ÀҾ˹éÒ˹ѧÊ×Í
PDF
ePub
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small]

Y TRAETHODYDD.

EIRIOLAETH YR YSBRYD.

YR ydym yn cael ein dysgu yn eglur yn y Bibl fod erfyn dros y saint yn rhan o waith yr Ysbryd Glân. Dyma ydyw y dystiolaeth ysgrythyrol ar y mater hwn: "A'r un ffunud y mae yr Ysbryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom megys y dylem; eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni âg ocheneidiau annhraethadwy. A'r hwn sydd yn chwilio y calonau a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint" (Rhuf. viii. 26, 27). Yn yr un bennod a'r geiriau hyn, fe briodolir amryw o bethau i'r Trydydd Person yn y Drindod sanctaidd, pa rai sydd yn dwyn perthynas agos a hanfodol âg iachawdwriaeth pobl yr Arglwydd. Y mae yn arweinydd iddynt; canys y maent yn rhodio "yn ol yr Ysbryd" (adn. 1, 4, 14). Y mae "yn trigo ynddynt" (adn. 9, 11); ac y maent hwythau mewn cymundeb o'r fath agosaf âg ef-maent "yn yr Ysbryd" (adn. 9). Efe fydd y gweithredydd yn eu hadgyfodiad (adn. 11). Trwyddo ef y maent "yn marweiddio gweithredoedd y corff" (adn. 13); ac y maent yn derbyn tystiolaeth ganddo eu bod yn blant i Dduw (adn. 16). Ac yn y geiriau a ddyfynasom fe briodolir eiriolaeth ar ran y saint i'r un Person bendigedig.

Y mae genym ddau ofyniad i'w hateb: yn gyntaf, Ymha beth y mae eiriolaeth yr Ysbryd yn gynnwysedig? ac yn ail, Beth yw y gwahaniaeth rhwng eiriolaeth yr Ysbryd ac eiriolaeth y Mab? Cynnwysir yr oll sydd i'w draethu am yr athrawiaeth yr ydym yn awr wedi ei chymeryd dan ystyriaeth yn yr ymchwiliad i'r ddau gwestiwn hyn.

Yn y geiriau lle y gosodir i lawr yr athrawiaeth am eiriolaeth yr Ysbryd, mae y gwirionedd fod yr Ysbryd Glân yn erfyn dros y saint yn cael ei nodi fel prawf ei fod yn cynnorthwyo eu gwendid, sef y gwendid na wyddant pa beth i weddio megys ag y dylent. A'r cynnorthwy sydd yn amlwg yn angenrheidiol ar bobl Dduw yn ngwyneb y diffyg neu y "gwendid" hwn ydyw, eu bod yn cael eu dysgu pa beth a pha fodd i weddio. Nid ydyw yn perthyn i ni yn bresennol i brofi fod y

B

[ocr errors]

cyfryw wendid yn beth sydd yn bod. Mae y saint yn brofiadol iawn o hono. A hawdd y gallant, wrth agosâu at orsedd gras, ddefnyddio iaith y dysgyblion wrth eu Hathraw, fel yn wir y mae yn arfer gyffred inol ganddynt i wneyd, gan ddywedyd, "Arglwydd, dysg ni i weddïo.” Y ddysgeidiaeth hon a roddir i'r saint gan yr Ysbryd Glân. Y mae efe yn eu cynhyrfu hwynt i weddio, yn rhoddi amlygiad i'w meddyliau ac yn cynnyrchu ynddynt deimlad dwys o'u hangen, ac yn eu galluogi i agosâu at Dduw yn hyderus, ac i wneuthur eu deisyfiadau yn hysbys mewn modd cymeradwy. Ac oblegid hyn y mae yn cael ei alw yn "Ysbryd gweddïau." A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, ysbryd gras a gweddïau" (Zech. xii. 10). Ac am hyn hefyd y ceir gan yr Apostol Paul yn ei lythyr at yr Ephesiaid, ynglŷn â'r annogaeth i ymwisgo yn holl arfogaeth Duw, y cyfarwyddyd, "Gan weddio bob amser a phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd." Y mae perthynas gweddiau y saint â'r Ysbryd Glân yn agos a hanfodol ; y mae a fyno yr Ysbryd â'u gweddïau-eu gwaith yn gweddïo, a chynnwys eu gweddïau, a'r unig agwedd addas i weddïau derbyniol gan Dduw, i'r fath raddau, fel y dywedir am danynt eu bod "yn yr Ysbryd."

[ocr errors]

Yn y berthynas agos hon rhwng yr Ysbryd Sanctaidd a gweddïau y saint y mae ei eiriolaeth ef drostynt yn gorwedd. Y mae efe yn 'erfyn," oblegid ei fod yn ein cynhyrfu ac yn ein galluogi ni i erfyn ar Dduw am y cyfryw fendithion a thrugareddau ag yr agorwyd ein llygaid i weled a'n calonau i deimlo ein bod mewn gwir a mawr angen am danynt. Ac y mae efe yn erfyn âg ocheneidiau am ei fod, fel y dywed Augustin, "yn ocheneidio ynom ni, yn gymaint ag mai efe sydd yn gwneuthur i ni ocheneidio." A dyma ydyw yr esboniad a roddir ar y geiriau gan yr oll o'r prif dduwinyddion ac esbonwyr. Yn yr ugeinfed bennod o'r trydydd llyfr o'i Institutes, y mae Calvin yn ysgrifenu fel hyn: "Yn gymaint ag 'na wyddom pa beth i weddïo megys ag y dylem,' 'yr Ysbryd ei hun sydd yn erfyn trosom âg ocheneidiau annhraethadwy;' nid ei fod ef yn weithredol yn gweddio neu yn ocheneidio, ond y mae yn ein cynhyrfu ni i ocheneidiau, a dymuniadau, ac ymddiried, y rhai y mae ein galluoedd naturiol ni yn gwbl anabl i'w cynnyrchu." Fel y gallesid dysgwyl, y mae Dr. Owen, yn ei draethawd clodfawr ar Berson a Gwaith yr Ysbryd Glân, yn gwneuthur agoriad helaeth a manwl i'r geriau y mae'r athrawiaeth dan sylw yn seiliedig arnynt, ac y mae yn rhoddi un bennod gyfan i draethu ar "Waith yr Ysbryd Glân gyda golwg ar fater gweddi," trwy ddangos yn gyntaf mai efe yn unig sydd yn abl i roddi i ni y fath ddealltwriaeth am ein hanghenion ag i'n galluogi i wneuthur yn hysbys ein hanghenion i Dduw mewn gweddiau a deisyfiadau; ac yn ail, mai yr Ysbryd sydd yn dadguddio i ni y gras a'r drugaredd sydd wedi eu darparu yn addewidion Duw i gyflawni ein rhaid; ac yn drydydd, mai efe yn unig sydd yn arwain y saint i ofyn am bob peth gydag amcan cywir ac i ddybenion priodol, canys y mae efe "yn erfyn trosom yn ol Duw" -hyny yw, yn ol ei feddwl neu ei ewyllys ef. Ac o dan y penawd diweddaf y mae yn gwneuthur dyfyniad o ysgrifeniadau Origen, lle mae yr awdwr hwnw yn cymharu gwaith yr Ysbryd yn cynnorthwyo y saint i weddio i waith athraw yn dysgu y llythyrenau i ddysgybl ieuanc

trwy eu dyweyd o'i flaen. Ac yna dywed, "Y mae yn ei wneuthur ynom ni a thrwom ni, neu y mae yn ein galluogi ni felly i wneuthur." Y mae Manton hefyd, mewn tair o'i Bregethau ar yr Wythfed o'r Rhufeiniaid, wedi traethu yn helaeth, gyda manylwch mawr, a chyda'i feddylgarwch arferol, ar yr un mater; ac nis gallwn fyned heibio heb ddyfynu rhai o'i ymadroddion :

[ocr errors]

"Yr Ysbryd ei hun sydd yn erfyn trosom ni;" nid fod yr Ysbryd yn gweddïo, eithr yn peri i ni weddïo-sets us a-praying. Fel y dywedir yma fod yr Ysbryd yn gweddio ynom ni, felly mewn man arall y dywedir ein bod ni yn gweddio yn yr Ysbryd Glân" (Judas 20). Y mae efe yn gweddïo, fel y dywedir fod Solomon yn adeiladu'r deml; nid oedd efe yn cyflawni gwaith y saer a'r saer maen, ond yr oedd yn cyfarwyddo pa fodd i adeiladu, yn cyflogi gweithwyr, ac yn eu cyflenwi âg arian a defnyddiau. Y mae yn cynnyrchu ynom ni ocheneidiau dwysion mewn gweddi, neu yn gweithio i fyny ein calonau at Dduw gyda dymuniadau yn cael eu hamlygu mewn ocheneidiau a gruddfanau. 1. Y mae yn cyfarwyddo ac yn trefnu ein deisyfiadau fel ag iddynt fod yn addas i'w dyben pwysig, sef boddhâu Duw. 2. Mae yn bywiocâu ein dymuniadau mewn gweddi. 3. Mae yn ein cefnogi ac yn rhoddi hyfdra i ni ddyfod at Dduw fel Tad.

[ocr errors]
[ocr errors]

"Mae yn erfyn;" hyny yw, mae yn ein cyfarwyddo ac yn ein cynhyrfu ni i weddïo; mae yn gwneuthur defnydd o'n cynneddfau, -meddwl a chalon a thafod; ïe, ac o'n grasau, ffydd, gobaith a chariad. Mae yn cyfnerthu ein ffydd, yn bywiocâu ein cariad, yn grymuso ein gobaith; fel megys ag y dywedir yn Matt. x. 20, "Canys nid chwychwi yw y rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch," pan y mae yn ein galluogi i ddyweyd yr hyn sydd gymhwys a phriodol ger bron awdurdodau dynol. Felly y mae yn erfyn pan y mae yn galluogi creaduriaid deallus i lefaru yr hyn sydd gymhwys a phriodol ger bron gorsedd gras, yr hyn a fyddo yn gweddu i ffydd, gobaith, a chariad.

Y mae yr esbonwyr yn rhoddi yr un eglurhâd. Megys Alford: "Ysbryd sanctaidd Duw, yr hwn sydd yn trigo ynom, ac yn gwybod ein hanghenion yn well na ni ein hunain, sydd yn erfyn yn ein gweddïau." Felly De Wette, Tholuck, ac Olshausen. A'r un modd Philippi yn yr ail gyfrol o'i waith ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, ddygwyd allan yn ddiweddar gan y Mri. Clark o Edinburgh: "Yn mhriodas agos Ysbryd Duw âg ysbryd dyn, y mae ymgnawdoliad o'r blaenaf, megys, yn cymeryd lle, fel y gellir ymron cystal ddesgrifio iaith gweision Duw fel ymadroddion Ysbryd Duw, ag y gellir desgrifio ocheneidiau plant Duw fel profiad a mynegiad o eiddo Ysbryd Duw. Yr Ysbryd hwn ei hun, gan hyny, trwy gyfrwng yr ysbryd dynol, yn cael ei feddiannu a'i hydreiddio ganddo Ef, sydd yn dwyn ymlaen ei weithrediadau yn ngeiriau, cyflawniadau, gweddiau, ac ocheneidiau y saint." Ac yn ddiweddglo ar hyn oll, yr ydym yn cyflwyno yr eglurhâd a roddir gan Matthew Henry: "Mae yr Ysbryd yn y gair yn cynnorthwyo; llawer o gyfarwyddiadau ac addewidion sydd yn y gair i'n cymhorth. Yr Ysbryd yn y galon sydd yn cynnorthwyo, yn trigo ynom, yn gweithio ynom fel Ysbryd gras a gweddi, yn enwedig gyda golwg ar y gwendidau yr ydym danynt pan yn dyoddef, pan y mae ein ffydd yn fwyaf agored i fethu.. Mae yn addysgu i ni ein ceisiadau, yn traethu ein deisyfiadau, yn tynu i fyny ein dadl drosom. Mae yr Ysbryd, fel yr Ysbryd sydd yn goleuo, yn ein dysgu pa beth i weddio; ac fel yr Ysbryd sydd yn sancteiddio, yn gweithio ac yn cynhyrfu grasau gweddi; ac fel yr Ysbryd sydd yn dyddanu, yn dystewi

ein hofnau, ac yn ein cymhorth dros bob digalondid. Yr Ysbryd Glân yw ffynnonell ein holl ddymuniadau a'n hanadliadau tuag at Dduw."

66

Y mae yr Ysbryd Glân felly yn cymeryd rhan mor fawr ac mor hanfodol yn ngweddiau y saint, fel y gellir edrych ar eu deisyfiadau fel ei erfyniau ef. Byddai ei fod ef o gwbl, ac i'r graddau lleiaf, yn ymwneyd â'n gweddïau, yn rhoddi gwerth anmhrisiadwy arnynt ac yn ddadl gref drostynt. Ond pan ystyriwn fod yr Ysbryd Glân yn gwneuthur yr oll a ddywedwyd, y maent yn cael eu dyrchafu i fod yn rhywbeth mwy na'n gweddiau ni at Dduw; y maent yn eiriolaeth iddo ef gyda Duw drosom ni. Fe ddywedir am eiriolaeth y Mab fod ei waith yn ymddangos" yn y nefoedd, heb ei fod yn yngan gair nac yn gwneuthur dim, yn ddigon o ddadl dros bechadur; mewn geiriau eraill, fod y Mab, wrth ymddangos yn ein natur ni ar ddeheulaw Duw ac arddangos arwyddion ei ddyoddefaint yma ar y ddaear, yn eiriol drosom. Felly y mae gwaith yr Ysbryd yn disgyn i'n calonau ac yn trigo ynom i'n tueddu a'n hysgogi at bob daioni, ac i'n cyfarwyddo mewn modd arbenig pa beth a pha fodd i weddïo, yn eiriolaeth rymus ac effeithiol drosom. Fe nodir dau beth i egluro hyn ac i gadarnhâu ffydd y saint yn y gwirionedd hwn. "Y mae yr Ysbryd yn erfyn trosom ni âg ocheneidiau annhraethadwy;" ac y mae "yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint."

[ocr errors]
[ocr errors]

Yn un peth i brofi grymusder ac effeithiolrwydd eiriolaeth yr Ysbryd, y mae yn erfyn trosom âg "ocheneidiau annhraethadwy." Mae yn erfyn trosom nid yn unig mewn dymuniadau dwys, deisyfiadau taer, gweddiau dyfal, trwy ddiolchiadau cynhes ac addoliad cywir, eithr hyd yn nod "âg ocheneidiau annhraethadwy." Dyma ddau air cryf iawn. Yr un yw'r gair a gyfieithir "ocheneidiau" ag a ddefnyddir i ddynodi "griddfan" Israel yn yr Aipht (Act. vii. 34). Mae yn tarddu o wreiddyn yn golygu cyfyngdra. Yr ydym yn cyfarfod â'r ferf sydd yn tarddu o'r un gwreiddyn amryw weithiau. Gan gyfeirio at gystuddiau a gofidiau y bywyd hwn dywed yr Apostol, Yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddysgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth y corff" (Rhuf. viii. 23). "Canys am hyny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n tŷ sydd o'r nef. Canys ninnau hefyd, y rhai ym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio, yn llwythog (2 Cor. v. 2, 4). Y mae'r gair "ocheneidiau," gan hyny, yn arwyddocâu amlygiad o deimlad nerthol a dwfn, teimlad un wedi ei wasgu i le cyfyng. Y mae y teimlad hwn mor angerddol fel nas gellir ei osod allan mewn geiriau; a'r unig ffordd y mae yn cael ymwared iddo ei hun ydyw mewn ocheneidiau, ac am hyny y mae'r ocheneidiau yn cael eu dynodi yn "annhraethadwy." Dyma yr unig fan yr ydym yn cyfarfod a'r gair hwn. Gwir fod y gair "annhraethadwy" yn ein cyfieithiad ni hefyd yn 2 Cor. xii. 4,-"Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau annhraethadwy eithr nid yr un gair ydyw yn y gwreiddiol, a'i ystyr yn amlwg yw nid ei fod yn beth anmhosibl adrodd neu lefaru y geiriau-yr oedd eu bod yn "eiriau" yn profi eu bod yn llefaradwy,-ond fel y mae yr adnod ei hun yn myned ymlaen i ddyweyd, "y rhai nid yw gyfreithlawn i ddyn eu hadrodd." I wahaniaethu rhwng y ddau air gwreiddiol, gellir cyf

« ¡è͹˹éÒ´Óà¹Ô¹¡ÒõèÍ
 »