ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

sydd i'w gael yn Llundain, Paris, a Berlin, ac felly y mae yn fwy anhawdd eu dwyn i gyffyrddiad â syniadau chwyldroadol. Fel y sylwyd, y mae Bakounin yn siarad yn gryf yn erbyn cyffredinolrwydd meddiant; ond nid yw hyn yn lluddias i'r Nihiliaid gymeryd mantais ar y Commune i ledaenu egwyddorion chwyldroawl. Y mae eu cynghor i'r Communes yr un yn gymhwys â'r un roddir i'r Gwyddelod gan Mr, Parnell, sef i lynu yn y tir a pheidio talu ardreth, am y rheswm digonol mai y bobl bia'r tir. Y maent yn hawlio rhaniad y tir rhwng nifer o Communes annibynol, nid yn gymaint am eu bod yn pleidio cydfeddiannaeth, ond am y byddai cynhyrfiad yn y cyfeiriad hwn o du y peasants yn ffafriol i'w hegwyddorion dinystriol hwy. Er fod y peasant yn nyfnder anwybodaeth, y mae ganddo syniad clir am ei fuddiannau ei hun, a dealla yn rhwydd unrhyw appeliad a seilir ar anghyfiawnder treth ac ardreth. Y mae yr anwybodaeth, er hyny, yn gwneyd y dosbarth hwn yn un anhawdd ei gyrhaedd; am hyny y mae arweinwyr y blaid yn sicrhâu lledaenwyr ei hegwyddorion ymhlith dosbarth uwchyn benaf ymhlith bechgyn ieuaine yr athrofaau, a merched ieuainc sydd yn awyddu am rywbeth a allont alw yn mission. Pa mor lwyddiannus y maent wedi bod gyda'r dosbarth hwn a ddangoswyd ar dreial Netchaijeff, cenad Bakounin, am lofruddiaeth Ivanoff. Er achub ei gorffyn ysgeler ei hun, bradychodd Netchaijeff ei gyfeillion, ac yn Mai, 1875, tynwyd rhwyd y Third Section trwy bob rhan o'r wlad; cymerwyd ugeiniau o chwyldroadwyr i'r ddalfa, yn benaf meibion a merched îsswyddogion ac offeiriaid, rhai yn perthyn i'r bendefigaeth, ac ambell un o'r dosbarth gweithiol. Cafwyd oddeutu cant o honynt yn euog, ac anfonwyd hwy i Siberia; ond gwnaeth y treial niwed mawr i'r Llywodraeth, oblegid darfu i'r hyawdledd gyda'r hwn yr amddiffynai dynion fel Nushkin a Rabinovitch eu daliadau ennyn cydymdeimlad y werin o'u plaid, a'u cyffroi yn erbyn eu cyhuddwyr. Ymhen ychydig amser ar ol hyn cynhyrfwyd yr holl wlad drwyddi gan dreial Vera Sassulitsch. Ymddengys i Vera gael ei charcharu i ddechreu o herwydd ei bod yn adnabod chwaer Netchaijeff. Cadwyd hi yn y carchar am ddwy flynedd, ac alltudiwyd hi i dalaeth bellenig; ond daeth yn ol i St. Petersburg, ac yno, wedi ei chynhyrfu gan y gamdriniaeth a roddwyd i Nihiliad o'r enw Bogoljuboff, talodd ymweliad â'r Cadfridog Trepoff, penaeth y Third Section, neu yr heddlu dirgelaidd, a saethodd ef. Fel y mae yn wybyddus i ddarllenwyr newyddiaduron, ar ol treial gollyngwyd hi yn rhydd; a dangosai y llawenydd gyda'r hwn y derbyniwyd ei rhyddhâd nad oedd addysg Bakounin wedi bod yn ddieffaith, er iddo ef ei hun roddi i fyny yr ysbryd oddeutu'r adeg hon yn Switzerland. Dilynwyd esiampl Vera Sassulitsch gan eraill. Saethwyd Menzentseff, dilynydd Trepoff, yn un o ystrydoedd St. Petersburg, a diangodd y llofrudd. Gwnaed ymgais feiddgar i lofruddio Kotlarevski yn un o ystrydoedd cyhoeddus Kieff; trywanwyd Heyking, swyddog y gendarmerie, yn yr un dref, a lladdwyd gweithiwr a geisiodd ddal y llofrudd. Archollwyd Krapotkine, Llywodraethwr Kharkoff, pan yn gadael dawnsfa; llofruddiwyd y Milwriad Knoop yn Odessa, a thrywanwyd Pietrovski, penaeth yr heddgeidwaid yn Archangel. Gwnaed ymgais i saethu Drenteln, olynydd Menzentseff, a Loris Melikoff, pen y Commissiwn Milwrol; ac amcanwyd at fywyd y Czar ei hun amryw weith

iau, hyd yn nod o fewn ei balas ei hun. Pan fyddai y fwled neu y ddagr yn methu cyrhaedd yr amcan, treïid tân, a llosgwyd rhanau mawrion o'r prif ddinasoedd; mewn gair, gweithredwyd i fyny mor agos ag oedd yn bosibl at y drefn o ddinystr cyffredinol a bregethwyd gan Bakounin. Y mae ei ddysgyblion yn hollol argyhoeddiadol o fanteision y drefn. "Yn bresennol," meddai un o honynt, "tra y parheir i uno dagr y llofrudd â sicrwydd a diogelwch, erys ein bradwriaeth yn allu yn y wlad; gallu ofnadwy i'n gelynion, y rhai ni wyddant pa le na pha bryd y tarewir hwynt, y rhai ni allant ddyweyd y man na'r awr y derbyniant eu gwobr." "Y mae yr amser wedi d'od," medd un arall, "pan y rhaid cyfrif bradlofruddiaeth fel un o'r galluoedd gweithredol i ymwneyd â gwleidyddiaeth y dydd.”

Yn wyneb yr erchyllderau a nodwyd, dychrynodd y Czar a'i Lywodraeth gymaint fel y rhoddwyd gallu pendant ar ryddid a bywyd y deiliaid yn llaw y Cadfridog Melikoff a'r Comissiwn Milwrol. Trwy y weithred hon rhoddodd y Llywodraeth Rwssiaidd ei hun a'i deiliaid islaw gwareiddiad cyffredin. Faint bynag o angenrheidrwydd oedd am y fath fesur eithafol,-a'i fod yn angenrheidiol i ryw raddau a brofir gan y ffeithiau a nodwyd uchod,-yr oedd gollyngiad yr awdurdod i ddwylaw y fath Gomissiwn yn arddangosiad o wendid a iselhaodd Rwssia ymysg gwledydd. Ar yr un pryd, gellir dyweyd i'r Count Loris Melikoff, yn wyneb dirfawr anhawsderau, gyflawni ei ddyledswyddau yn ffyddlawn ac yn llwyddiannus. Y mae wedi dwyn mesur o heddwch yn ol i'r wlad, ac wedi estyn iddi yr hunanbarch a roddasai o'r neilldu. Yn Awst diweddaf gallodd y Czar gyhoeddi Ukase yn symud ymaith y feistrolaeth filwraidd, ac yn adferu Rwssia i'r safle oedd o'r blaen yn ei feddu ymhlith cenedloedd gwareiddiedig. Y mae telerau yr Ukase yn addaw un gwelliant pwysig, sef gwneuthur holl weithredoedd y Third Section, yr heddlu Ymherodrol, yn agored i arolygiaeth Gweinyddiaeth Gartrefol, ar yr hon y mae Melikoff i fod yn ben. O'r blaen nid oedd y Third Section yn gyfrifol ond i'r Ymherawdwr yn unig, yr hwn mewn gwirionedd oedd bron heb lais yn y mater. Effaith hyn ydoedd ei gwneyd yn ormesiaeth o'r fath fwyaf annyoddefol, tra ar yr un pryd yr oedd ei swyddogion yn hollol analluog i gyfarfod â'r ymosodiadau ar bersonau, &c., a barodd yr holl gythrwfl diweddar.

Yn bresennol y mae yn ymddangos fel pe b'ai Nihiliaeth wedi ei dawelu, a'i allu wedi ei ysigo; ond rhaid bod yn ofalus, yn wyneb helyntion Rwssia a'r hyn yw Nihiliaeth, rhag coleddu syniadau gorobeithiol. Y mae lle i ofni mai arwyddion yr afiechyd yn unig sydd wedi eu symud, ac nid yr afiechyd ei hun; ac nid oes a ŵyr pa mor fuan y gall eto dori allan. Fe gofir yn ddiammeu y syndod gyda'r hwn y derbyniwyd y newydd am y chwyldroad Communistaidd yn Paris yn 1870. Deffrodd trigolion Paris un boreu i gael Llywodraeth newydd wedi ymsefydlu yn yr Hôtel de Ville, wedi ei gwneyd i fyny o bersonau oedd ar y pryd yn hollol anadnabyddus i'r mwyafrif. Cafodd dosbarth na wyddai'r byd ddim am dano, yr hwn er fod ei amcanion yn chwyldroadol, oedd heb gymaint a chynllun o chwyldroad, ei hun mewn meddiant o'r brifddinas ardderchocaf yn Ewrop, gyda byddin, amddiffynfeydd, a chyflegrau, &c., y fath na fu gan un fradwriaeth er dechreuad y byd. Am ddau fis cariwyd ymlaen wrth

ryfel nad oes son am ei debyg mewn hanesiaeth. Am ragor na dau fis buont yn llywodraethu poblogaeth o ddwy filiwn gyda gormesiaeth fwy trom nag a deimlodd Paris erioed, nes, ar ol alltudio neu wneuthur yn elynion, trwy weithredoedd eithafol ac ysgeler, filoedd o ddinaswyr oedd wedi eu cydnabod ar y dechreu, y syrthiasant i fand o ellyllon penboeth-gwaddod duaf y berw chwyldroadol-y rhai a gadarnhasant eu nerth o byllau sydd yn melldithio dinasoedd mawrion; a roddasant arfau yn nwylaw drwgweithredwyr a charcharorion; a wnaethant weithredoedd o ysgelerder mor ofnadwy nes peri i'r byd grynu gan arswyd; ac a ddangosasant nad yr ewyllys ond y gallu oedd yn eisieu ganddynt er dymchwelyd y byd gwareiddiedig yn eu dinystr eu hunain. Gall yr un peth ddygwydd yn Rwssia. Y mae pob gwlad yn magu cythreuliaid o'r fath, y rhai sydd yn wastad yn barod i osod cymdeithas yn wenfflam. Y mae yr elfenau i'w cael yn Lloegr ac America, ond y mae llwyddiant bydol i raddau yn eu cadw i lawr; y mae Ffrainc yn llawn o honynt; ac yn Germany yn ddiweddar dychrynwyd hyd yn nod Bismarck ei hun gan arwyddion o'u presennoldeb. Y fantais fawr sydd gan y dosbarth hwn yn Rwssia, ydyw fod cydymdeimlad mwyafrif y bobl, nid, mae'n wir, gyda hwynt, ond nid mor gryf yn eu herbyn ac o blaid trefn a heddwch ag y dylai fod. Pe byddai y bobl eu hunain yn elyniaethol i Nihiliaeth, nid oes ammheuaeth na ddiwreiddid ef yn fuan. Y mae y fynyd hon nifer mawr o ddeiliaid teyrngarol y Czar a arswydent rhag cydnabod Nihiliaeth yn bersonol; eto yn ei oddef yn y gobaith y bydd i'w anfadwaith orfodi y Llywodraeth i roddi iddynt gynnrychiolaeth gyfansoddiadol. Er y gwelliantau diweddar y cyfeiriwyd atynt, y mae yn anmhosibl dysgwyl i'r anfoddlonrwydd gael ei symud yn llwyr, ac i'r wlad roddi cam gwirioneddol ymlaen, heb newid cwrs ei deddfwriaeth yn nghyfeiriad rhyddid personol a gwleidyddol.

E. VINCENT EVANS.

Y DDIRNADAETH AM DDUW.

I.

DICHON y dylid gwahaniaethu rhwng y drychfeddwl am Dduw a'r ddirnadaeth am dano. Yn yr ystyr a roddwn ni i'r gair, mae y drychfeddwl yn bod, mewn un ffurf, o flaen y ddirnadaeth neu y wybodaeth. Er nad yw ar y dechreu wedi ymagor yn syniad o'r hwn y mae y meddwl yn ymwybodol, eto, o ran amser yn gystal ag o ran trefn, y

mae yn rhagflaenu y ddirnadaeth. Gorwedda yn guddiedig yn nghyfansoddiad y meddwl fel hedyn dechreuol y wybodaeth-fel tueddiad at y ddirnadaeth-fel cymhwysder i ffurfio y grediniaeth. Y drychfeddwl sydd yn gwneuthur y ddirnadaeth yn bosibl ac angenrheidiol; ac oni buasai am ei bresennoldeb yn y meddwl, buasai yn anmhosibl iddo ymddyrchafu at y syniad am Dduw oddiwrth yr amlygiadau o hono yn y byd naturiol. Mae ei elfenau yn treiddio holl gasgliadau Duwinyddiaeth Naturiol. Trwyddo ef y cyrhaeddir y syniad am yr Anfeidrol, yn hytrach nag oddiwrth y byd allanol, er nad heb gymundeb â'r byd allanol; oblegid nis gellir cael allan o wrthddrych y peth nad yw o'i fewn nis gall naturiaeth derfynol gyflwyno y syniad am yr annherfynol. Y drychfeddwl gwreiddiol am Dduw yw y rheswm am ddyfnder y syniad am dano mewn dynion sydd yn treulio eu hoes mewn anghof o hono, ac am yr anhawsder i ymryddhâu yn hollol oddiwrtho er pob ymdrech: hwn hefyd yw yr esboniad ar gyffredinolrwydd y grediniaeth mewn rhyw Fod Goruchaf, dan yr holl wahaniaeth yn nirnadaethau dynion am natur y Bôd hwnw. Mewn un ystyr, mae yr hyn y dewiswn ei alw, y drychfeddwl am Dduw, yn unffurf a chyffredinol, a'r bôd o hono, yn annibynol ar amgylchiadau hanes dynolryw. Dangoser i ni ddyn o unrhyw wlad ac o ba genedl bynag, beth bynag yw graddau ei wareiddiad, y mae y ffaith ei fod yn ddyn yn ddigon o sicrhâd o bresennoldeb hedyn y syniad am Dduw yn nyfnderau ei natur. Mae holl blant dynion ar yr un tir a'u gilydd o ran bod yn berchen ar ryw egwyddorion gwreiddiol sydd yn cyfeirio eu golygon at y Duw a'u gwnaeth.

Ond y mae y ddirnadaeth am Dduw, neu gynnwys y grediniaeth am dano, yn amrywio yn ddirfawr mewn personau gwahanol. Mewn un y mae yn bur, dyrchafedig, a chynnwysfawr, ac yn urddasu yr hwn a'i medd. Mewn arall y mae mor gyfyng a salw nes darostwng a llygru yr addolydd: nid yw ei natur yn derbyn y graddau lleiaf o eangiad oddiwrth ei syniad am ei dduw. A phan yn gyffelyb o ran ei hansawdd-o ran ei phurdeb a'i chynnwys-gall fod mewn un meddwl yn ffynonnell y dylanwad mwyaf grymus, tra yn y llall, er yr un mor gywir, y mae mor egwan yn ei heffaith fel nad yw y Gwir a'r Bywiol Dduw iddo ef yn fwy o allu nag yw yr eilun i'r pagan: mae y Duw ag y medd ryw fath o syniad cywir am dano, iddo ef megys pe na byddai. Cynnyrch araf lliaws o ddylanwadau yw y grediniaeth am Dduw ymhob dyn; ac y mae yn ymddibynu o ran ei hansawdd, megys ei bod yn gywir neu yn anghywir, yn gyflawn neu yn ddiffygiol, yn effeithiol neu yn egwan, ar natur y dylanwadau a'i cynnyrchodd. Cyfyd dosbarth o'r dylanwadau hyn oddifewn, allan o gymeriad a moes y dyn ei hun, tra y deillia eraill oddiallan, oddiar yr addysg a dderbyniodd, y traddodiadau a'r amgylchiadau llïosog fuont yn ffurfio ei ddulliau o feddwl. Nid oes un amgylchiad, pa mor ddibwys bynag, nad yw yn gadael rhywfaint o argraff ar y meddwl; ac os yw holl feddwl dyn ar waith yn ffurfiad ei ddirnadaeth am Dduw, yna nid oes un amgylchiad yn hanes dyn nad yw yn cyflawni ei ran, yn raddol a dystaw, yn ffurfiad y ddirnadaeth hono. Pell fyddom oddiwrth y syniad mai creadur amgylchiadau yw dyn; ac eto byddai yn rhaid i ni gau ein llygaid ar hanesiaeth ac anghredu ein profiad ein hunain, cyn y

D

gallem wadu nad oes gan amgylchiadau effaith arno. Ac nid oes gwell. prawf o hyn nag yw hanes y grediniaeth am Dduw ymysg y gwahanol genedloedd. Cawn un engraifft yn y ffaith fod rhyw gydrywiaeth rhwng ffurfiau neillduol o'r grediniaeth â hinsoddau neillduol. Tuedda ambell hinsawdd at fywyd tawel a myfyriol yn y bobl, tra y mae hinsawdd arall yn gwneuthur arferion bywiog a gweithgar yn angenrheidiol i gynnaliad a chysur bywyd; o herwydd hyny y mae y cyntaf yn fwy manteisiol i gyfodiad a chynnydd Pantheistiaeth, tra y mae yr olaf, trwy ddwyn allan egnïon dyn, a pheri iddo ymdeimlo yn fwy â nerth yr ewyllys, yn fantais i osod mwy o arbenigrwydd ar bersonoliaeth yn ei dduw. I'r gwrthwyneb, mae y llall, yn rhinwedd dylanwadau ei amgylchoedd, yn colli personoliaeth mewn rhyw annherfynoldeb anmhenodol. Y bywyd grymusaf, mwyaf gweithgar, ydyw y mwyaf manteisiol i roddi lle mawr i'r ewyllys fel prif elfen. Tawelwch cyfriniol, breuddwydiog, ydyw y maes i dyfu syniadau Pantheistaidd. Mae prif arwyr y byd-dynion galluog mewn gweithred-fel rheol yn Theistiaid. Myfyrwyr cyfriniol sydd fwyaf agored i swynion Pantheistiaeth. Dengys hyn fod dirnadaeth dynion am Dduw yn ymddibynu, i raddau helaeth, ar natur eu hamgylchiadau; a dyna yw y ddirnadaeth yn y cyfan o honi-cynnyrch yr holl ddylanwadau sydd yn gweithio ar y meddwl; y dylanwadau allanol mewn undeb â naws foesol y meddwl ei hun; a'r drychfeddwl gwreiddiol yn gorwedd islaw'r cyfan, ac yn rhoddi ystyr a ffurf i'r cyfan; oblegid y mae y drychfeddwl hwn yn cyfranu i'r ddirnadaeth rai elfenau nad allasai y meddwl eu cael o un ffynnonell arall.

Mae y drychfeddwl a'r ddirnadaeth am Dduw ymysg prif gwestiynau athroniaeth. Profa hanes dynolryw nad oes un grediniaeth fwy cyffredinol na'r grediniaeth am Dduw; ac y mae hyn yn cael ei addef hyd yn nod gan annuwiaid: addefir ei chyffredinolrwydd fel ffaith gan y rhai a wadant y casgliad naturiol oddiwrthi, ac a geisiant brofi fod eithriadau i'r cyffredinolrwydd. Yn awr, naturiol ydyw gofyn, O ba le y daeth y fath grediniaeth? Pa un yw yr esboniad mwyaf rhesymol ar y ffaith o'i pharhâd trwy yr holl oesoedd, a'r ffaith o'i lledaeniad ymysg yr holl genedloedd? A oes sail i dybied mai dadguddiad goruwchnaturiol yw yr unig ffynnonell? A oes digon o fywyd mewn traddodiad i sicrhâu parhâd iddo ei hun am ugeiniau o ganrifoedd? A allai ymgynghreiriad rhwng niferi o ddynion er cyrhaeddyd rhyw amcan dewisol yn eu golwg eu hunain, gadw y syniad yn fyw? A yw yr amlygiadau o Dduw mewn natur yn ddigon o esboniad ar yr holl ffaith? Ynte, a yw dyfnder yn gystal ag eangder y grediniaeth yn cyfeirio at ryw reddfau neu egwyddorion gwreiddiol yn natur dyn, sydd yn ei chynnal a'i meithrin, mewn undeb â'r amlygiadau oddiallan o Dduw Dengys gofyniadau o'r fath fod y cwestiwn yn perthyn i dduwinyddiaeth ac i hanesyddiaeth, ond yn fwyaf neillduol i athroniaeth y meddwl; ac y mae yr atebion a roddir iddo yn ymddibynu ar natur yr athroniaeth fyddo yn arwain yr efrydwyr.

Mae yn hysbys i'n darllenwyr fod dwy brif gyfundrefn athronyddol yn rhedeg yn gyfochrog trwy yr oesoedd. Nid allwn ar hyn o bryd fanylu ar y gwahaniaeth rhyngddynt: digon fe allai ydyw sylwi fod un o nodwedd fwy materol; yn ymwneyd yn unig âg ymddangosiadau ;

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »