadau hefyd; nid yn unig gyda golwg ar gasgliadau, ond hefyd gyda golwg ar ffeithiau ei hanes. "Y mae aml i beth yn cael ei ysgrifenu ynghylch Rwssia a'i phobl," meddai beirniad diweddar, "a bar i'r Rwssiad mwyaf trist wenu mewn tosturi, ac weithiau mewn diystyrwch, wrth ddyfnder yr anwybodaeth a ddangosir gan rai fynai-fod-yn-ddysgawdwyr." Hyd o fewn pedair neu bum' mlynedd yn ol yr oeddym yn gorfod dibynu am ein gwybodaeth ynghylch sefyllfa ac ansawdd gymdeithasol a gwleidyddol y wlad ar weithiau Haxthausen, yr hwn a ysgrifenodd ei gyfrol o dan nodded neillduol y Llywodraeth Rwssiaidd, a thegwch yr hwn gan hyny oedd yn agored o leiaf i ammheuaeth; ysgrifeniadau M. Nicolas Tourguéneff, cyfaill a dysgybl Stein y gwladweinydd Prwssiaidd ; a M. Herzen, awdwr amryw weithiau chwyldröadol, â'r hwn y cawn gyfarfod eto ymhellach ymlaen; ond erbyn hyn gall yr efrydydd gael goleuni pellach a chywirach yn ngweithiau Mr. Mackenzie Wallace (Russia), Mr. Sutherland Edwards (Russians at Home), M. Eckhardt (Modern Russia), Mr. Hepworth Dixon (Free Russia), awdwr Germanaidd (Russia Before and After the War, cyfieithiad Mr. Fairfax Taylor), Madame Kiréef (O.K.), awdures dalentog Russia and England, yr hon a gafodd y fraint o gael ei beirniadu gan Mr. Gladstone, a M. Maurice Dreyfus (Nihilisme), heb son am erthyglau llenyddol Mr. Ralston, traethodau gwleidyddol Mr. Grant Duff, a nofelau cymdeithasol MM. Ivan Tourguéneff, Leo Tolstoy, a Henri Greville.

Gan gymeryd mantais ar yr ymchwiliadau diweddar hyn, amcanwn mewn modd hollol ddiduedd-fel y gweddai i gofnodydd ffeithiau hanesyddol-fwrw golwg dros rai o'r bradwriaethau a'r chwyldroadau sydd yn gwneyd i fyny yr hyn a elwir genym yn Ddalenau duon hanes Russia

* Yn benaf gwenith, haidd (y rhai a allforir yn helaeth), ceirch a rhyg (yr hwn yw prif foddion cynnaliaeth y dosbarthiadau isaf).

-gan aros yn benaf ar ddechreuad a chynnydd, ynghyd a sefyllfa bresennol y diweddaraf o honynt, sef Nihiliaeth.

Y mae Rhyddid y Bobl ymhob gwlad, i raddau mwy neu lai, wedi ei ennill trwy ymdrechion nifer cymharol fychan o wladgarwyr, y rhai trwy ddyoddefiadau personol yn cyrhaedd weithiau hyd at ferthyrdod, a brynasant ryddid miloedd. Trwy hunanymwadiad o'r fath hwn y daeth rhyddid i Italy, i Germany, i Ffrainc, ïe, ac i Brydain. Ond am Rwssia, y mae hi wedi plygu ei gwàr am oesoedd dan iau gorthrwm a chaethiwed; ofnai y mwyaf hyderus o'i phlant fod ysbryd Rhyddid wedi ei lethu os nad wedi ei ladd o'i mewn; ni bu un o'i beirdd am oesoedd yn ddigon gwrol i anerch ei phobl yn ngeiriau Byron,

Hereditary bondsmen! know ye not

Who would be free, themselves must strike the blow?

yn hytrach gellid dyweyd

The heroic lay is tuneless

The heroic bosom beats no more.

Yr oedd ambell un, fe allai, yn barod "to feel at least a patriot's shame;" ond cymerodd ganrifoedd i Rwssia fagu cymaint ag un Puschkin, ac nid yw y Puschkin a fagodd ond cysgod digon gwan o'r Bardd a gyffrôdd Groeg i annibyniaeth a rhyddid.

O'r nawfed i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, bu Rwssia yn ngafaelion gormesiaeth o'r fath greulonaf, ac ofer hollol yw chwilio ei hanes am gyfnod o ryddid cenedlaethol. Wrth fyned yn ol i'w chroniclau boreuol, yr ydym yn gweled i'w thrigolion cyntefig gael eu gorchfygu gan adran o'r teulu Teutonaidd a drigiannai yn y gogledd-dir, y rhai a arweinid gan Rurik, Sineus, a Truvor; ac yn y nawfed ganrif i ymherodraeth gael ei sefydlu trwy uniad gwahanol lwythau y Slavs, y Finns, a'r Tartars. Er fod y Teutoniaid hyn yn meddu hadau y rhyddfreiniau sydd i'w canfod yn hanes boreuol eu cenedl, y mae yn ymddangos i'r chwant am allu eu troi yn ormeswyr, ac iddynt gaethiwo y gorchfygedig yn drwm. Ymhen amser syrthiodd y wlad i ddwylaw llwyth o'r Mongoliaid, y rhai drachefn a ychwanegasant at feichiau y brodorion, dan y rhai y buont yn parhâu i ocheneidio hyd nes cyfododd Tsariaeth Muscovy yn y bymthegfed ganrif, ac y syrthiasant i ddyfnach trueni o dan yr Ewyllys Fawr Unbenaethol. Fel hyn y sylwa Heberstein ar y mater pan yn ysgrifenu yn 1549: "Y mae y pen-tywysog yn llefaru, a phobpeth yn cael ei wneyd; ar ei ewyllys ef y dibyna bywyd ac eiddo pob dosbarth; nid yw yn cydnabod gwrthddywediad; y mae pobpeth a wna yn gyfiawn fel pe b'ai duw yn ei wneuthur, oblegid y mae ei bobl yn argyhoeddedig ei fod yn cyflawni yr ordeiniadau dwyfol." Cynnorthwyid y Czar fel mater o ffurf gan Gynghor gwladol, ond dibynai dewisiad hwn yn hollol ar ei ewyllys ef ei hun: os byddai mater o bwys i'w benderfynu gelwid Cynghor ynghyd wedi ei gyfansoddi yn unig o'r teulu Ymherodrol, ac weithiau mewn ysbryd o ymostyngiad gofynid cynghor y Patriarch Eglwysig, ond mewn gwirionedd nid oedd na chynghor na chyfraith a feiddiai fod yn groes i ewyllys yr Ymherawdwr, yr hwn a deimlai at ei ryddid

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »