ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

mai math o barhâd o sect y Saduceaid ydyw y sect Iuddewig hon ag sydd yn myned o dan yr enw Karaites. (Gwel Dr. Henderson's Biblical Researches and Travels in Russia, &c. Chap. xiv.)

5. Preswylwyr yr Ynysoedd Prydeinig.

Mae rhai yn teimlo dyddordeb rhyfeddol yn y ddamcaniaeth ryfedd hon, ac yn meddu ffydd gadarn ynddi. Mae y tri llyfryn cyntaf ar y rhestr uwch ben yr ysgrif hon yn cerdded bron yr un llwybr, ac yn defnyddio yr un rhesymau; felly adolygu un o honynt fydd yr un peth yn sylweddol ag adolygu y tri. Cyfyngwn ein sylwadau, gan hyny, i lyfryn y Parch. B. W. Savile, M.A. Gwnawn hyn yn fwy neillduol, yn gyntaf, am fod Lazarus yn nodi ysgrifau Philo-Israel fel ei adnoddau, o ba rai y tynodd allan ei resymau; ac, yn ail, am fod Philo-Israel, yn ei Ragarweiniad i lyfryn Mr. Savile, yn desgrifio llyfryn Mr. Savile "a more advanced and better book upon the subject" na'r hyn a ysgrifenasai Philo-Israel ei hun ar y pwnc.

Oni buasai y Bennod I. ar "Ymadroddion Celyd," buasem yn cael ein temtio yn y fan yma i ddefnyddio rhai ymadroddion lled rymus am y llyfryn dan sylw; ond yr ydym yn cael ein tynghedu i ymattal hyd nes yr awn trwyddo.

Wel, awn rhagom ynte. Damcaniaeth yr awdwr hwn ydyw mai Preswylwyr presennol yr Ynysoedd Prydeinig yw y Deg Llwyth. I attegu y syniad hwn, noda yr awdwr lu o resymau; megys y Cronicl Saxonaidd -Prophwydoliaeth Ezeciel am uniad Judah ac Ephraim-yr ysgrifen Beth Khumri ar lechau adfeilion Ninefeh-Tystiolaeth yr ApocryphaBeddargraffiadau yn y Crimea-Ieithyddiaeth-Uchafiaeth Prydain ymhlith y teyrnasoedd-Lliosogrwydd Hiliogaeth-Crwydriadau ymysg y Cenedloedd—a llu eraill o Brofion Israddol. Pe byddai llïosogrwydd gosodiadau yn profi gwirionedd damcaniaeth, dylai y ddamcaniaeth dan sylw fod yn wirionedd digymysg.

Gwnawn ymchwiliad i rym y gosodiadau hyn bob yn un fel yr awn rhagom.

(1.) Tystiolaeth y Cronicl Saxonaidd.

Cyfansoddwyd y Cronicl hwn tua mil o flynyddau yn ol, yn nheyrnasiad Alfred Fawr. Olrheinir achau Alfred Fawr i fyny, "link by link, though many generations are omitted," i'r patriarch Sem, mab Noah, gan brofi trwy hyny fod y Saxoniaid yn genedl Semitaidd! Da yr addefir fod llawer o genedlaethau ar goll, ac felly nid yw y Cronicl yn werth y papyr ar yr hwn yr ysgrifenwyd ef. Olrhain achau Sais, fil o flynyddau yn ol, i fyny hyd at y diluw, a hyny yn cael ei gredu a'i ddysgu gan un o athrawon crefyddol yr oes fel sail i darddiad Israelaidd y Prydeinwyr! Ar ol rheswm fel hwn, ni ddylem ryfeddu at un math o wrthuni yn ol llaw.

(2.) Prophwydoliaeth Ezeciel am uniad Judah ac Ephraim.

Cyfeirir at brophwydoliaeth Ezeciel (Ezec. xxxvii. 19—22), am uniad y deuddeg llwyth ar adeg y dychweliad o gaethiwed Babilon, fel prawf o ddamcaniaeth yr awdwr (tu dal. 13), er nas gallwn ddirnad yn iawn pa fodd y dealla yr awdwr fod yma un math o attegiad i'w ddychymyg. Cyflawnwyd y brophwydoliaeth mewn rhan yn uniad y llwythau ar adeg yr adferiad o Babilon, a chyflawnir hi yn llwyr trwy undeb yr holl gredinwyr o dan deyrnasiad y Messiah.

L

(3.) Y geiriad Tŷ Omri.

