ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

Alexander Herzen. Yn y pedwerydd mab, Leo, yn unig y ceir ychydig nodweddion cymeradwy; bu ef fyw bywyd gweddol foesol a pharchus. Fel y gellid tybio, yr oedd trefniadau teuluaidd Ivan Jakovleff ymhell o'r hyn y dylasent fod; ac nid rhyfedd fod Herzen ieuanc, er ar achlysuron yn cyfeillachu â'r uchaf yn y tir, wedi ei ddwyn i fyny gyda'r syniadau mwyaf anghywir am rinwedd a rhyddid. Er i'w tados teilwng rhoddi iddo y fath enw cysegredig-ofalu am eu gosod ar y rhestr bendefigol, nid yw yn ymddangos iddo, ac yn wir nis gellid dysgwyl i'w fath wneyd hyny, dalu un sylw i'w haddysg foesol, yr hon o dan yr amgylchiadau oedd y waethaf oedd yn bosibl; yr oedd parch i foesoldeb a syniadau crefyddol allan o'r cwestiwn; ac erbyn ei fod yn dair ar ddeg oed yr oedd Herzen wedi colli y teimladau defosiynol y dywedir oedd yn ei feddiannu pan yn blentyn, ac yn ymfalchio gymaint yn y ffaith o'i fod yn rhyddfeddyliwr nes peri i'r hen offeiriad teuluaidd– oblegid cedwid offeiriad yn nghanol yr holl annuwioldeb ei gyflwyno i "dad y celwydd" fel enaid colledig. Yr oedd ei foesoldeb, wrth gwrs, yn dra diffygiol, oblegid ni chafodd erioed ei ddysgu am ddyledswydd, am awdurdod, am y ddeddf foesol, nac am ufudd-dod iddi, ar wahan i fympwy a hunan-ewyllysiant; ac eto fe ddywedir wrthym fod ganddo linellau prydferth yn ei gymeriad yn ychwanegol at alluoedd meddyliol cryfion; meddai gydymdeimlad tyner â beichiau ei gydddynion, adgasrwydd at bethau isel a brwnt, a chasineb at yr anghyfiawnder a ddangosid at y serfs ac eraill yn ngwasanaeth mawrion y tir. Ymroddodd i rodio llwybrau dysg yn hytrach na rhedeg ar ol gogoniant milwrol, a phan yr oedd ei gyfoedion yn ymfeddwi ar yr hyn a elwir yn bleserau y byd, ymbriododd â geneth dlawd rinweddol o gyfnither iddo, ac ymroddodd yn nghymdeithas rhai o gyffelyb ysbryd i ddadleu dros iawnder a rhyddid y bobl, yr hyn a'i dygodd yn foreu i'r anrhydedd o alltudiaeth! Ond, ysywaeth, dros y cyfan yr oedd ystaen y drygau a etifeddodd, a'r drygau a gynnyrchodd ei ddygiad i fyny ynddo. Yr oedd mor druenus o goegfalch fel nas gallai ddal y feirniadaeth fwyaf tyner; cwerylai â'r wraig a garai ac â'i gyfeillion mwyaf mynwesol, yr hyn drachefn a barai iddo ymollwng i afradlonedd a meddwdod. Yr oedd yn fyr o'r yni a'r penderfyniad angenrheidiol i gario gwaith mawr i derfyniad boddhaol; a boddlonai ef a'i gyfeillion ar hunan-edmygedd yn hytrach nag ymdrechu ennill parch ac edmygedd y rhai hyny a amcanent ryddhâu. Ar yr un pryd gadawodd Herzen, trwy ei ysgrifau a moddion eraill, effaith sydd eto yn parhâu i ymddadblygu yn yr oes a'i dilynodd. Ffafrai Herzen y syniad Panslavaidd, a dymunai weled Constantinople yn brifddinas a chanolbwynt ymherodraeth Slavonaidd. Nid yw y syniad hwn mor dderbyniol ymhlith y mwyafrif chwyldroadol; a chiliodd ei ddylanwad yntau i raddau mawr o flaen dylanwad Bakounin, yr hwn mewn gwirionedd yw sefydlydd Nihiliaeth fel yr edrychir arno yn awr.

Y mae Michael Bakounin, fel y sylwyd, yn disgyn o deulu urddasol o ddosbarth y boyars. Ganwyd ef yn Nhalaeth Twer yn 1814, a dygwyd ef i fyny gogyfer â gyrfa filwrol. Dangosodd yn foreu ysbryd anghydnaws âg ufudd-dod i reolau milwrol, yr hyn a rwystrodd ei gynnydd a'i ddyrchafiad fel swyddog, ac a barodd iddo ymneillduo o'r fyddin pan yn ddwy ar hugain oed. Ymsefydlodd yn Moscow, lle yr ymunodd â

chymdeithas o wŷr ieuainc, y rhai a ymroddent i astudio athroniaeth Hegel, "yr hon," meddai Herzen, un o flaenoriaid y gymdeithas, "sydd yn hanfodol gymdeithasol (socialistic) o ran egwyddor, ac yn gwneuthur dynion yn rhyddion mewn ffordd nas gall un ddysgeidiaeth arall, oblegid nad yw yn gadael cymaint ag un gareg yn y gyfundraeth Gristionogol heb ei dymchwelyd." Yn 1841, yn y gobaith, mae'n debyg, o ddod o hyd i ddeuparth o ysbryd yr athronydd Germanaidd, yr hwn, gyda llaw, oedd wedi marw er ys rhai blynyddau, y mae Bakounin yn myned i Berlin, lle y mae yn dyfod i gydnabyddiaeth â Tourguéneff y nofelydd. Yno y mae yn dychrynu ei gyfeillion cymedrol trwy yr ysgrifau eithafol y mae yn anfon i'r Jahrbücher, dan y ffugenw Jules Elizard. Yn un o'i erthyglau y mae yn cyhoeddi fod y Gristionogaeth a fu wedi ei lapio ynghyd, a'i gwneyd yn droedfainc i nefoedd yr amseroedd diweddaraf; fod diwedd i fod ar attaliad y ddynoliaeth i'r baradwys ddaearol; a bod yr ymdrech cyffredinol i ysgwyd ymaith yr hyn a fu yn arwydd fod cyfnod newydd ar ddechreu. "Ai ni ddarllenasoch," meddai wrth amddiffynwyr cyfryngiad, "y geiriau cyfriniol, Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdgarwch (Liberté, Egalité, et Fraternité) ar demĺ Rhyddid y Chwyldroad Ffrengig, ac oni wyddoch, ac onid ydych yn teimlo eu bod yn arwyddo hollol ddiddymiant cymdeithas a gwleidyddiaeth fel y maent yn bresennol? . . . Boed i ni roddi ein hymddiried yn Ysbryd Deall, yr hwn sydd yn dinystrio ac yn diddymu, am mai Ef yw ffynnonell ddihysbydd a byth-greol pob bywyd. Yr un, felly, yw İlawenydd dinystr a llawenydd creadigaeth." Fod y baldordd a gynnwysir yn y dyfyniad hwn yn cael lle yn un o brif gylchgronau Germany, ac yn cael ei ystyried fel pwynt uchaf doethineb athronyddol a gwleidyddol, ydyw un o'r ffeithiau rhyfedd yn hanes dadblygiad Nihiliaeth. Derbyniwyd ef, modd bynag, gyda mawr gymeradwyaeth gan ddynion ieuainc o deimladau poethion; edmygid y bombast fel gwirionedd argyhoeddiad, a'r nwyd am ddiddymiant fel gwrolder cymeriad ; ac nid rhyfedd i Bakounin ymfalchio a myned i osod deddfau i lywodraethu dadblygiad diwylliant gwleidyddol a chymdeithasol cyn iddo o'r bron ddeall fod y fath bethau yn bod. Ar ol talu ymweliad â Dresden, a dysgu, meddai ef, gymaint ag oedd gan Germany i'w dysgu iddo, yn 1844 y mae yn myned i Paris, lle y mae yn ymuno â Proudhon, a Louis Blanc, a chwyldroadwyr eraill oedd ar y pryd yn cydfradwriaethu i ddymchwelyd y Frenhiniaeth Gyfansoddiadol yn Ffrainc. Y mae Llywodraeth Rwssia yn ei ddrwgdybio, yn ei wylio, ac o'r diwedd yn 1847, am draddodi araeth chwyldroadol yn erbyn y Czar, y mae Nicholas yn cael gan Lywodraeth Ffrainc ei alltudio. Yn 1848 y mae y chwyldroad Ffrengig yn ail gyfodi ei obeithion; aeth yn ol i Paris, ond ni chafodd y croesaw a ddymunai gan ei hen gyfeillion. Am hyny aeth i Prague, lle y bu yn brysur wrth y gwaith o hau hadau gwrthryfel ymhlith ieuenctyd y lle; y mae yn gorfod dianc oddiyno i Dresden, lle y bu â'i holl egni yn ffafrio gwrthryfel 1849. Modd bynag, cymerwyd ef yn garcharor gan y milwyr Prwssiaidd yn agos i Chemnitz, ac ymhen amser trosglwyddwyd ef i drugaredd Nicholas, yr hwn a'i rhoddodd i gadw yn nghelloedd y Schlüsselburg islaw lefel yr afon Neva, lle y bu yn dihoeni hyd 1856, pryd y gollyngwyd ef o'r carchar ar esgyniad yr Ymherawdwr presennol i'r orsedd, ac yr anfonwyd ef i alltudiaeth

yn nwyreinbarth Siberia. Bu yno hyd 1859, pryd y cafodd genad i fyw yn nhiriogaeth yr Amoor, ac y cymerodd fantais ar y caniatâd i ddianc i Japán, ac oddiyno i'r Unol Daleithiau, o'r lle y cyrhaeddodd Lundain, lle yr ymunodd â'r alltudion gwleidyddol sydd ar gael trwy'r blynyddau yn nghymydogaeth Soho a Leicester Square. Yma y pryd hwnw yr oedd Ogareff a Herzen, yr hwn oedd yn golygu y Kolokol, cyhoeddiad a ddygid allan, os nad ydym yn camgymeryd, gyda phamphledau a gweithiau chwyldroadol eraill, o ryw wasg anadnabyddus tua'r Caledonian Road. Perthynai llawer o ddylanwad ir Kolokol ymysg rhai dosbarthiadau, ond parodd syniadau eithafol Bakounin i'w gyfeillion goreu gefnu arno; a thrwy ddadleu dros doriad pob cysylltiad a chrefydd, diwygiad, a threfn, aeth y Kolokol yn organ Nihiliaeth, yr hyn yr oedd yn bell o fod ar y dechreu. Symudodd Bakounin a Herzen i Switzerland, lle y bu yr olaf yn gystal â'r Kolokol farw, ond nid cyn i Bakounin dori pob cysylltiad âg ef. Yn 1867 y mae Bakounin yn aelod o'r Internationale ac o'r League of Universal Peace, dwy gymdeithas chwyldroadol o ddylanwad ëang-y gyntaf o ba rai sydd yn cyfrif ei haelodau wrth yr ugeiniau yn y wlad hon; ond mor eithafol oedd ei olygiadau fel y mae hyd yn nod y rhai hyn yn gorfod ei ddiaelodi. Rhydd y dyfyniad canlynol o un o'i weithiau reswm digonol am hyn, a dengys ymhellach yr hyn yw Nihiliaeth yn ol ei sefydlydd:

Frodyr (meddai), yr wyf fi yn d'od i gyhoeddi Efengyl newydd, yr hon sydd i dreiddio i bellderau y byd. Rhaid dinystrio yr hen fyd a chyfodi un newydd. Rhaid sathru allan yr Anwiredd a gwneyd ffordd i Wirionedd. Ein gwaith ni yw lladd yr Anwiredd, ac i wneuthur hyn rhaid dechreu gyda'r dechreuad. Yn awr, dechreuad pob celwydd sydd wedi sathru ar y ddynoliaeth yw y syniad am Dduw. Am gannoedd o flynyddoedd y mae brenhinoedd ac offeiriaid wedi llenwi calonau dynion â'r syniad fod Duw yn rheoli y byd y maent hefyd wedi dyfeisio syniad am fyd arall yn yr hwn y mae eu Duw yn cosbi â phoenedigaeth dragywyddol y rhai hyny sydd yn gwrthod ufuddhâu i'w deddfau hwynt yma ar y ddaear! Nid yw y Duw hwn namyn personoliaeth gormesiaeth a chreulondeb, wedi ei ddyfeisio, naill ai i ddychrynu neu i hud-ddenu naw rhan o'r ddynoliaeth i ufudd-dod i'r ddegfed ran. Pe buasai Duw yn bod, buasai yn defnyddio ei fellt i ddinystrio y gorseddfeinciau wrth risiau pa rai y mae y ddynoliaeth yn rhwym, -yn enwedig defnyddiasai hwynt i ddymchwelyd yr allorau lle y cuddir gwirionedd gan gymylau o arogldarth cel wyddog. Rhwygwch o'ch calonau y grêd yn ei fodolaeth, oblegid tra yr erys ynoch y gronyn lleiaf o'r fath ofergoeledd, nis gellwch byth ddirnad pa beth yw Rhyddid. Pan y cewch ymwared o'r syniad am y Duw offeiriad-anedig hwn, a phan eich argyhoeddir fod eich bodolaeth chwi a'r byd o'ch_amgylch i'w briodoli i gydgyfarfyddiad atomau, mewn cydrediad â deddfau attyniad a dysgyrchiant, yna, ac yna yn unig, y byddwch wedi cymeryd y cam cyntaf tuag at Ryddid, ac y deuwch i brofi llai o anhawsder i wrthod yr ail Anwiredd y mae gormesiaeth wedi ei ddyfeisio, sef Hawl neu Awdurdod. Gallu a ddyfeisiodd hwn i sicrhâu a chryfhâu ei lywodraeth; hawl nad yw gallu yn talu un sylw iddo, ond sydd yn wrthglawdd rhag pob ymosodiad o eiddo y ddynoliaeth arno. Gallu sydd yn ffurfio seiliau cymdeithas; gallu sydd yn gwneyd a dadwneyd deddfau, a dylai y gallu hwn fod yn llaw y mwyafrif. Unwaith yr argyhoeddir chwi o'ch gallu eich hun, gellir yn rhwydd ddinystrio y syniad o awdurdod; ac unwaith yr ymryddhewch oddiwrth ofn Duw a pharch plentynaidd i awdurdod, ymollynga pob cadwen arall sydd yn eich rhwymo, a'r rhai a elwir gwyddoniaeth, gwareiddiad, priodas, cyfiawnder, a moesoldeb. Boed eich hunanddedwyddwch eich unig ddeddf: ond mewn trefn i ddwyn y ddeddf hon i gael ei chydnabod, ac i ddwyn oddiamgylch y berthynas briodol a ddylai fod rhwng mwyafrif a lleiafrif y ddynoliaeth, rhaid i chwi ddinystrio pob peth sydd yn bod yn y ffurf o gyfundraethau gwladwriaethol a chymdeithasol. Ein gorchwyl cyntaf raid fod dinystr a diddymiad pobpeth ag sydd yn awr yn bodoli; a rhaid i chwi gymhwyso

eich hunain i ddinystrio y da gyda'r drwg, oblegid tra yr erys y gronyn lleiaf o'r hen fyd bydd yn anmhosibl creu y newydd. Yn ol chwedlau yr offeiriaid, boddwyd y ddynoliaeth unwaith, ond cadwyd Noah yn fyw fel y byddai i hadau gormes a thrais gael eu trosglwyddo i'r byd newydd. Pan y dechreuwch chwi eich gwaith o ddinystrio, a phan gyfyd diluw dynoliaeth sathredig i gladdu temlau a phalasau gormes ac ofergoeledd, gofelwch chwi y pryd hyny na bo un arch i achub gronyn o'r hen fyd a neillduir genym i ddinystr.

[ocr errors]

Yr wyf yn casâu Cydfeddiannaeth—Communism, (meddai mewn man arall,) am ei fod yn wadiad ar Ryddid; yr wyf yn ei wrthwynebu am ei fod yn crynhoi ac yn sugno iddo ei hun holl alluoedd cymdeithas; ac am ei fod yn gosod eiddo a chyfalaf yn nwylaw y Commune, neu y Wladwriaeth. Wrth hawlio diddymiad y Commune a'r Wladwriaeth, yr wyf hefyd yn dymuno dilead deddf olyniaeth ac etifeddiaeth a ddygwyd i fôd gan y Wladwriaeth. Rhodder i bob plant o'u genedigaeth yr un moddion cynnaliaeth ac addysgiaeth yna rhodder i bobl yr un safle gymdeithasol a'r un moddion i ddiwallu eu hangenion trwy eu llafur eu hun, a chewch weled yr anghyfartalwch yn cilio, oblegid nid yw y cyfryw anghyfartalwch ond effaith y gwahaniaeth a wneir yn nhelerau eu dadblygiad. Gellwch ragori ar natur drwy ddinystrio y gyfundrefn gymdeithasol, oblegid pan lwyddwch i wneyd pawb a phobpeth yn gyfartal, pan y gwastadheir holl ammodau dadblygiad a llafur, yna fe ddiflana llawer o droseddau, o drueni ac o ddrygau. Y mae yn anmhosibl dinystrio yr ofergoeliaeth o grefydd trwy resymau nac addysg. Y mae crefydd nid yn wyriad meddyliol, ond yn wrthdystiad o eiddo'r natur a'r galon ddynol yn erbyn trueni a chulni yr hyn sydd o'u cwmpas. Gan nad yw dyn yn cael dim yn y byd ond anghyfiawnder, dylni, a thrueni, y mae yn gadael i'w ddychymyg ffurfio byd newydd; ond pan dderbynia'r ddaear yr hyn sydd ddyledus iddi, sef hapusrwydd a brawdoliaeth, yna colla crefydd reswm ei bodolaeth (raison d'être). Nid oes arnom eisieu ond chwyldroad cymdeithasol i beri i bob crefydd ddiflanu. Nid yw cydwybod yn ddim ond mater o addysg. Y mae Cristion Ewropeaidd, ar ol lladd dyn o fwriad, yn teimlo rhyw gymaint o euogrwydd; ond y mae yr Indiad, yr hwn sydd yn ddyn o gig a gwaed fel yntau, yn llawenychu yn lladdiad ei elynion. Nid yw ei gydwybod yn teimlo o gwbl oddiwrth y weithred, oblegid y mae wedi cael ei ddysgu o'i febyd på fwyaf o scalps fydd ganddo, goreu oll fydd ei dderbyniad i'r "happy hunting grounds.'

"

Dyma ddaliadau Bakounin, y rhai, trwy areithiau a phamphledau, &c., a ledaenwyd trwy yr oll o Rwssia. Yn 1869 yr ydym yn ei gael yn anfon Netchaijeff i St. Petersburg fel cenad neillduol i ledaenu ei egwyddorion; ond parodd gweithredoedd anfad y gŵr hwnw iddo gael ei anfon i ddiweddu ei oes yn mwnau Siberia. Ar ei berson cafwyd Catecism Nihiliaeth, o'r hwn y dyfynwn a ganlyn :—

Y mae yn rhaid i ni ddod i gysylltiad agos â'r bobl, yn enwedig y rhai hyny sydd, er sefydliad y Gallu Rwssiaidd, wedi parhâu i wrthdystio trwy weithredoedd, nid geiriau, yn erbyn pobpeth cysylltiol uniongyrchol neu anuniongyrchol â'r gallu hwnw yn erbyn ei bendefigion, ei swyddogion, ei offeiriaid, a'i fasnachwyr. Y mae ein holl gyfundraeth yn seiliedig ar wneuthur pob elfen wrthwynebol i'r Wladwriaeth yn offeryn i'w dinystrio. Nid oes ond dau gyfnod yn hanes Rwssia yn y rhai y gellir dyweyd fod ei phobl yn fyw, sef cyfnod Stérko Rázin a Pugatcheff. Ein gorchwyl ni yw dinystr llwyr a chyffredinol yr hyn sydd yn bod; gwaith cenedlaethau i ddyfod yw yr hyn a gyfyd ar ol hyny. Rhaid gofalu na byddo ein chwyldroad ni yn gyffelyb i rai Gorllewin Ewrop, y rhai a foddlona ar gyfnewidiadau gwleidyddol heb gyffwrdd â pherchenogaeth, a'r pethau a elwir yn wareiddiad. Nis gellir gwella sefyllfa y bobl ond trwy chwyldroad a ddadwreiddia bob gallu yn y wladwriaeth, ac a ddinystria holl draddodiadau gwleidyddol a chymdeithasol y wlad. Dyn ydyw y chwyldroadydd Rwssiaidd o dan lŵ; nid oes ganddo deimladau na buddiannau personol, na hyd yn nod enw. Gan gadw mewn golwg ei unig amcan-dinystr fe all, ac y mae yn rhaid iddo, fyw mewn cymdeithas; rhaid iddo weithio ei ffordd i bob cangen o honi, i'r swyddfeydd gwladol a milwrol, i'r byd llenyddol, i blith yr heddgeidwaid dirgelaidd, ac hyd yn nod i'r Palas Gauafol ei hun. Nid yw yn adnabod na pherthynas, na chyfeillgarwch, na chariad, na mawrfrydigrwydd, nac hyd yn nod anrhydedd; y mae ei holl deimladau i gael eu cadw i lawr gan y nwyd chwyldroadol.

[ocr errors]

Yn 1870 bu Bakounin yn helpu y gwrthryfelwyr Ffrengig yn Lyons, ond anfonwyd ef yn ei ol i Geneva, lle y bu farw oddeutu dwy flynedd yn ol. Dilynwyd ef fel arweinydd y Nihiliaid gan un M. Dragomonow, yr hwn sydd yn cael nodded, fel ei ragflaenydd, ymysg mynyddoedd Switzerland. Y mae i Bakounin liaws o ddysgyblion, fel y gallesid dysgwyl; ac nid yn unig y maent yn dilyn ei lwybrau, ond fel y dywed Shylock, They have bettered his instructions. Fel hyn y dywed un o honynt: "Nis gall unrhyw beth yn sefyllfa bresennol cymdeithas fod o fawr werth, am y rheswm syml mai ein henafiaid a'i sefydlodd. Os ydym ni yn awr yn gorfod addef ein hanalluogrwydd i dynu y llinell wahaniaethol rhwng drwg a da, pa fodd y gallai ein henafiaid llai goleuedig na nyni ei thynu? Yma, gan hyny, â'r fwyall, a dinystrier pobpeth! Bydd i'r rhai a'n dilyna wybod pa fodd i ail gyfodi adeilad lawn mor gadarn a'r un sydd yn bresennol yn ysgwyd uwch ein pen. Y mae un arall yn condemnio priodas fel sefydliad gwleidyddol a chrefyddol ynfyd a diangenrhaid, sydd yn uchel alw am ddilead, ac yn amddiffyn llosgwyr a llofruddion fel gwir wladgarwyr. "Yn fuan ceir gweled," meddai, "awduron y pethau hyn yn mwynhau yr ystyriaeth uchaf yn ein plith. Y mae yr hen fyd wedi cael ei dro. Ar ei adfeilion llongyfarcha y tlawd a'r gorthrymedig eu gilydd, a gwena gwir ddysgyblion Crist that grand Nihilist-pan gofiant chwedl y dyn tlawd yn mynwes Abraham yn gwrthod dyferyn o ddwfr i'r gŵr goludog yn uffern, ac yn dyweyd, Ti a gefaist dy dro; yn awr myfi sydd uchaf. . . . . O ymdrech i ymdrech, ennillir yr oruchafiaeth nes y cyrhaedda y ddynoliaeth berffeithrwydd, a d'od yr hyn a elwir yn Dduw. Ymarfogwch gan hyny, fy mrodyr, a dilynwch fi i goncwest y Duwdod." "Unig amcan ein cyfundraeth a'n bradwriaeth,” medd un arall, “yw adgrynhoad holl alluoedd y byd i un gallu hollddinystriol ac anorchfygol." Yn y Narodnaya Volya (Ewyllys y Bobl), un o newyddiaduron y blaid, y mae eu gofynion yn cael eu gosod i lawr yn eglurach nag yn yr ymfflamychiadau a nodwyd. Y maent yn gofyn am gydnabyddiad yr egwyddor mai eiddo'r bobl yw y tir y maent yn byw arno,-fel y gwna'r arweinwyr Gwyddelig y dyddiau hyn; daliant y dylid trosglwyddo pob math o weithfeydd i'r dosbarth sydd yn gwneyd y gwaith; a hawliant annibyniaeth y Communes gwladol fel gallu deddfwriaethol. Dylid deall fod pum' rhan o chwech o'r tir yn Rwssia yn cael ei amaethu gan Communes, y rhai a ffurfiant fath o gymdeithasau cydweithredol (co-operative societies) ymhlith trinwyr y tir. Y mae y Com mune yn cynnwys fe allai gant o aelodau, ac yn talu iawn fel cyfangorff i berchenog y tir (h.y., pan na fyddo'r tir yn eiddo'r Commune, fel y mae weithiau yn dygwydd bod), yn gystal a thalu trethi i'r Llywodr aeth fel cyfangorff yn ol cyfartaledd y gwrywiaid a berthyn iddo. O fewn y terfynau hyn y mae holl helyntion y lle yn cael eu rheoli gan bwyllgor o'r penau teuluoedd a berthynant i'r Commune; nid yw y perchenog na'r wladwriaeth yn ymyraeth â hwynt ymhellach na chasglu y dues. Y pwyllgor sydd yn dosbarthu y tir ymysg yr aelodau; efe sydd yn penderfynu modd ac amser ei driniaeth; ac efe hefyd sydd yn cosbi pob trosedd yn erbyn y bye-laws. Un o effeithiau y Commune ydyw ei fod yn cadw y peasant ynglŷn â'r tir bron yn gymaint a phan oedd yn serf, fel nad oes yn Rwssia ddim tebyg i ymgasgliad y bobl

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »