ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

garcharorion politicaidd; dygwyd i mewn welliantau gyda golwg ar y fyddin a'r llynges; mewn gair, newidiwyd gwedd a gwellhawyd ysbryd y ddeddfwriaeth trwyddi draw: ond eto nid yw anfoddlonrwydd y Rwssiaid y dydd hwn nemawr llai; yn hytrach y mae, yn ystod y pum' mlynedd ar hugain y mae Alexander wedi dal y deyrnwialen, wedi ychwanegu cryfder. Paham a pha fodd y mae hyn yn bod? Un o'r rhesymau mawr am y ffaith, yn ddiammeu ydyw, fod yr Ymherawdwr wedi estyn breintiau, nid yn gymaint o ryddfrydigrwydd ei galon ei hun, ag o orfodaeth amgylchiadau. Fel y sylwyd, y fath ydoedd y teimlad yn Rwssia ar ol gorchfygiad y Crimea fel yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth roddi ffordd i'r public opinion. Yr oedd yn rhaid gwneyd rhywbeth i leddfu y teimlad o anfoddlonrwydd y cyfeiriwyd ato. Yn lle estyn rhagorfreintiau etholiadol a llywodraethol i'r bobl yn gyffredinol-yr hyn o angenrheidrwydd fuasai yn dwyn rhyddhâd y caethion a llïaws o ddiwygiadau eraill oddiamgylch,-y mae yr Ymherawdwr yn dal i fyny egwyddor unbenaethol y Goron trwy estyn ei thrugaredd i nifer-lliosog, mae'n wir-o'r dosbarth gweithiol, gan ddysgwyl trwy hyny eu gwneuthur yn ufudd weision iddo. Ar y trydydd o Fawrth, 1861, cyhoeddwyd rhyddhâd y serfs trwy'r taleithiau Rwssiaidd, a gwnaethpwyd dwy filiwn ar hugain a hanner o ddynion yn rhydd. Ond yr oedd amser maith yn angenrheidiol er rheoleiddiad y berthynas newydd rhwng y gweision a'u meistriaid. Y fath ydoedd ansicrwydd teimlad y Llywodraeth yn gystal a'r teimlad cenedlaethol ar y mater, fel, meddai un o haneswyr yr amgylchiad, fod yn ammheus pa un ai estyn bendith neu gyhoeddi melldith ydoedd y gwaith oedd yn cael ei wneyd. Bai mawr y mesur ydoedd nad oedd yn cyrhaedd yn ddigon pell; cyfranogai yn ormodol o ysbryd gwyliadwrus, petrusgar, ac ammheus yr Ymherawdwr a'i gynghorwyr, ac fel y cyfryw methodd foddloni y naill ochr na'r llall. Barnai y serfs fod blynyddau y trawsnewidiad o sefyllfa eu caethiwed i sefyllfa o ryddid, yn faich anhawdd ei ddwyn, a bod diffyg rhoddiad meddiannaeth iddynt yn y tir ar yr hwn y preswylient, yn anghyfiawnder oedd yn gorbwyso hyd yn nod eu rhyddid. Crewyd drwgdeimlad ynddynt gan rai o'u harweinwyr; cododd nifer o honynt mewn gwrthryfel i'r dyben o hawlio cyflawnach mesur; ond y diwedd fu, fel arfer, eu dysgu i beidio grwgnach trwy offerynoliaeth y knout a'r bidog, neu eu hanfon i chwilio am ryddid byd arall oddiar astellod y dienyddle. Dilynwyd hyn drachefn gan y lladdfa dorcalonus yn Warsaw, a rhanau eraill o Poland, yr hyn a gyfansodda y ddalen dduaf yn hanes yr Ymherawdwr goreu fu gan Rwssia erioed,-un, yn ol ysgrifenydd diweddar, a all hawlio fod ei ddwylaw yn lanach nag odid un penadur cyfansoddiadol oddiwrth ystaen creulondeb