Swm y prawf hwn yw yr hyn a ganlyn: Omri a adeiladodd Samaria; ar y meini darganfyddedig yn adfeilion Ninefeh saif yr enw Beth Omri (Khumri yn ol y llyfryn) am y Deg Llwyth caethgludedig; bu y Cimmerii yn preswylio unwaith mewn talaeth o'r enw Khubusna, neu Fynyddau Kurdistan; ei fod yn debygol fod y Cimmeriaid hyn wedi cael eu llyncu i fyny gan y Beth Khumri, a bod y Deg Llwyth wedi rhoddi eu henw eu hunain, Khymri, ar y rhan hono o'r Celtiaid a elwir y Cymry. Dyna blethwaith o ddychymygion, onidê ?

(a) Nid oes awdurdod dros ddarllen Beth Omri neu Beth Khumri. Nid oes un grammadeg na geiriadur yn seinio yr Ayin (v) yn K. Mae y sain yna yn cael ei osod allan gan y Caph (5) neu y Qoph (p). Yn nhu dal. 62 seinia yr awdwr ei hun hi E, Ai, neu Aing.

(b) Nid oes rhith o sail dros ddywedyd fod Tŷ Omri wedi dyfod i olygu Tŷ y Cymry.

(c) Mai tyb hollol o eiddo yr awdwr ydyw fod y Cimmeriaid wedi ymgymysgu â'r Deg Llwyth, ac ymgolli ynddynt, a derbyn yr enw Cymry oddiwrthynt.

(d) Mae yn debycach o lawer mai parhâd o'r enw Cimmeriaid yw yr enw presennol Cymry; ac nid yw ĥòni fod cysylltiad rhwng Cymry Prydain a Chimerrii yr henafiaid yn cynnwys fod y cysylltiad lleiaf rhyngddynt a'r Deg Llwyth.

Mae yr awdwr wedi trawsnewid enw Omri yn Khumri, er adeiladu castell ar ei ddychymyg gwyllt ei hun!

(4.) Tystiolaeth yr Apocrypha.

"Y rhai hyn yw y Deg Llwyth y rhai a gaethgludwyd o'u gwlad eu hunain yn amser Hosea y brenin, y rhai a orchfygasai Salmaneser, brenin Assyria; ac efe a'u dyg hwynt dros yr afon Gozan [ychwanegiad awdwr y llyfryn ydyw Gozan] fel y daethant i wlad arall. Ond ymgynghorasant â'u gilydd, y buasent yn gadael cynnulleidfa y paganiaid, a myned i wlad bell, yn yr hon na thrigasai dyn erioed, fel y gallent gadw yno y deddfau y rhai na chadwasent yn eu gwlad eu hunain. Ac aethant dros yr Euphrates yn lleoedd culion yr afon. Oblegid dangosodd y Goruchaf arwyddion iddynt, gan attal y llif, nes iddynt fyned drosodd. A theithiasant ymlaen bellder mawr, taith blwyddyn a hanner, hyd nes y daethant i le a elwir ARSARETH" (2 Esdras xiii. 40—48).

Yn awr, y mae lle o'r enw Arsareth, ebe'r ysgrifenwyr hyn, yn Roumania, i ba le yr aeth y Deg Llwyth ar eu hymdaith i Brydain, a thybia awdwr y llyfryn ei fod wedi dwyn barn i fuddugoliaeth! Dr. Grant, modd bynag, a dybia fod Arsareth yr un peth âg Ararat. (The Nestorians, p. 218.) Ond nid yw y llyfr Apocryphaidd hwn ond ffug. Nid yw i'w gael yn y Groeg na'r Hebraeg, ond y Lladin. Proffesa fod wedi cael ei ysgrifenu gan Ezra yr offeiriad, tra y cynnwysa ymadroddion ag sydd yn debyg iawn i ddyfyniadau o'r Testament Newydd. Mae yn debygol ei fod wedi cael ei ysgrifenu yn y ganrif gyntaf; a'r unig beth a brawf yw fod dychymyg ar waith tua diwedd y ganrif gyntaf ynghylch y Deg Llwyth, tra yr oedd ffeithiau yr hanes wedi cael eu hanghofio. (5.) Beddargraffiadau ac Ysgrifeniadau yn y Crimea.

Ychydig o flynyddau yn ol, dangosodd Rabbi yn y Crimea ysgrif i'r Parch. Mr. Stern, cenadwr Seisonig yno, yr hon oedd fel y canlyn:

"Myfi wyf Jehudi, fab Moses, fab Jehudi y Galluog, gŵr o Lwyth Naphtali, yr hwn a gludwyd i gaethiwed gyda Llwyth Simeon, a Llwythau eraill Israel, gan y Tywysog Salmaneser, o Samaria, yn nheyrnasiad Hosea, brenin Israel. Cludwyd hwy i Halah, i Habor, yr hon yw Cabul, i Gozah, ac i Chersonesus, yr hon yw y Crimea. Adeiladwyd Cherson gyntaf gan dad Cyrus, dinystriwyd hi eilwaith ac adeiladwyd hi drachefn, a galwyd hi Crim." (Tu dal. 27, 28.)

Mae dau beth yn nodweddu y dystiolaeth hon :-(1) Anwybodaeth yr ysgrifenydd o ddaearyddiaeth y Dwyrain, canys gwna yr afon Habor, Chabor, neu Chebar, yr un peth â Chabul, prifddinas Affghanistan. (2) Ei gwrthdarawiad â'r Bibl, canys dywed hwnw yn bendant mai i Assyria y cludasid y Deg Llwyth.

Dywed un o'r ysgrifeniadau dan sylw fod y Deg Llwyth wedi eu gwasgaru trwy yr holl Ddwyrain, mor bell & China. (Tu dal. 27.)

Nid yw y rhai hyn, o ganlyniad, o fawr werth i goleddwyr yr athrawiaeth Anglo-Iuddewaidd.

(6.) Ieithyddiaeth.

Nodir dau brawf o natur ieithyddol er attegu y ddamcaniaeth dan sylw, sef fod Taliesin yn cyfansoddi yn Hebraeg, a thebygolrwydd yr Hebraeg i'r Gymraeg. "My lore has been declared in Hebrew, in the Hebrew tongue have I sung." Dyna, meddir, yw ystyr dwy linell yn ngwaith Taliesin, yn y chweched ganrif. Ysgrifenai y bardd Milton rai darnau barddonol a chenadwriaethau y Llywodraeth yn y Lladin; cyfansoddodd yr Esgob Lowth ei Ddarlithiau ar Farddoniaeth Hebreig yn y Lladin; a byddai yr un mor gyson haeru mai Rhufeinwyr oedd y ddau hyn, am eu bod yn cyfansoddi yn y Lladin, âg mai Hebrewr oedd Taliesin am ei fod ef yn cyfansoddi yn yr Hebraeg. Yr oll a brofai y cyfansoddiad Hebraeg, os cyfansoddiad Hebraeg hefyd (?), ydoedd nerth talent naturiol y bardd, a'i gariad at Air yr Arglwydd, gan ei fod yn ei ddeall a'i fyfyrio yn yr iaith wreiddiol.

Mae beirniadaeth yr awdwr ar y Gymraeg yn rhy dywyll, a'i ymdriniaeth â'r Hebraeg a'i thebygolrwydd i'r Gymraeg yn rhy aneglur, i ni allu ei ddilyn; a'i engreifftiau yn ymddangos i ni yn unrhyw beth heblaw profion. Gwel tu dal. 32. Y cyfieithiad o Psalm xxiv. 10, yn iaith y Cymry, eb_efe, fyddai :-"Pwy yw Efe yr hwn sydd yn Feddiannydd ar bob doniau? Myfi yr hwn wyf I-A-VW-VO-Iehofah Arglwydd y Lluoedd, Efe yw y Meddiannydd pob doniau." Nid cyfieithiad o honi fel y mae yn y Bibl Hebraeg, bid sicr !

(7.) Uchafiaeth Prydain ymysg cenedloedd y byd.

[ocr errors]

Yna yr Arglwydd dy Dduw a'th esyd yn uwch na holl genedloedd y ddaear" (Deut. xxviii. 1). "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Sïon y rhai a enwir yn benaf o'r cenedloedd y rhai y daeth tŷ Israel atynt" (Amos vi. 1). "Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai penaf y cenedloedd" (Jer. xxxi. 7). Cymhwysir y geiriau hyn at fuddugoliaethau Lloegr ar dir a môr, a dylanwad Lloegr ymhlith teyrnasoedd y ddaear (tu dal. 34-36); esboniad hollol ddychymygol. Dichon y gwna y tro i'r Anglo-Israel, ond ni foddlona y ČambroBritish. Gellid profi unrhyw beth a phob peth, os yw y dull yna o esbonio yr Ysgrythyrau yn iawn. Fe gofia y darllenydd mai at Israel y cyfeiria y gair, ac nid at y Saeson; a mwy rhesymol fil o weithiau

yw deall y geiriau "penaf o'r cenedloedd" am y genedl Iuddewig, "yr hon a elwir felly," ebe Dr. Henderson, ar Amos vi. 1, “am ei bod y benaf, neu y fwyaf urddasol o holl genedloedd y ddaear; gan ei bod wedi cael ei gwneuthur yn bobl briodol i Dduw, ac yn meddu cyfreithiau a rhagorfreintiau anadnabyddus i un genedl arall. Da y gellid ei desgrifio fel yn sefyll ar ben y rhestr."

(8.) Lliosogrwydd Hiliogaeth.

Addawsai Duw wneyd had Abraham mor liosog a llwch y ddaear, a gwneyd y genedl Israelaidd yn fil mury nag ydoedd, a gwneyd had Ephraim yn lliaus o genedloedd (Gen. xiii. 16; Deut. i. 11; Gen. xlviii. 19). Nis gellir gweled cyflawniad yr addewidion a'r prophwydoliaethau hyn yn unman, yn ol yr awdwr, ond yn lliosogrwydd ac amrywiaeth deiliaid Prydain Fawr. (Tu dal. 39-41.)

Mae yr awdwr yn gorestyn pwynt er cadarnhâu ei ddamcaniaeth. (a) Gesyd boblogaeth China yn 250,000,000; buasai yn agosach i'w le pe dywedasai 350,000,000.

(b) Gesyd boblogaeth y Llywodraeth Brydeinig yn 300,000,000; ond nid Anglo-Saxons yw yr Hindwaid, felly nid yw y ffigyrau i'r pwrpas.

(c) Ni olygid fod had Ephraim i ddyfod yn lliaws o genedloedd. Y darlleniad llythyrenol yw, "Ei had a ddaw yn gyflawnder y cenedloedd,” neu "yn gyflenwad y llwythau." Golyga y gair cenedloedd (-goim) yma lwythau Israel, a chyfeirir at flaenoriaeth a dylanwad Ephraim ymhlith y llwythau, fel pen y Deg Llwyth. Gwel Keil ar y lle. Fe gofia y darllenydd o hyd mai Israel sydd gan yr ysgrifenwyr sanctaidd mewn golwg, ac mai Lloegr sydd gan awdwr y llyfryn o flaen ei lygaid.

(9.) Crwydriadau ymysg y Cenedloedd.

Yr oedd Israel i fod yn crwydro ymysg y Cenedloedd; yr oedd y Saeson yn crwydro cyn sefydlu yn Lloegr; o ganlyniad, Israeliaid yw y Saeson. (Tu dal. 42—45.) Bu cenedloedd eraill hefyd yn crwydro wrth ymwasgaru ar hyd wyneb y ddaear, cyn ymsefydlu o fewn "terfynau eu preswylfod" (Act. xvii. 26); o ganlyniad, Israeliaid yw pob cenedl arall !

(10.) Amrywiol Brofion eraill.

(a) Jacob yn dad "cenedl a chynnulleidfa cenedloedd" (Gen. xxxv. 11). Gwel y sylw blaenorol ynghylch Ephraim-(8. c.)

(b) Israel i "gornio y bobl hyd eithaf y ddaear" (Deut. xxxiii. 17), yn arwyddo Lloegr yn estyn ei changenau a gwthio ei buddugoliaethau i eithafoedd y byd. Desgrifio buddugoliaethau Israel, modd bynag, y mae Moses, yn benaf yn nyddiau Josua, ar lwythau Canaan hyd eithaf neu derfynau y wlad, yr hyn a olyga y gair -erets, yn ogystal a'r ddaear yn yr ystyr eangaf.

[ocr errors]

your

(c) "Saith amser." "I will punish you SEVEN TIMES more for sins "saith mwy am eich pechodau" (Lef. xxvi. 18, 21, 24, 28). Mae y 66 SEVEN TIMES" hyn, ebe'r awdwr, yn golygu cyfnod o 2520 o flynyddau, yr hyn oedd hyd y cyfnod o gaethgludiad y Deg Llwyth, c.c. 720 hyd A.D. 1801, pryd y dechreuodd mawredd, buddugoliaethau a llwyddiant Lloegr fyned rhagddynt fel llanw anorchfygol, ac y daeth Ephraim grwydrol yn "benaf ymysg y cenedloedd." (Tu dal. 49.)

Gresyn nad oes rhith o sail i adeilad mor dlws. "Saith mwy” ydyw

ý cyfieithiad Cymraeg. -sheba' yn unig a geir yn yr adnodau, yr hwn a gyfieithir “sevenfold" gan Keil. Dywed Gesenius mai rhagferf ydyw, a'i fod yn cael ei ddefnyddio am amser neu rifedi anmhenodol. Defnyddir y gair yn yr adnodau canlynol: "Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori" (Psa. cxix. 164). "Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn" (Diar. xxiv. 16). Rhaid rhoddi y 2520 mlynedd i mewn yn gyntaf, cyn y gellir eu cael allan o'r gair.

(d) "Anifeiliaid buain." "A hwy a ddygant eich holl frodyr ar anifeiliaid buuin i'm mynydd sanctaidd Jerusalem" (Esa. lxvi. 20). (Tu dal. 50, 60.) Wrth ddefnyddio y geiriad "anifeiliaid buain," yr oedd Esaiah, ebe'r awdwr, yn llefaru o dan ysbryd prophwydoliaeth, ac yn cyfeirio at y "MARCH HAIARN-y ceffyl tân, neu y train, gyda dyfeisio a gweithio pa un y mae yr Anglo-Saxon wedi dyfod mor enwog! Ac ar awdurdod Cardinal Mezzofanti, dywed yr awdwr fod y gair Hebraeg - circaroth, yr hwn a gyfieithir "anifeiliaid buain," yn golygu "peiriannau yn troi o amgylch gyda chyflymdra y fellten.” Dyna'r train ar y line! Ystyr y gair, modd bynag, yn ol yr esbonwyr Iuddewig, ydyw camelod, dromedariaid; â'r hyn y cytuna Gesenius, Delitzsch, Henderson, Barnes, Noyes, Alexander, a Lowth.

(e) Tystion Duw. "Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd" (Esa. xliii. 10), wrth Israel, yr hyn a gymhwysa yr awdwr hwn at y genedl Brydeinig, am ei bod yn Brotestaniaid, ac am fod y grefydd Brotestanaidd yn grefydd sefydledig y wlad! (Tu dal. 52, 58, 59.) Mae addewidion Duw i'w eglwys yn cael eu cymhwyso gan yr awdwr yn ddibetrus at y genedl Seisonig, fel pe na fuasai safon sancteiddrwydd y Bibl ddim uwch na moesoldeb presennol y werin Seisonig!

(f) Y Dderwen Brydeinig. Fel y mae yr awdwr hwn yn nesu at y climax, mae ei brofion o hyd yn dyfod yn fwy arbenig. Yr oedd Israel yn eilunaddoli o dan y dderwen; yr oedd y Derwyddon yn addoli o dan y dderwen; o ganlyniad yr oedd y Derwyddon Prydeinig yn disgyn o'r Deg Llwyth (Ezec. vi. 11, 13; Hos. iv. 12—17). (Tu dal. 57, 58.) Yr oedd mamau Israel yn rhoddi llaeth i'w plant; yr oedd mamau Prydain gyntefig yn rhoddi y fron i'w hiliogaeth; o ganlyniad, yr oedd mamau Prydain yn disgyn o famau Israel! Prawf yw hwn sydd yn profi dim, am ei fod yn profi gormod. Ymddengys fod llawer o genedloedd, hen a diweddar, yn myned trwy eu defosiynau o dan gysgod cangenau tewfrig y goedwig, yn ogystal â'r Israeliaid a'r Cymry.

(g) Y Llew, a'r Unicorn, a'r Ysgarlad. Ystyria yr awdwr fod y cyfeiriadau at Judah ac Israel yn y Bibl, fel LLEW ac UNICORN, yn cyfeirio at arwyddluniau yr awdurdodau Prydeinig (Gen. xlix. 9; Deut. xxxiii. 17), a bod y fath eiriau â Nahum ii. 3, "Ei wŷr o ryfel a wisgwyd âg ysgarlad," yn cyfeirio at wisg goch y fyddin Seisonig. (Tu dal. 46, 50, 60.) Wel, nid oes genym ond dyweyd mai dychymyg gwyllt yw y cyfan, ac nad oes un sail i gredu yn y fath esboniad. Dywed Gesenius nad oes awdurdod dros gyfieithu reêm, D (Deut. xxxiii. 17), yn unicorn, ac mai y buffalo neu yr ych gwyllt a olygir.

(h) Y gair ENGLAND yn y Bibl.

Dyma y climax! Beth mwy sydd eisieu? "Sonir am Ephraim," ebe'r awdwr, "fel anner wedi ei dysgu ac yn dda ganddi ddyrnu" (Hos. x. 11). "Gellir seinio y gair Hebraeg am "anner" (a), Aingl-ah, neu

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »