ภาพหน้าหนังสือ
PDF
ePub

yn aelod o'r pwyllgor. Y flwyddyn nesaf etholwyd ef yn Ysgrifenydd, ac wedi hyny yn Llywydd y Gymdeithas. Yn ystod yr amser y bu yn Rhydychain, cawn hefyd fod Arglwydd Selborne, Arglwydd Sherbrooke, ac Archesgob Caergaint, wedi bod yn llywyddion.

Y mae ei fywyd cyhoeddus wedi profi gwirionedd y prophwydoliaethau a aethant o'r blaen am dano pan oedd yn Rhydychain. Nid ydyw llwyddiant athrofäol bob amser yn troi allan yn rhagfynegiad mor gywir. O'r llu o ddynion ieuainc a hynodant eu hunain mewn athrofa, nid ydyw y degwm o honynt yn dyfod i sylw yn y byd. Mae mwyafrif mawr y Senior Wranglers, a'r double first class, yn diflanu o olwg y byd unwaith y diflanant o'r pass list; nid oes pedwar ugain a deg y cant o honynt byth yn codi i'r golwg drachefn. Y mae genym awdurdod uchel dros ddyweyd, fod rhai a gymerasant raddau uchel mewn Prifysgolion wedi eu cael mewn safleoedd digon dinod mewn bywyd. "An Oxford education fits a man extremely well for the trade of a gentleman. I do not know for what other trade it does fit him, as at present constituted. More than one man who has taken high honours there, who has learnt faithfully all that the University undertakes to teach him, has been seen in these late years breaking stones upon a road in Australia. That was all he was found fit for when brought in contact with the primary realities of things." Dyma fel y llefarodd James Anthony Froude wrth efrydwyr St. Andrews yn 1869. Ond er credu fod yr engraifft a noda yn un eithriadol iawn, eto i gyd y mae yn ffaith fod eisieu y fath gyfuniad o alluoedd i godi i enwogrwydd yn y byd, fel y mae aml un sydd wedi bod yn hynod fedrus i feistroli llyfrau ac i gasglu gwybodaeth, wedi methu gorchfygu y rhwystrau oedd ar ei ffordd, pan ddaeth i gyffyrddiad â'r pethau a eilw Mr. Froude "the primary realities of things." Y mae hyn i raddau, o bosibl, yn ddyledus i waith y dyn ei hun yn gorphwys ar ei rwyfau, ac yn tynu ei hwyliau i fewn, wedi cyrhaedd nod ei uchelgais yn yr Athrofa. Nis gall dyn wneyd fawr o argraff ar y byd heb iddo yn barhâus fod ar ei oreu yn defnyddio ei alluoedd a'i wybodaeth; ac y mae llwyddiant athrofäol yn troi yn fagl ac yn rhwyd iddo os na fydd yn symbyliad i fwy o egni a llafur yn y dyfodol. Fe gyll y meddwl galluocaf ei awch a'i ddysgleirdeb, beth bynag fyddo ei lwyddiant athrofäol, os na fydd uchelgais ac egni yr athrofa yn troi yn weithgarwch parhâus mewn bywyd. Nid ydyw graddau uchaf unrhyw Athrofa yn ddim ynddynt eu hunain, ond i'r graddau y maent yn gymhwysder i ddefnyddioldeb helaethach, ac yn symbyliad iddo heb hyn fe ddechreua y goron wywo cyn bod y dyn wedi croesi trothwy ei Alma Mater allan i'r byd. Ar yr un pryd y mae yn rhaid addef fod llwyddiant athrofäol, pan y mae yn gynnyrch diwydrwydd, penderfyniad, ac egni meddyliol, yn addaw yn dda am ddyfodol dyn. Fe fydd cyfansoddiad y gymdeithas ddynol yn wahanol i'r peth ydyw cyn y gorfodir y cymhwysderau hyn i dori ceryg ar yr heol. Yr un, fel rheol, ydyw ammodau llwyddiant yn y byd ag yn yr Athrofa; ac os gall yr efrydydd llwyddiannus sydd wedi esgyn grisiau uchaf y Brifysgol, ddwyn diwydrwydd a brwdfrydedd ac egni ei fywyd athrofäol at ei alwedigaeth yn y byd, beth bynag fyddo, y mae yn sicr o fod yn llwyddiannus. Gwelwn hyn yn mywyd Mr. Gladstone ac eraill oeddynt yn gydefrydwyr âg ef yn Rhydychain; ac y mae yn

ffaith bur ddyddorol fod yn Ngweinyddiaeth ddiweddaf Mr. Gladstone saith o'r rhai a fuont yn llywyddion yr Oxford Union, y rhai wrth gwrs oeddynt ymysg efrydwyr goreu y Brifysgol.

Wedi ymadael â Rhydychain, fe dreuliodd Mr. Gladstone beth amser mewn taith ar Gyfandir Ewrop. Nid oes dim yn dylanwadu yn fwy iachus ar feddwl dyn diwylliedig, nac yn fwy effeithiol tuag at wneyd ei addysg yn berffaith, nag ymweliad â'r gwahanol wledydd. Nis gall dim fod yn well arweiniad i mewn i fywyd cyhoeddus. Y mae yn deffro y meddwl i lawn ymwybyddiaeth o hono ei hun a'i alluoedd, yn rhoddi adnabyddiaeth ddyfnach o'r natur ddynol, a chydymdeimlad cyffredinol â sefydliadau cymdeithasol. Ac yr ydym yn sicr na fu neb erioed yn teithio â mwy o allu ganddo i wneyd defnydd o'r oll welai ac a glywai i orphen ei addysg na Mr. Gladstone. Y mae y dyfyniadau o'i Ddyddlyfr a osodir o'n blaen gan ei fywgraffydd yn profi ei sylwadaeth graffus, ei wybodaeth eang, ynghyd a chyflawnder yr iaith oedd ganddo wrth law i ddesgrifio pob gwrthddrych a golygfa. "It gives," meddai Mr. Smith, "with great freshness the first impressions of a mind susceptible to the grand and imposing aspects of nature."

Dyma Mr. Gladstone yn awr ger ein bron yn ddyn ieuanc 23 oed, wedi gorphen ei addysg yn yr Athrofa, ac wedi rhoddi gorphenrwydd ar ei addysg mewn taith ddyddorol trwy ddinasoedd enwog deheudir Ewrop; ac y mae eu golygfeydd, a'u sefydliadau, a'u harferion, yn deimladau ac yn egwyddorion ynddo at wasanaeth bywyd yn y dyfodol. Y mae genym ei eiriau ef ei hun i ddesgrifio dylanwad yr addysg gafodd yn Rhydychain, yn gystal â'r hyn a ystyriai oedd yn ddiffygiol ynddi. Mewn araeth a draddododd ar agoriad y Palmerston Club yn Rhydychain Rhagfyr, 1878, cawn ef yn defnyddio y geiriau canlynol: "I trace in the education of Oxford of my own time one great defect. Perhaps it was my own fault; but I must admit that I did not learn when at Oxford that which I have learned since, viz. to set a due value on the imperishable and the inestimable principles of human liberty. The temper which, I think, too much prevailed in academic circles was, that liberty was regarded with jealousy, and fear could not be wholly dispensed with." Ni a welwn oddiwrth hyn fod Mr. Gladstone yn priodoli y lliw neillduol oedd ar ei syniadau politicaidd yn nechreu ei oes gyhoeddus i ddylanwad Rhydychain ar ei feddwl; hyny ydyw, os ydym yn ei ddeall yn iawn, y mae yn priodoli i hyn, ymysg pethau eraill, y ffaith ei fod wedi dechreu ei fywyd cyhoeddus fel Tory. Yn nadleuon yr Oxford Union cawn ei enw yn barhâus ymysg gwrthwynebwyr mesurau Diwygiadol y dydd. Un rheswm am hyn, fel y dywedodd ei hunan wedi hyn, ydoedd dylanwad enw Canning arno; ac oblegid hyn yr oedd yn dueddol i gymeryd yr un ochr ag ef gyda golwg ar gwestiwn y Reform Bill. Fe allai fod Canning yn hyn, fel llawer o ddynion blaenaf yr oes hono, o dan ddylanwad y Dymchweliad a gymerodd le yn Ffrainc ddiwedd y ganrif flaenorol. Wedi i'r môr gael ei gynhyrfu unwaith gan dymhestl, y mae yn ystormus ac yn gynhyrfus am beth amser wedi i'r dymhestl beidio ; y mae yr after-swell yn parhau yn hir wedi i'r gwynt ostegu. Y mae yr un fath mewn cymdeithas. Y mae cynhyrfiadau mawrion yn gadael aflonyddwch ar ol, sydd yn effeithio yn ddystaw ac yn anweledig ar ddynion yn hir wedi i'r cynhwrf ei hunan fyned heibio. Ac nid oedd

after-swell y Dymchweliad Ffrengig wedi tawelu pan oedd Canning yn byw ac yn anterth ei ddylanwad, yr amser yr oedd Mr. Gladstone yn llanc. Nid oedd yn rhyfedd fod y gŵr hwnw yn edrych gydag eiddigedd ar ryddid y bobl, ac o ganlyniad yn wrthwynebol i reform, pan gofiwn y golygfeydd gymerodd le yn Ffrainc yr adeg hono. Trwy Canning fe ymddengys fod oldymhestl y Dymchweliad hwnw wedi cyrhaedd Mr. Gladstone; a phan gymerwn i ystyriaeth yr hyn a ddywed ef ei hun am awyrgylch Rhydychain, a'r duedd oedd yn y Brifysgol i edrych ar ryddid ac awdurdod y bobl fel peth peryglus, y mae gwrthwynebiad yr efrydydd ieuanc hyawdl yn erbyn diwygiad yn senedd fechan y Brifysgol, yn beth sydd yn sefyll mewn goleuni pur amlwg. Ond nid hir y bu ei feddwl galluog cyn taflu ymaith y llyffetheiriau hyn. Yr oedd yr addysg a'r ddysgyblaeth gafodd gan ei dad ar yr aelwyd gartref pan yn ddeuddeg oed, pan ddysgid ef i chwilio am resymau ac achosion pethau, i fyned yn drech na dylanwad Rhydychain; yr hon, fel y sylwa un awdwr, a gyfeiriai ei sylw at ffeithiau a chanlyniadau, yn hytrach nag at egwyddorion sylfaenol. Yr oedd ei feddwl yn agored i oleuni; ac yr oedd ganddo ddigon o wroldeb a chydwybodolrwydd i'w ddilyn, hyd yn nod pan yn ei arwain oddiwrth y blaid y dechreuodd fyw gyda hwynt. A dyddorol iawn fydd i ni wylied y cyfnewidiad hwn ynddo, a'i weled yn dringo i fyny i enwogrwydd fel arweinydd ei blaid fabwysiedig, a Phrifweinidog ei wlad.

Yn y flwyddyn 1833, y Senedd gyntaf a gyfarfyddodd ar ol pasio y Reform Bill, y cymerodd Mr. Gladstone ei le gyntaf yn Senedd Prydain fel aelod dros Newark. Y mae ei anerchiad cyntaf i'r etholwyr mor dda, ac mor wahanol i'r anerchiadau ystrydebol a glywyd ac a ddarllenwyd yn y newyddiaduron yn ystod yr etholiad diweddaf, fel yr haedda gael ei osod o flaen y darllenydd yn gyflawn pe byddai ein gofod yn caniatâu. Er ei fod yn dyfod oddiwrth ymgeisydd a restrai ei hunan y pryd hwnw gyda'r Toryaid, y mae yn fwy rhyddfrydig yn ei ysbryd na'r hyn a geir oddiwrth aml i Ryddfrydwr proffesedig yn y dyddiau hyn; ac y mae yn cyffwrdd mewn modd goleu ac annibynol â chwestiynau mawrion y dydd. Rhoddwn un dyfyniad yn unig, yr hwn sydd yn cynnwys un o egwyddorion pwysicaf doethineb gwleidyddol; ac ar yr un pryd, yn dangos parch yr ymgeisydd ieuanc i Air Duw. Yr oedd Rhyddhâd y Caethion y pryd hwn yn gwthio ei hunan yn gyflym i sylw y wlad, ac yn un o erthyglau pwysicaf y credo politicaidd. Ar y mater hwn dywed Mr. Gladstone ei farn mewn modd eglur ac annibynol yn y geiriau canlynol ::

Gyda golwg ar gyfreithlondeb Caethwasanaeth ynddo ei hun, yr wyf yn ei gydnabod yn unig mor bell ag y mae yn cynnwys hawl un dyn i wasanaeth un arall; ac yr wyf yn ei sylfaenu ar y ffaith fod yr Ysgrythyrau, yr awdurdod uchaf ar y cyfryw fater, yn rhoddi cyfarwyddiadau i bersonau yn sefyll yn y berthynas o feistr a chaethwas, pa fodd i ymddwyn yn y berthynas hono; ond pe byddai y peth yn bechadurus ynddo ei hun, ni fuasai yn rhoddi y fath gyfarwyddiadau. Gan ystyried pechod fel achos pob darostyngiad, ymdrecha, a hyny yn y modd mwyaf llwyddiannus, i feddyginiaethu yr olaf trwy ddiwreiddio y blaenaf. Yr ydym yn cytuno y dylid diddymu caethiwed tymmorol a moesol y caethwas. Y cwestiwn rhyngom ydyw gyda golwg ar y drefn o wneyd hyn, a'r drefn yn unig. Yn awr ymosoda yr Ysgrythyrau ar y drwg moesol o flaen yr un tymmorol, ac ar y tymmorol ymosoda trwy y moesol; ac yr ydwyf yn foddlawn ar y drefn sefydlwyd gan yr Ysgrythyr.

I'r dyben hyn, dymunwn weled yn cael ei osod ar droed ar unwaith, trwy awdur

dod gyfiawn a brenhinol, gyfundrefn eang ac effeithiol o addysg Gristionogol, heb un amcan i wrthwynebu cynlluniau daionus a doeth personau unigol er sicrhâu dyrchafiad crefyddol y Negroaid, ond yn hytrach i wneyd yn gyflawn ac effeithiol yr hyn a allant hwy wneyd yn unig mewn rhan.

Gyda golwg ar ryddhâd uniongyrchol, pa un bynag ai gyda iawn-compensation— neu heb hyny, y mae amryw resymau llai yn ei erbyn; ond yr hyn sydd yn pwyso drymaf yn fy meddwl i ydyw, y byddai iddo, fel yr wyf yn mawr ofni, gyfnewid y drygau sydd yn awr o amgylch y Negro am eraill fyddai yn fwy,- -am ddirywiad i ddyfnach darostyngiad, os nad i ryfel a thywallt gwaed. Gwneler cyfaddasder yn ammod rhyddid; a bydded i ni ymdrechu ei ddwyn i'r sefyllfa hono trwy y llwybr byraf sydd yn bosibl. Rhodder yn ei feddiant foddion i ennill ei ryddid trwy arferion gonest a diwyd; ac felly trwy yr un moddion ag yr ennilla ei ryddid y cyrhaedda hefyd gymhwysder i'w ddefnyddio; ac felly yr wyf yn gobeithio yn ddifrifol, heb dywallt gwaed, heb berygl i feddiannau, gyda bendith gyflawn i'r Negro, a chyda'r cyflymdra mwyaf y gallai doethineb ei ganiatâu, nyni a gyrhaeddwn y terfyn mwyaf dymunol hwnw-diddymiad hollol y gaethwasanaeth.

Ni a welwn oddiwrth y dyfyniad hwn, fod gan yr ymgeisydd ieuanc dysgedig barch dwfn i Air Duw; nid ydoedd uwchlaw cyfeirio at ei ddoethineb, a chyfaddef ei hun yn foddlawn i ddilyn ei arweiniad-peth na welir yn aml mewn ymgeiswyr seneddol, ac yn enwedig rhai ieuainc, yn y dyddiau hyn. Ni a welwn yma hefyd y doethineb a'r pwyll sydd yn anhebgorol i wladweinydd diogel; y gofal fod pob cyfnewidiad yn neddfau y wladwriaeth yn gorphwys ar sylfaen sicr yn nheimlad y wlad; ac y mae yn bur sicr fod ychydig o'r elfen hono i'w gweled, ag yr ystyriai yr ymgeisydd ei hun yn ddyledus i Rydychain am dani -eiddigedd ac ofn gyda golwg ar ryddid y bobl.

Rhoddodd boneddigeiddrwydd a hyawdledd Mr. Gladstone yn ei ymddangosiad cyntaf hwn ger bron y cyhoedd foddlonrwydd cyffredinol; ac mewn newyddiadur Toryaidd fe ymddangosodd y geiriau hyn, ac y mae yn debyg fod y prophwyd a'u hysgrifenodd yn awr yn fyw: "He is a gentleman of amiable manners, and the most extraordinary talent; and we venture to predict, without the slightest exaggeration, that he will one day be classed amongst the most able statesmen in the British Senate."

Y mae y Senedd gyfarfyddodd yn 1833 yn enwog yn hanes y wlad fel yr un ddygodd oddiamgylch ryddhâd y caethion; ac yn enwog yn hanes Mr. Gladstone fel yr un a wrandawodd ar ei araeth wyryfol. "Mr. Gladstone's maiden speech," ysgrifena ei fywgraffydd, "in the House of Commons differed completely from the first melodramatic display of his great rival. From the first the young member for Newark appears to have favourably impressed the House. Modest in demeanour, earnest in manners, and fluent of speech, he at once commanded the respect and attention of his fellow-members." Ar yr achlysur hwn cododd ar yr 17eg o Fai, pan oedd y cwestiwn o ryddhâd y caethion ger bron y Tŷ, i siarad mewn atebiad i sylwadau a wnaethai Arglwydd Howick, mewn cyfeiriad at ystad oedd gan ei dad yn Demerara. Ar y 3ydd o Fehefin siaradodd drachefn, yn y ddadl ohiriedig ar ryddhâd y caethion, pan atebodd yn fwy manwl sylwadau Arglwydd Howick, ac yr ymdrinodd â'r cwestiwn cyffredinol oedd o flaen y Tŷ. Yr oedd yn ffafriol i ryddhâd y caethion, er ar yr un pryd yn anffafriol i ryddhâd disymwth ac uniongyrchol; ac yr oedd hefyd yn ffafriol i roddi iawn i'r caethfeistriaid am y golled a

ddisgynai arnynt mewn canlyniad i'r rhyddhâd hwn. Yn ei holl areithiau y flwyddyn hon, dangosodd wrthwynebiad i Fesurau pwysicaf y Weinyddiaeth Ryddfrydol oedd mewn awdurdod ar y pryd. Ar yr 8fed o Orphenaf, siaradodd ar fesur a ddygwyd i mewn i'r Tŷ gan Arglwydd Althorp, mewn cysylltiad â'r Eglwys yn yr Iwerddon; ac nid oedd dim yn yr araeth hono yn rhoddi yr awgrym lleiaf i un dewin mai efe fyddai yr un a ddadgysylltai yr Eglwys hono oddiwrth y Wladwriaeth. Yr oedd y pryd hwn yn barod i amddiffyn yr Eglwys Wyddelig, ac yn anfoddlawn i weled y Llywodraeth yn cymeryd un cam gwrthwynebol iddi. Siaradodd hefyd yn erbyn y mesur a ddygwyd i mewn gan Mr. Hume, i wneyd i ffwrdd â'r angenrheidrwydd o arwyddo cydsyniad âg Erthyglau yr Eglwys Sefydledig ar fynediad un i Brifysgol Rhydychain. Nid rhyfedd, gan hyny, ei fod yn cael ei ystyried y pryd hwn "the rising hope of the stern and unbending Tories."

Yn 1834 syrthiodd Gweinyddiaeth Arglwydd Melbourne. Derbyniodd Syr Robert Peel orchymyn oddiwrth y Brenin i ffurfio Gweinyddiaeth, ac ynddi derbyniodd Mr. Gladstone y swydd o un o Arglwyddi lleiaf y Trysorlys-Junior Lord of the Treasury. Yn Chwef. 1835, yn fuan wedi cyfarfyddiad y Senedd, dyrchafwyd ef i fod yn Is-ysgrifenydd y Trefedigaethau. Ar y 30ain o Fawrth y flwyddyn hon, siaradodd drachefn ar yr Eglwys yn yr Iwerddon, ar gynnygiad Arglwydd Russell, "Fod y Tŷ hwn yn ffurfio ei hun yn bwyllgor i gymeryd i ystyriaeth waddoliadau yr Eglwys yn Iwerddon." Siaradodd yn erbyn y cynnygiad; ac yr oedd yn ymddangos can belled ag erioed oddiwrth un symudiad fuasai yn debyg o'i wneyd un amser yn offeryn i ddadgysylltu yr Eglwys. Ond gorchfygwyd y Llywodraeth yr oedd yn aelod o honi; ac mewn canlyniad aeth allan o'i swydd gyda'r aelodau eraill a berthynent iddi. Cawn ef mor ddifrifol ag erioed yn ei wrthwynebiad i Fesurau y Weinyddiaeth Ryddfrydol o dan arweiniad Arglwydd Melbourne drachefn; ac yn y ddadl ar Fesur Mr. Spring Rice, Canghellydd y Trysorlys, i ad-drefnu Trethoedd Eglwysig, modd y byddent yn fwy didramgwydd i Ymneillduwyr, ac ar yr un pryd yn gydweddol â hawliau Eglwyswyr, ni a'i cawn ef drachefn gyda'i hyawdledd arferol yn gwrthwynebu yr ymgais i gyffwrdd â'r sefydliad oedd mor gysegredig yn ei olwg.

Ar ddadgorfforiad y Senedd mewn canlyniad i farwolaeth William IV., Mehefin 20fed, 1837, daeth Mr. Gladstone ymlaen drachefn fel ymgeisydd dros Newark, a dychwelwyd ef. Yn 1838, y flwyddyn ar ol yr etholiad, traddododd araeth yn y Senedd ar y ddadl ynghylch Negro Apprenticeship, a'i cododd i'r dosbarth blaenaf o areithwyr Seneddol. Y dydd ar ol yr araeth, llongyfarchai y Times ef am dani, gan gydnabod ei bod am nerth a hyawdledd yn llwyddiant perffaith. Yn ngeiriau Mr. Smith, "This speech on Negro Apprenticeship, though delivered on the unpopular side of the question, confessedly brought him into the front rank of Parliamentary debaters. Detailed in facts and fervid in appeal, it was alike successful as an example of strong and vigorous argument, and as an oratorical display." Yn yr araeth hon siaradai o blaid y penderfyniad y daethpwyd iddo pan basiwyd deddf rhyddhâd y caethion. Trwy y ddeddf hono diddymwyd y

« ก่อนหน้าดำเนินการต่อ
 »