personol. Y gyfundrefn unbenaethol sydd yn gyfrifol, nid yr Ymherawdwr, am yr hwn y gellir dyweyd nad esgynodd i'r orsedd un mwy parod i fyw mewn heddwch â phawb, pe gadawai amgylchiadau iddo wneyd hyny. Ond y mae amgylchiadau wedi bod yn drech nag ef, ac fe allai fod yn anhawdd cael dyn mwy annedwydd heddyw ar wyneb daear na'r Ymherawdwr Alexander! Ar ol cyflafan Warsaw, y mae uchelgais ei bobl yn ei arwain i ad-drefnu ei fyddin ar raddfa sydd wedi gwneyd ei wlad am flynyddoedd yn fygythiad parhâus i heddwch Ewrop. I'r dyben o allu ei chodi i fyny i'r cryfder penodedig,

y mae yn gorfod estyn deddf y Conscription, ac y mae y bobl newyddryddedig yn cael eu cadwyno gyda llyffetheiriau newyddion. Heblaw hyn, y mae yr anfoddlonrwydd wedi cael ei ddyfnhâu trwy attaliad hollol ar ryddid y wasg,-trwy osod rhwystrau ar ffordd addysg gyffredinol ac erlidigaeth efrydwyr athrofaol, y rhai gan mwyaf sydd yn dra agored i syniadau rhyddfrydol,-trwy lygriad digyffelyb yr holl swyddogaeth wleidyddol a milwrol,-trwy yr ymgais a wnaethpwyd i fygu allan o fôd iaith a chenedlgarwch y Pwyliaid, &c.,-a thrwy yr erlidigaethau crefyddol, i'r rhai y mae pob enwad, oddigerth yr hon a elwir yr iawngred, yn ddarostyngedig.

Dyma'r sefyllfa a roddodd fôd i'r ofnadwyon a barodd ddychryn trwy holl wledydd gwareiddiol y byd, ac sydd wedi gwneuthur Nihiliaeth a Nihiliaid yn enwau o arswyd, nid yn unig yn Rwssia, ond trwy holl Ewrop. Gymaint oedd y pwysigrwydd a gysylltid â'r symudiad_chwyldroadol newydd fel y gosodwyd bron bobpeth o'r neilldu er cael mantais i olrhain hanes ei ddechreuad a'i ddadblygiad. Ymdriniwyd yn ddysgedig ar y mater ymhob newyddiadur Ewropeaidd; ysgrifenwyd traethodau afrifed, ynghyd a lliaws o gyfrolau trwchus, i'r dyben o'i benderfynu ; ond rywfodd neu gilydd y mae yn rhaid addef nad ydym eto wedi cyrhaedd syniad hollol glir am ffurfiad ac amcan y gymdeithas (os cymdeithas hefyd) ryfedd hon. Wrth ymwneyd â sefyllfa bresennol Rwssia, y mae yn ofynol cofio fod dwy blaid fawr yn proffesu amcanu am ddiwygiad cenedlaethol, sef y Slavophiliaid, cyfeillion y werin, a'r Nihiliaid. Y mae y ddwy blaid yn wrthwynebol i'r Llywodraeth; ond ceisia y naill gyrhaedd ei hamcan trwy ddinystriad chwyldroawl, trwy ddefnyddiad pob moddion cyfreithlawn ac anghyfreithlawn i'r perwyl hwnw, a thrwy gyflawniad erchyllderau ac ofnadwyon o bob math er symud ymaith y rhwystrau fo ar ei ffordd; tra y mae y llall yn ymgynnyg am welliantau gwleidyddol trwy ddiwygio y Cyfansoddiad ac ennyn cenedlgarwch a gwladgarwch y bobl, a thrwy ddal i fyny awdurdod y wladwriaeth mewn cyferbyniad i'r awdurdod unbenaethol. Y Slavophiliaid sydd yn gyfrifol am y rhyfel diweddar rhwng Twrci a Rwssia. Rhyfel y bobl mewn gair, ac nid rhyfel yr Ymherawdwr ydoedd, a dygwyd ef oddiamgylch gan y blaid a enwyd trwy eu cefnogiad o'r syniad am uniad cyffredinol y Slavs. Y Slavophiliaid sydd trwy y blynyddoedd wedi bod yn gweithio yn egnïol er Rwsseiddio (mewn dull o siarad) Poland, a thaleithiau Germanaidd Rwssia. Yn ngeiriau Tcherkasski, un o'i harweinwyr, eu bwriad ydyw, "dadwreiddio y gwareiddiad Lladinaidd, a rhoddi yn ei le wareiddiad Slavonaidd." Pa mor anghyrhaeddadwy yw y syniad hwn a welir yn eglur yn y ffaith fod pwyllgor o'r gwahanol ganghenau o'r Slavs-o Bohemia, o Hungary, o Servia, ac o Gallicia, &c. ar ol ymgyfarfod yn ddiweddar yn Moscow i ymgynghori â'u brodyr Rwssiaidd, wedi gorfod syrthio yn ol ar yr iaith Germanaidd fel cyfrwng dealltwriaeth, gan nad oedd yn bosibl iddynt ddeall eu gilydd yn y gwahanol ganghenieithoedd Slavonaidd a ddefnyddid yn eu plith. Y mae penboethiaid sydd yn breuddwydio y gellir uno dosbarthiadau mor amrywiol, symud ymaith rwystrau gwleidyddol a daearyddol, a ffurfio type newydd o wareiddiad Slavonaidd i fod yn gynllun gwareiddiad y dyfodol, wedi llamu mor bell o gyfeiriad y posibl fel mai gyda yr anhawsder mwyaf y dygir hwynt o fewn pwys a mesur synwyr cyff

redin. Ac eto, dyma y dynion yn ddiau a gynneuodd y goelcerth a fu o fewn ychydig i yru Ewrop yn wenfflam. Am y tro cyntaf fe allai yn ei hanes, y mae y Llywodraeth Rwssiaidd yn cael ei gwthio i ryfel gan symudiad poblogaidd anwrthwynebol. Y mae yn ddiammeu fod dymuniad traddodiadol am feddiannu Constantinople, appeliadau taerion y blaid genedlaethol neu y Panslavists ar ran eu cydhiliogaeth, ynghyd a phenboethni yr Eglwys Ddwyreiniol, wedi ymuno i ennyn teimladau uchelgeisiol y genedl. "Y mae bywyd Rwssiaidd," meddai un o arweinyddion y blaid, "wedi derbyn ystyr ac arwyddocâd newydd. Yr unig ffordd i'r bywyd hwn ennill ffurfiau newyddion yw trwy iddo ymestyn a chymeryd i mewn fywyd ad-grynhoawl Slavdom. Trwy hyny yn unig y gall Rwssia ennill y gallu angenrheidiol i ladd elfenau y Rhufeiniaeth a'r Germaniaeth sydd wedi ymosod arni, ac adeiladu gwrthglawdd a geidw draw y symudiad Dwyreiniol ar ran Germany, yr hwn sydd ddwbl beryglus ar ol buddugoliaethau Sadowa a Sedan." Fel y mae y byd erbyn hyn yn gwybod, llusgwyd yr Ymherawdwr a'i Lywodraeth i ryfel, a thrwy hyny rhoddwyd dyrnod a all brofi yn farwol i'r awdurdod unbenaethol. Yn lle y buddugoliaethau gogoneddus a brophwydwyd gan y Panslavists, y mae milwyr Rwssia yn cael eu dal mewn check gan y gelynion a ddiystyrasant, a hyny nid oddiar un diffyg yn ffyddlondeb na dewrder y milwyr eu hunain, ond oddiar ddiffygion o du y cadlywyddion,-aelodau gan mwyaf o'r teulu Ymherodrol. Priodolwyd methiantau dechreuol yr ymgyrch yn gyhoeddus i'r rhai hyn, a daliwyd hwy yn gyfrifol ger bron y wlad. Pan ymhen amser y trodd buddugoliaeth o du Rwssia, taflwyd y wlad drachefn i siomedigaeth oblegid yr hyn yr edrychid arno fel bychander yr ennill ; a phan ddaeth y Treaty of Berlin, y mae y Panslavists, nid yn unig yn cael eu siomi, ond yn rhoddi ffordd i'w siomedigaeth, a thrwy enau un o'u llefarwyr yn dyweyd nas gallasai gelyn penaf Rwssia ddyfeisio telerau mwy dinystriol i'w heddwch a'i Ilonyddwch cartrefol. "Awduron y Treaty hwn," meddai yr un gŵr mewn man arall, "ydyw y gwir Nihiliaid-dynion i'r rhai nid oes na Rwssia, na chenedlgarwch Rwssiaidd, nac Eglwys uniawngred yn bodoli o gwbl." Y mae canlyniadau y rhyfel yn disgyn, nid ar y rhai a'i dygodd oddiamgylch, ond ar Lywodraeth nas cefnogodd er nad attaliodd ef, "yr hon," meddid, "oedd yn amddifad o'r gwrolder a'r cymhwysder i'w ddechreu yn yr amser priodol, i'w gario ymlaen gyda'r egni priodol, nac i'w ddiweddu yn briodol pan oedd amgylchiadau yn gofyn am hyny." Yn bresennol y mae Panslavism o dan lèn, ond y perygl parhaus ydyw i'r Llywodraeth, yn ngwyneb anfoddlonrwydd cartrefol, gymeryd ei themtio i dderbyn rhai o gynlluuiau M. Katkoff o'r Moscow Gazette, a'r Mission Society of Benevolence, fel y gelwir y Pwyllgor Slavonaidd, i'r dyben o gadw sylw y genedl ar bethau tu allan i'w chylch hi ei hun.

Ond dalen dduaf hanesiaeth Rwssia yn ddiammeu yw yr hyn a elwir NIHILIAETH. Y mae yn anhawdd d'od o hyd i wir ystyr y gair; ond dywedir mai M. Ivan Tourguéneff sydd yn gyfrifol am dano, ac iddo gael ei roddi ar y cyntaf fel math o lysenw, a'i dderbyn fel arwyddair -yn debyg i'r modd y daeth Sansculottes a Gueux i gael eu harfer yn Ffrainc gan broffeswyr chwyldroadaeth o'r fath fwyaf dinystriol. Fel hyn y mae Mr. Grant Duff, yn un o'i Political Studies, yn ei ddarnodi :

"Nihiliaeth sydd athrawiaeth wedi ei gwneyd i fyny o olygiadau nifer o athronwyr a damcanwyr Gorllewinol, y rhai a gamddefnyddir ac a gamgyfaddasir i gylch bywyd cyffredin, yn lle cael eu cadw o fewn y cylch gwyddonol er doeth-ymbarotoad gogyfer â'r dyfodol. Cymerer cynifer o ronynau o Comte, rhyw gymaint o Lasalle, cynifer o Darwin, a rhyw gymaint o Buckle (o waith yr hwn y mae o leiaf bump o gyfieithiadau Rwssiaidd). Cymysger hwynt âg elfenau anghydweddol eraill yn y fath fodd ag a barai i'r dynion a enwyd frawychu ac arswydo; twymner hwynt i bwynt berwedol gan dân hunandybiaeth a brwdfrydedd ieuenctyd; a defnyddier y cymysgedd fel prif foddion cynnaliaeth efrydwyr anmhrofedig, gan gofio cadw allan yn ofalus o'u lluniaeth holl ddylanwadau yr amser a fu (y rhai yn gyffredin a gyfrifir fel gwagbethau dychymyg ac ofergoeledd). Yr effaith fydd Nihiliaeth yn ei wir ystyr, a'i ystyr waethaf. Ond fel y mae llawer o bethau tra chymeradwy yn ysgrifeniadau yr hen athronwyr, o flaen y rhai y mae y Nihiliaid yn barod i blygu, y mae llawer o bethau hefyd mewn Nihiliaeth a dderbynia yn gynt neu yn hwyrach ragor o gydnabyddiaeth nag sydd iddynt yn awr; pan y bydd y gormodedd afluniaidd i'r hyn y rhoddodd fôd wedi cael ei anghofio." Gwelir oddiwrth y dyfyniad hwn afresymoldeb daliadau y Nihiliaid. Ond nid yw yr afresymoldeb, rhaid cofio, yn rhoddi i ni un math o ddirnadaeth am y gefnogaeth a roddir iddynt. Y mae yn amlwg oddiwrth hanes y blynyddoedd diweddaf yn Rwssia fod gormesiaeth oesoedd wedi cynnyrchu yn meddyliau dosbarth a all fod yn dra lliosog sefyllfa yn yr hon y dadblygir athroniaeth anfoddlonrwydd, anobaith, a dinystr, yn yr hon yr edrychir ymlaen at ddifodi yr hyn sydd, ac y llwyr anghofir y dyfodol. Y mae rhyw ddrwgdeimlad o'r fath wedi ac yn bod bron ymhob gwlad Ewropeaidd nid yw y Socialists Germanaidd, y Communistiaid Ffrengig, y Camorra Italaidd, na'r Ffeniaid Gwyddelig, ond canghenau o gorff mawr anfoddloniaid y byd. Y mae y rhai hyn, er hyny, yn meddu ar amcanion a chynlluniau sydd yn eglur os nad yn rhesymol; ond am y Nihiliaid, neu o leiaf y dosbarth eithafol o honynt, yr unig syniad penodol o'u blaen yw, fod pob peth a'r sydd yn bod yn bydredig, ac mai yr unig ffordd i gael gwared o hono yw trwy lwybr hollol ddiddymiant.

Y mae awdwr galluog Russia Before and After the War yn dangos mewn modd dyddorol mai dau o'r pethau rhyfeddaf ynglŷn â hanes radicaliaeth ddiweddar yn Rwssia yw fod ei brif broffeswyr i'w cael ymhlith disgynyddion rhai o'r teuluoedd mwyaf urddasol, a bod ei ledaeniad yn dibynu i raddau mawr ar ymdrechion y rhyw fenywaidd. Os teflir golwg dros rai o'r enwau mwyaf adnabyddus mewn cysylltiad â'r symudiad, ceir ar unwaith weled gwirionedd y gosodiad cyntaf. Y mae perthynasau Michael Bakounin, prif ledaenydd os nad sefydlydd Athrawiaeth Diddymiant, yn cael eu hadnabod yn awr fel Adjutant Generals a Marshals of Noblesse. Y mae y Tywysog Alexander Urossoff, prif amddiffynydd Netchaijeff ac eraill o'r blaid, yn gefnder i Ganghellydd yr Ymherodraeth. Y mae y Tywysog Michael Krapotkine yn frawd i'r Llywodraethwr Krapotkine o Kharkoff, a lofruddiwyd gan y Nihiliaid. Yr oedd Ogareff, un o gyfeillion agosaf Herzen, yn hanu o deulu pendefigaidd, ac yn fab i seneddwr; tra yr oedd Rostovzoff, un o ohebwyr y Kolokol (Y Gloch), a'r hwn a garcharwyd o herwydd ei

ysgrifau, yn fab i'r Adjutant General Jacob Rostovzoff. Y mae y Tywysog Peter Dolgorouki, awdwr un o'r llyfrau mwyaf miniog a ysgrifenwyd erioed yn erbyn yr Ymherodraeth Rwssiaidd, yn hawlio disgyniad o Rurik ei sefydlydd; ac y mae cyndadau Ivan Golowin i'w cael yn rhestr y pendefigion bum' can mlynedd yn ol. Y mae Alexander Herzen, yr hwn o bawb, fe allai, sydd fwyaf cyfrifol, nid yn gymaint am Nihiliaeth, ond yn sicr am syniadau chwyldroadol yr oes, yn fab naturiol i bendefig uchel, ac yn berthynas agos i un o lysgenhadon Rwssia. Y mae y rhai hyn, un ac oll, wedi eu dwyn i fyny yn ol traddodiadau mwyaf cul yr hen drefn, gan rieni o'r dosbarth mwyaf ceidwadol, ac ymhlith cyfoedion sydd hyd y dydd heddyw yn dal i fyny egwyddorion caethwasiaeth tirol a gormesiad y bobl. Diffygion mawr Rwssiaid o bob dosbarth yw, anghymhwysder i waith cyson a threfnus, rhoddi ffordd i hunanewyllys a hunanfoddhâd, ac adgasrwydd at bob math o awdurdod allanol. Y mae y diffygion hyn yr un mor ganfyddadwy ymhlith y Radicaliaid mwyaf eithafol ag ydynt ymhlith pendefigion ac urddasolion yr hen drefn. Y mae hanes bywyd Herzen yn hynod o addysgiadol ar y pen hwn, ac yn rhoddi cyfrif am lawer o'r neillduolion sydd i'w gweled ymhlith eraill o'i gyfoedion a'i ddilynwyr. Yn ei fywgraffiad, y mae Herzen wedi tynu darluniau bywiog o'i berthynasau a'i gydnabod, y rhai sydd yn dra gwerthfawr er cyrhaedd syniad clir am fywyd ac arferion Rwssiaidd. Oddiwrth y gwaith hwn, yn gystal ag oddiwrth adroddiad arall o'r un amgylchiadau a ysgrifenwyd o gyfeiriad tra gwahanol gan Tatjana Passek, un o berthynasau Herzen, yr ydym yn cael fod y dosbarth o'r hwn y cyfododd y chwyldroadwyr hollol amddifad o unrhyw syniad am ddyledswydd a moesoldeb, a bod eu drygau wedi llygru eu holl ddisgynyddion yn gyffelyb,-hyd yn nod y rhai hyny o ddaliadau ac opiniynau hollol wahanol iddynt. Y mae amgylchiadau teuluaidd Herzen―y rhai gyda llaw a ddesgrifir yn ddigêl ganddo ef ei hun-yn profi hyn; ac er nas gellir dyweyd fod y fath hanes yn iachus, y mae yr amgylchiadau eu hunain mor arddangosiadol o sefyllfa y bendefigaeth yn Rwssia fel fe allai y maddeuir i ni am daflu brasolwg drostynt. Oddeutu can' mlynedd yn ol, preswyliai yn Moscow boyar o'r enw Alexei Jakovleff, gŵr cyfoethog a phendefigol, yn meddu dwy ferch a phedwar o feibion, hiliogaeth y rhai sydd heddyw, er yn llïosog, gan mwyaf yn ddienw. Y mae yr hynaf, Peter, yn rhedeg ymaith gyda merch ieuanc o athrawes, genedigol o Switzerland, yr hon a ddaeth yn fam i amryw ferched, un o ba rai a briododd M. Kutchsin, ac ymhen amser a roddodd enedigaeth i'r Tatjana Passek a grybwyllwyd yn barod. Y mae yr ail fab, Alexander, ar ol derbyn ei ran o'r da," yn ymsefydlu ar ei etifeddiaeth, yn camdrin ei weision yn ddychrynllyd, ac yn hel o'i gwmpas gynifer o ordderchwragedd ag a daflai harem y Sultan ei hun i'r cysgod. Mab i'r Alexander hwn ydoedd ý chemist a ddesgrifir gan Griboyedoff yn y chwareugerdd, "Tristwch sy'n d'od o deimlad" (Gôre ot umà), yr hwn a ddarlunir fel yn ymneillduo oddiwrth y byd, ac yn byw mewn unigedd meudwyol yn ei balas. Y mae Ivan, y trydydd mab, ar ol treulio rhai blynyddoedd mewn gwasanaeth milwraidd yn Germany, Ffrainc, ac Italy, yn dychwelyd i Moscow yn 1811, a chydag ef fel morwyn (coffee-server) ferch o'r enw Henriette Haag, yr hon a ymddug iddo ddau fab, un o ba rai ydoedd

yn

[ocr errors]
« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »